Momentwm Achredu Tîm Aber

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Wrth i’r flwyddyn ddirwyn i ben, rydyn ni wedi cael y cyfle i adlewyrchu ar y gwaith arbennig y mae ein cymdeithasau a’n clybiau wedi’i gyflawni fel rhan o’u Achrediad Tîm Aber.

Gwobr y mae ein clybiau a’n cymdeithasau yn gweithio tuag ati bob blwyddyn yw’r Achrediad Tîm Aber – nod sy’n eu helpu i ffynnu. Gall grwpiau gofnodi eu llwyddiannau ar eu sianeli Microsoft Teams sy’n cwmpasu amryw o wahanol elfennau sylfaenol; boed trwy feithrin cymunedau, datblygu pwyllgorau, neu gymorth llesiant ymysg eraill. Mae hyn oll yn dyst i’r gwahanol sgiliau rydych chi’n eu hennill wrth fod yn rhan o gymdeithas neu glwb ac mae’n cynnig cyfle i adlewyrchu a dathlu ar ddiwedd y flwyddyn.

Eleni, oeddem eisiau tynnu sylw at ddau grŵp yn arbennig sydd wedi gadael cryn argraff ar y tîm cyfleoedd trwy ennill statws ‘rhagorol’ ar eu hachrediad. Mae’r ddau grŵp wedi parhau i ymdrechu i lwyddo, a hoffem ddathlu eu hymdrechion isod:

 

Gwirfoddol Cadwraeth Aberystwyth

Mae GCA wedi gweithio yn arbennig o galed eleni i fynd ymhellach gyda llwyddiannau y llynedd a meithrin eu sgiliau ar draws eu cymdeithas. Maent wedi gweithio’n galed i arddangos yn eu sesiynau ‘Rhowch Gynnig Arni’ ac wedi swm sylweddol yn rhan o’u hwythnos Codi a Rhoddi. Ffrwyth yr holl waith hwn yw codi eu proffil a meithrin sgiliau eu haelodau.

 

Daearyddiaeth

Mae’r Gymdeithas Ddaearyddiaeth hefyd wedi ymdrechu i ddatblygu eu presenoldeb a’u sgiliau eleni. Maent wedi annog eu haelodaeth i gymryd rhan mewn hyfforddiant (gan gynnwys niwroamrywiaeth a chymorth cyntaf) yn ogystal â gwneud tonnau gyda’u digwyddiad ‘O Dan y Môr’ (ymysg llawer eraill).

Mae’n bleser gennym ddyfarnu’r Gymdeithas Ddaearyddiaeth a GCA gyda’u gwobr am ‘Rhagoriaeth’ a dyma edrych ymlaen at weld ein holl grwpiau eraill yn datblygu yn 2025.

 

Os hoffech chi gymryd rhan yn hyn yn y flwyddyn nesaf, ewch i’r wefan i gael gwybodaeth bellach, neu mae croeso i chi gysylltu â’r tîm cyfleoedd.

Comments

 

Exam Good Luck

Maw 14 Ion 2025

Arholiad Pob Lwc

Maw 14 Ion 2025
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576