Pethau hoffwn i fod wedi gwybod cyn symud i Aberystwyth

#HeloAber Lle unigryw iawn yw Aberystwyth – bydd y dref yn cynnig profiadau na fuaset ti o reidrwydd yn eu cael mewn dinas brifysgol arferol. Efallai nad oes llawer ohonoch chi wedi ymweld ag Aberystwyth neu wedi treulio ambell ddiwrnod yn unig. Felly, rydyn ni wedi rhoi rhestr at ei gilydd o bethau hoffem ni fod wedi gwybod cyn symud i Aber.

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

#HeloAber

Lle unigryw iawn yw Aberystwyth – bydd y dref yn cynnig profiadau na fuaset ti o reidrwydd yn eu cael mewn dinas brifysgol arferol. Efallai nad oes llawer ohonoch chi wedi ymweld ag Aberystwyth neu wedi treulio ambell ddiwrnod yn unig. Felly, rydyn ni wedi rhoi rhestr at ei gilydd o bethau hoffem ni fod wedi gwybod cyn symud i Aber.

  • Ar yr un pryd, mae Aberystwyth yn fach ac yn fawr iawn – gall Aberystwyth dy gamarwain gan feddwl bod cannoedd o filoedd o bobl yn y dref a na fyddi di byth yn dod i’w nabod na dod ar eu traws a mynd heibio i ddieithriaid fyddi di bob dydd. Mewn gwirionedd, byddi di’n dod ar draws cymaint o bobl bob dydd y byddi di’n nabod trwy ffrindiau mewn cyffredin neu weli di wynebau cyfarwydd o dy gwmpas yn amlach. Paid ag ofni cyflwyno dy hun a mynd allan o dy gylch cysur – mae rhan fwyaf o’r bobl yma yn gyfeillgar iawn, ac wyt ti’n debyg o’u gweld nhw eto felly paid â bod ofn rhag dweud helo.

 

  • Mae’r gwylanod yma yn erchyll – gwna yn siwr dy fod yn cydio’n dynn yn dy sglodion tra ar lan y môr a chymera ofal ychwanegol pan yn cerdded gyda bwyd rhwng yr UM a chanolfan y celfyddydau! Rydyn ni wedi gweld myfyrwyr diniwed, llawer o weithiau, yn cael dwyn eu cinio, felly does dim rhaid i ti fod yn un ohonynt.

 

  • Mae pawb yn nabod pawb – yr ail beth am faint y dref hon a bod pawb yn dy nabod di drwy rywun arall yw’r ffaith y bydd pawb yn gwybod beth wnest ti yn Downies y noson honno yn wythnos y glas... Paid â gwneud pethau yn wythnos y glas a fydd yn codi embaras arnat ti erbyn dy drydedd flwyddyn – neu gofleidia bob peth rhyfedd a wnest ti yn ystod wythnos y glas ac ymfalchïa ynddynt pan fyddan nhw’n codi blynyddoedd yn hwyrach.

 

  • Mae’r drudwy yn hardd – pan ddaw’r gaeaf â’i nosweithiau byrrach, un peth y gelli di edrych ymlaen ato yw’r  machlud cynharach a’r drudwy. Maen nhw’n nythu o dan y pier a bob nos gyda machlud yr haul, mae sioe trawiadol i’w gweld ganddynt. Mae’n un o bethau annatod Aber, gwna yn siwr ei fod ar dy restr o bethau i’w gwneud tra dy fod yma a phaid â’i golli.

 

  • Mae cymaint i’w wneud! – un peth camarweiniol arall am Aberystwyth yw’r cyfoeth o bethau i’w wneud, ni waeth dy gyllideb. O gael hwyl yn yr arcêd, bowlio ar ben Consti neu fynd am dro braf ymysg natur, mae digon i’w wneud ar dy ben dy hun neu fel grwp. Mae hefyd yn werth gweld y tu allan i Aberystwyth a mynd i’r trefi cyfagos fel Aberaeron, y Borth a Thregaron hyd yn oed, yn bennaf os wyt ti newydd symud i Gymru ac am gael blas ar ddiwylliant Cymru.

 

  • Y PARCIO – un o anfanteision Aberystwyth yw lle i barcio, yn enwedig os wyt ti’n byw yn y dref. Efallai ar adegau na fyddi di am symud dy gar o gwbl oni bai fod angen dybryd rhag ofn i ti golli dy le. Felly mae’n werth ystyried p’un ai gadael dy gar gartref neu fynd ar drafnidiaeth gyhoeddus fyddai orau. Mae gorsaf y trenau a’r bysiau yng nghanol y dref ac ar ben hynny, mae popeth o fewn pellter cerdded. Mantais arall i’w hystyried yw’r arian byddi di’n arbed ac yn lleihau dy ôl-droed garbon.

 

  • Mae’r traeth mor agos felly waeth i ti fanteisio arno! Os wyt ti’n hoff o chwaraeon dwr neu fwynhau mynd am drochiad yn y môr o dro i dro yna dere â dy wisg nofio. Mae bwrdd-badlo yn ffordd boblogaidd o dreulio amser yn Aberystwyth – os oes gennyt ti un yn barod dere ag ef, fe wnei di ddefnydd da ohono fan hyn!

 

  • Pryna’n lleol! – Mae Aberystwyth mor ffodus bod yna gymaint o fusnesau annibynnol yn ffynnu, ac mae’r busnesau i gyd yn dibynnau ar gwsmeriaid rheolaidd, sy’n dod yn ôl. Yn lle o fynd i’r enwau mawrion y cei di ym mhob man, bacha ar y cyfle i drio busnesau annibynnol, maen nhw’n rhatach fel arfer a bydd yr arian rwyt ti’n ei wario yn mynd i deulu lleol a fydd, yn eu tro, yn cadw’r arian yn lleol yn hytrach na mynd i gwmni miliynau o bunnoedd na fydd byth, efallai, yn buddsoddi yn Aberystwyth heblaw am dalu rhent a threth ar eu heiddo. Mae’r weithred fach hon yn chwarae rhan fawr mewn cynaladwyedd gymdeithasol a bydd yn helpu cadw Aberystwyth fel y dref arbennig y mae hi.

Gwnewch yn siwr eich bod yn ymuno â'n grwp facebook glasfyfyrwyr yma!

a dilynwch ein holl sianeli cyfryngau cymdeithasol @UndebAber

Edrychwch ar ein digwyddiadau glasfyfyrwyr yma!

Pob lwc gyda’r pacio bawb ac fe welwn ni chi cyn bo’ hir!

Comments

 

Exam Good Luck

Maw 14 Ion 2025

Arholiad Pob Lwc

Maw 14 Ion 2025
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576