Mae gan bob clwb a chymdeithas dri aelod craidd o'r pwyllgor: Llywydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd. Yma gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn Ysgrifennydd grwp myfyrwyr…
Mae gan bob clwb a chymdeithas dri aelod craidd o'r pwyllgor: Llywydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd. Yma gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn Ysgrifennydd grwp myfyrwyr…
Rôl: Ysgrifennydd
Enwau amgen: Weithiau cyfunir rôl Ysgrifennydd ac Is-lywydd
Ymrwymiad / Hyd y Swydd: Swydd etholedig am hyd at un flwyddyn academaidd
Profiad blaenorol sydd ei angen: Dim o gwbl; caiff pob hyfforddiant ei ddarparu.
Diben y rôl
Rôl ysgrifennydd yw trefnu cyfarfodydd, digwyddiadau, a phob agwedd ar gyfathrebu sy'n ymwneud â'r gymdeithas/clwb. Chi yw'r prif gyswllt ar gyfer derbyn ac anfon manylion gweinyddol ar gyfer yr holl ddigwyddiadau o ran aelodau a mudiadau allanol. Mae hyn yn cynnwys UMAber.
Cyfrifoldebau cyffredin
- Cymryd cofnodion yn yr holl gyfarfodydd, gan gynnwys y CCB
- Cynnal cyfathrebiadau gweinyddol rhwng UMAber a’r aelodau
- Cymryd rôl arweiniol wrth archebu ystafelloedd neu gyfleusterau
- Goruchwylio cyfrif e-bost y clwb/cymdeithas
- Mynychu sesiwn sefydlu ac unrhyw hyfforddiant ychwanegol a ddarperir gan yr UM.
- Cynnal dogfennau craidd y clwb/cymdeithas a’u gwneud yn hygyrch
- Yn achos clybiau/cymdeithasau sy'n ymaelodi â chorff allanol (e.e. Corff Llywodraethu Cenedlaethol neu elusen gysylltiedig) gallent hefyd fod y prif gyswllt rhwng y grwp a'r corff hwnnw.
Sut fydd hyn o fantais i chi
Dyma'ch cyfle i gyflawni rôl flaenllaw mewn Clwb neu Gymdeithas sy’n golygu llawer i chi, i helpu i'w ddatblygu i sicrhau ei fod y gorau y gall fod. Wrth wneud hyn byddwch yn cael cwrdd a gweithio gyda myfyrwyr eraill o'r un anian, yn ogystal â datblygu eich sgiliau, gwybodaeth a chyflogadwyedd cyffredinol eich hun, yn ogystal â'ch aelodau, trwy amrywiaeth o gyfleoedd.
Yn sgil bod yn aelod o'r pwyllgor, byddwch hefyd yn ennill cydnabyddiaeth am eich oriau gwirfoddoli a’ch sgiliau trwy weithio tuag at Wobr Aber. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gael eich enwebu am wobr fel rhan o'r Gwobrau Chwaraeon neu Gymdeithasau.
Pam rydyn ni eich eisiau CHI?
Rydyn ni am i fyfyrwyr Aber garu bywyd myfyrwyr a bod yn barod am unrhyw beth. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn addo’ch darparu â chyfleoedd i ddod o hyd i'ch Cymuned Aber, eich cynorthwyo i fod yn hapus ac yn iach, a helpu i dyfu eich sgiliau a'ch profiadau. Mae Tîm Aber yn cwmpasu cymaint o hyn, felly os ydych chi'n angerddol am eich Clwb/Cymdeithas, rydyn ni am weithio gyda chi i wireddu'r weledigaeth hon. Does dim ffordd well o wneud hyn na chael eich ethol i bwyllgor. Trwy ddod yn aelod o bwyllgor, byddwch wedi'ch ethol fel y person gorau i gyflawni'r rôl o'ch dewis.
Oes gennych chi unrhyw gwestiynau?
Cysylltwch ag aelod o'r Tîm Cyfleoedd:
Cydlynydd Datblygu Cymdeithasau - Tom (thm35@aber.ac.uk)
Cydlynydd Chwaraeon - Emily (ems47@aber.ac.uk)
Sylwch y gall cyfrifoldebau pob rôl amrywio rhwng clybiau a chymdeithasau. Gallwch weld eu cyfansoddiad unigol ar eu tudalen we, neu cysylltwch ag aelod o'r pwyllgor cyfredol.
Sefyll |
Pleidleisio |
Yn agor 10am dydd Llun 15fed Mawrth tan 10am dydd Llun 19eg Ebrill |
Bydd y pleidleisio'n dechrau am 10am ddydd Llun 26ain Ebrill tan 3pm ddydd Gwener 30ain Ebrill |