Dwi wirioneddol wedi mwynhau fy nhymor cyntaf yma yn Undeb Aberystwyth gan ennill llawer o wahanol sgiliau a phrofiadau. O gael bod yn rhan o gyngor y Brifysgol i amryw o is-bwyllgorau i gael cynrychioli myfyrwyr yng nghynadleddau yr UCM, mae wedi rhoi cyfle i fi gynrychioli myfyrwyr ar amryw o lefelau gwahanol.
Yn yr erthygl hwn dwi am sôn am y 3 uchafbwynt o eleni rwy’n ymfalchïo ynddynt fwyaf.
- Wythnos y Glas oedd fy uchafbwynt cyntaf oherwydd roedd yn anhygoel cwrdd â’r holl fyfyrwyr newydd a helpu iddynt ymgartrefu lle gallwn. Fe ges i amser uffernol o dda yn mynychu digwyddiadau Cyfnod y Glas a drefnwyd gan glybiau a chymdeithasau yn ogystal â chynnal ein digwyddiad y Glas ein hunain, Cwis Mawr y Glas. Mae amser cyffrous i’w gael bob tro a braf oedd cael ei brofi fel swyddog.
- Fy ail uchafbwynt oedd llwyddo i arbed grwp o fyfyrwyr PhD £121,993.00 mewn ffioedd ynghlwm â llety. Bu’n llwyddiant mawr i fi ac Undeb Aber a gwych yw’r teimlad i frwydro dros fyfyrwyr.
- Fy uchafbwynt olaf oedd cynnal yr Wythnos Byd-Eang am y tro cyntaf ers 5 mlynedd. Cawsom dros 200 o fyfyrwyr yn cymryd rhan mewn gwahanol ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos. Cynhaliom ni ddigwyddiadau fel taith gerdded naturiol, ffair fyd-eang, a dod â’r digwyddiad i ben gyda dathliad mawr. Roedd yn arbennig gweld myfyrwyr rhyngwladol yn dod i Undeb Aber i ddangos eu diwylliannau.
Gallwn i restru cymaint o bethau ar ben popeth a wnaed eleni ond mae peryg i’r erthygl hwn droi’n draethawd hir felly dyma i chi flas arnynt yn unig. Bues i wrth fy modd bob eiliad o fod yn llywydd i chi ac dwi’n edrych ymlaen yn arw at ei wneud eto y flwyddyn nesaf.
Diolch,
Bayanda