“Wythnos UMAber yn Dathlu” yw’r wythnos hon - y cyfle GORAU un i ddathlu popeth sy’n ymwneud â myfyrwyr Aber a byddwn yn dathlu’r rhain fesul Addewid Undeb Aberystwyth.
(heb glywed am addewidion Undeb Aberystwyth i fyfyrwyr - cymerwch olwg yma)
Gwyddem ni’n iawn bod i fywyd ei uchafbwyntiau a’i isafbwyntiau ac rydyn ni am fod yno i chi doed a delo.
Heddiw byddwn ni’n edrych yn ôl dros rai ffyrdd rydyn ni wedi “cefnogi myfyrwyr i fod yn hapus ac yn iach” y flwyddyn academaidd hon:
- Mae ein gwasanaeth cynghori wedi rhoi cymorth uniongyrchol i fyfyrwyr trwy 322 o achosion myfyrwyr hyd yn hyn eleni a chafodd ein hadran Cyngor ar-lein, lle mae ein gwybodaeth a’n canllawiau (yn cynnwys yr ystod o ganllawiau ar-lein), 19,399 o ymweliadau.
- Mae Hyb yr Hael a Hyb yr Hanfodion wedi bod yn gweithredu trwy gydol y flwyddyn i gefnogi myfyrwyr Aber yn ystod yr argyfwng costau byw. Roeddem wrth ein boddau cefnogi 533 o fyfyrwyr trwy Hwb yr Hanfodion y flwyddyn academaidd hon.
- Helpom ni arbed £121,993 at ei gilydd i fyfyrwyr - Gwobr Llety Rhyngwladol Carfan PhD.
- Dosbarthwyd 20,650 o gondomau am ddim yn ystod digwyddiadau a gweithgareddau Undeb Aber.
- Dosbarthwyd 86 o nwyddau misglwyf ailddefnyddiadwy eleni.
- Mae Tîm ein Swyddogion a’n Staff wedi bod wrthi gyda brwydro dros hawliau myfyrwyr gan gydlynu a chefnogi 23 o ymgyrchoedd eleni.
#UMAberynDathlu #AberSUCelebrates