Mae'r pleidleisiau i mewn (pleidleisiodd 34% o fyfyrwyr yn yr etholiad eleni), ac rydym wrth ein bodd i gyhoeddi canlyniadau Etholiadau Gwanwyn Undeb Aber 2025! Ar ôl cyfnod ymgyrchu cyffrous, rydym yn barod i gyflwyno'r Swyddogion Llawn Amser a’r Swyddogion Gwirfoddol sydd newydd eu hethol a fydd yn eich cynrychioli ac yn siapio bywyd myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.
Diolch i bawb a bleidleisiodd, ymgyrchodd, a chymerodd ran i wneud y broses ddemocrataidd hon yn un llwyddiannus!
Llongyfarchiadau i’r holl ymgeiswyr.
#EtholiadauAber
Swyddogion Llawn Amser
Byddant yn gweithio'n ddiflino i eirioli dros eich anghenion, cysylltu â'r brifysgol, ac arwain ymgyrchoedd effeithiol.
Dyma’r tîm swyddogion 2025-2026:
- Llywydd: Millie Hackett
- Swyddog Llesiant: Tanaka Chikomo
- Swyddog Cyfleoedd i Fyfyrwyr: Ffion Johns
- Swyddogion Materion Academaidd: Esperanza Bizama Monnier
- Swyddog Diwylliant Cymreig & Llywydd UMCA: Nanw Maelor
Swyddogion Gwirfoddol
Mae ein Swyddogion Gwirfoddol yn rolau rhan-amser wedi'u llenwi gan fyfyrwyr sy'n gwirfoddoli eu hamser ochr yn ochr a’u hastudiaethau.
Dyma eich Swyddogion Gwirfoddol newydd:
- Ymddiriedolwyr Ôl-raddedig: Tristan Wood
- Cadeirydd yr Undeb: Francesco Lanzi
- Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd: Blue Bell
- Swyddog yr Iaith Gymraeg: Elliw Mair
- Swyddog y Myfyrwyr Hyn: Mesh Tamilchelven
- Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol: Christopher Arimma
- Swyddog y Myfyrwyr LHDTC+: Fresno Rhys Thomas
- Swyddog y Menywod: Natasha Goodwin
- Swyddog y Myfyrwyr Anabl: Billy Smith and Harley Harrison
- Swyddog Myfyrwyr Traws ac o Rywedd Anghydffurfiol: Mason Gee
- Swyddog Myfyrwyr Annibynnol: Kathleen Pritchard
- Swyddog y Gyfadran Gwyddorau: Spencer Tinklin
- Swyddog y Cyfadran Dyniaethau: Mariam Elsergany
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd ein Swyddogion Llawn Amser yn dechrau yn eu swydd ar y 1af o Orffennaf 2025, yn dilyn cyfnod trosglwyddo gyda'r tîm presennol. Bydd Swyddogion Gwirfoddol yn dechrau eu rolau ochr yn ochr â'u hastudiaethau ar ddechrau'r tymor academaidd nesaf.