Menter Cydweithredol: Prifysgol Aberystwyth, Undeb Aberystwyth, a Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dy

Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mae eleni yn nodi cam sylweddol ymlaen i Brifysgol Aberystwyth, Undeb Aber (Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth), a Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed a Choices (GCAD) wrth iddynt fynd i’r afael ar y cyd â’r defnydd o gyffuriau ac alcohol ymysg y gymuned fyfyrwyr. Mae’r bartneriaeth hon, sydd â ffocws ar fenter Argraff Cyffuriau ac Alcohol ar Fyfyrwyr SOS, wedi dod â’n sefydliadau yn nes at ei gilydd, gan alluogi i ni gydweithio’n fwy effeithlon ar hyn a phrosiectau yn y dyfodol.

I gydnabod yr heriau unigryw y mae Aberystwyth yn eu hwynebu, lle mae myfyrwyr yn gwneud rhan fawr o boblogaeth y dref, mae ein sefydliadau â’r un angerdd mewn cyffredin sef ymrwymiad i fynd i’r afael â’r defnydd o gyffuriau ac alcohol ymhlith y gymuned fyfyrwyr. Er i arolwg a gynhaliwyd ddechrau’r flwyddyn gan Undeb Aber awgrymu nad yw’r broblem mor ddifrifol â’r disgwyl, rydyn ni i gyd yn gytûn ei bod yn parhau i fod yn rhywbeth dybryd sy’n mynnu ein sylw.

Mynychodd cynrychiolwyr o Wasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol, Undeb Aberystwyth, GCAD a Choices gynhadledd SOS ar gyffuriau ac alcohol. Roedd y gynhadledd yn gyfle gwerthfawr i wella ein dealltwriaeth a’n harferion a’u rhoi ar waith yn ein mentrau yn Aberystwyth. Roedd y gynhadledd hefyd yn galondid gan gadarnhau bod rhai agweddau ar ein gwaith cyffuriau ac alcohol yn flaengar yn y sector.

Lleihau niwed sydd wrth wraidd ein hagwedd. Rydyn ni’n cydnabod ei bod hi’n afrealistig mewn gwirionedd i ddisgwyl i fyfyrwyr ymwrthod â chymryd cyffuriau ac alcohol. Yn lle, mae ein ffocws ar sicrhau bod myfyrwyr yn saff ac yn wybodus ar y pwnc. O gofio hynny, rydyn ni wedi rhoi sawl menter pwysig ar waith:

  • **Sesiynau Galw Heibio Wythnosol**: Mae Gwasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol, GCAD a Choices wedi cyflwyno sesiynau galw heibio yn adeilad y Gwasanaethau Myfyrwyr. Mae’r sesiynau hon yn gyfrinachol a chefnogol eu naws ac yn gyfle i fyfyrwyr ymofyn cyngor a chymorth yn ddienw.
  • **Stondinau Codi Ymwybyddiaeth**: Mae Undeb Aberystwyth wedi trefnu stondinau gwybodaeth mewn cyd-weithrediad â GCAD a Choices, yn cynnwys digwyddiad sylweddol gyda’r hwyr lle rhoddom gondomau a chitiau gwrth-sbeicio i fyfyrwyr tra’n mynd allan.
  • **Wythnos Ymwybyddiaeth**: yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Gyffuriau ac Alcohol, aeth Undeb Aber ati i gynnal gweithgareddau helaeth i godi ymwybyddiaeth, rhannu gwybodaeth am wasanaethau allanol sy’n cefnogi myfyrwyr a hyrwyddo cefnogaeth ymysg cyfoedion ymysg grwpiau myfyrwyr.
  • **Digwyddiadau Di-alcohol**: Rydyn ni wedi bod yn weithgar yn cynnig digwyddiadau a gweithgareddau lle nad alcohol fydd wrth galon yr achlysur, yn dangos nad oes angen alcohol i fwynhau cymdeithasu.

 

Er gwaethaf yr ymdrechion hyn, mae yna waith o hyd. Datgelodd yr arolwg cychwynnol fod myfyrwyr yn tueddu i ddod i sylweddoli nad yw defnydd o gyffuriau ac alcohol cymaint â’r disgwyl yn y brifysgol. Mae’r gwahaniaeth hwn yn tynnu sylw at yr angen am addysg a chymorth pellach.

Rydyn ni wrth ein boddau gyda lle rydyn ni arni hyd yn hyn ac rydyn ni am fynd ymhellach i gryfhau ein partneriaeth. Ein nod yw cefnogi myfyrwyr ymhob ffordd bosib, yn sicrhau profiad prifysgol saff ac iach. Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu myfyrwyr newydd yn y flwyddyn academaidd nesaf, rydyn ni am gadw at y gwaith pwysig hwn.

Gyda’n gilydd, mae gwaith Prifysgol Aberystwyth, Undeb Aberystwyth, a GCAD a Choices tuag at gymuned fyfyrwyr saffach, fwy gwybodus yn dod yn ei flaen yn dda. Rydyn ni’n rhagweld mwy o gydweithredu dylanwadol a pharhau i fynd ymhellach gyda’n hymdrechion i fynd i’r afael â phroblemau cyffuriau ac alcohol ymysg ein myfyrwyr.

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576