Enwebiadau bellach ar agor: Wythnos Dathliadau Undeb Aber 2025

CelebratesUndeb Aberwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Enwebiadau bellach ar agor: Wythnos Dathliadau Undeb Aber 2025

 

Mae’n bryd tynnu sylw at gyflawniadau myfyrwyr a staff ym Mhrifysgol Aberystwyth – mae’r enwebiadau ar gyfer Dathliadau Undeb Aber ar agor o’r diwedd!

Bob blwyddyn, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i gydnabod a dathlu ymroddiad, gwaith caled, a chyfraniadau rhagorol unigolion ar draws y Brifysgol.

P’un ai mai darlithydd sydd wedi’ch ysbrydoli, myfyriwr/wraig sydd wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyl, neu glwb neu gymdeithas sydd wedi gwneud gwahaniaeth, nawr yw eich cyfle i roi iddynt y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu!

 

Pwy sy’n cael enwebu?

Gall unrhyw fyfyriwr/wraig gyflwyno enwebiad, a gallwch enwebu cymaint o unigolion ar draws gwahanol gategorïau ag y mynnwch.

 

Beth sy’n digwydd eleni?

Eleni, mae 34 gwobr i’w dyfarnu ar draws dwy noson yn Undeb y Myfyrwyr:

Ddydd Mercher, 7fed Mai – ar gyfer y Gwobrau Chwaraeon a Chymdeithasau, yn dathlu angerdd, ymroddiad, ac effaith y myfyrwyr sy’n rhan o glybiau a chymdeithasau.

Ddydd Iau, 8fed Mai – Rhagoriaeth mewn Addysgu, Dysgu a’r Profiad Myfyriwr, i gydnabod y staff a’r myfyrwyr sydd wedi cael argraff sylweddol ar addysg a bywyd myfyrwyr yn y brifysgol.

 

Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i ddathlu’r bobl anhygoel sy’n gwneud Aberystwyth yn lle arbennig. Anfonwch eich enwebiadau, yma, a byddwch yn rhan o’r dathlu!

Gwybodaeth am docynnau yn fuan.

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576