- Beth yw cyllideb, a pham ei fod yn bwysig?
Mae cyllidebu yn golygu bod â syniad o faint o arian y byddwch chi’n ei ennill â’i gymharu â faint byddwch chi’n ei wario. Mae o fudd i chi rannu eich arian yn gall i sicrhau bod siâp da ar eich arian os ydych chi’n dilyn eich cyllideb. Fodd bynnag, nid yw'r rhan fwyaf o gyllidebau traddodiadol yn cymryd treuliau annisgwyl i ystyriaeth oni bai eich bod yn ychwanegu adran at argyfwng. Cadwch hyn mewn cof wrth wneud eich cyllideb.
Mae cyllidebu yn bwysig ar gyfer rheoli eich arian yn dda. Gallwch ddefnyddio'ch cyllideb i weld faint y gallwch ei wario ar fwyd bob wythnos neu fis. Gall cadw swm penodol i lynu wrtho mewn golwg eich helpu i gadw golwg ar eich gwariant.
- Sut galla’ i greu cyllideb?
Mae modd i chi greu cyllideb syml trwy ymweld â https://www.moneyhelper.org.uk/en/everyday-money/budgeting/budget-planner.
- Sut galla’ i gadw at fy nghyllideb?
Byddwn i’n awgrymu’n gryf i gynnwys treuliau na fyddai’n dod yn syth i’ch meddwl yn eich cyllideb. Er enghraifft, cadwch arian ar gyfer nosweithiau allan, ystyriwch yn y gost o gael tecawe unwaith yr wythnos ac unrhyw ddiddordebau rydych chi'n eu mwynhau.
Gallwch hefyd dritio eich hun gydag unrhyw arian sy’n weddill yn eich cyllideb, a all fod o fudd wrth eich cadw ar y trywydd iawn a rhag gorwario.
- Sut galla’ i arbed arian tra’n siopa?
Mae sawl ffordd o gynilo wrth siopa. Er enghraifft, gallwch fanteisio ar gardiau teyrngarwch fel Tesco Clubcard neu Lidl Plus, sy'n aml yn cynnig gostyngiadau a hyd yn oed cynhyrchion am ddim. Rydyn ni hefyd yn ffodus o fod â siop dros ben yn Aberystwyth. Mae Bwyd Dros Ben Aber (https://www.aberfoodsurplus.co.uk/) yn gwerthu bwyd y byddai archfarchnadoedd yn eu taflu fel arall.
- Sut galla’ i leihau fy nhaliadau?
Fel y gwyddom i gyd, mae costau byw yn cynyddu. Mae sawl ffordd y gallwch wneud ymdrech i leihau eich biliau a’u hatal rhag cynyddu’n ormod. Er enghraifft, ceisiwch olchi'ch llestri â llaw yn hytrach na defnyddio'r peiriant golchi llestri (os oes gennych un), cymerwch gawod yn lle bath (os yn bosib), gwnewch yn siŵr eich bod chi'n diffodd neu’n tynnu dyfeisiau nad ydych chi'n eu defnyddio o’r soced, a chofiwch ddiffodd y golau pan fyddwch chi'n gadael ystafell. Dyma i chi ond ychydig o gamau syml; mae llawer o ffyrdd y gellir lleihau costau.
Mae Dŵr Cymru yn cynnig gwasanaeth cwblhau arolwg byr ynghylch eich eiddo er mwyn gofyn am nwyddau am ddim sydd â nod o helpu lleihau eich bil dŵr. Mae'r nwyddau hyn yn cynnwys pennau cawod, amseryddion cawod, awyryddion tap, bagiau dadleoli dŵr, a stribedi gollyngiadau.
Cewch yma ychydig o wefannau defnyddiol:
https://www.ucas.com/money-and-student-life/money
https://www.savethestudent.org/accommodation/guide-to-student-energy-bills.html
Cartref: Save water to save money | Dŵr Cymru Welsh Water
- Beth fyddai eich cyngor ar gymdeithasu ar gyllideb?
Nid oes angen i chi fynd allan am noson yn y dref i fwynhau cymdeithasu, a gall fod yn anodd os ydych chi'n ceisio cadw at gyllideb. Mae Undeb Aberystwyth yn cynnal llawer o ddigwyddiadau am ddim neu rad drwy gydol y flwyddyn, ynghyd â'n grwpiau myfyrwyr. Mae rhai gweithgareddau hwyliog, cost isel yn cynnwys chwarae gemau bwrdd. Os nad oes gennych unrhyw beth gartref, mae’r Tŷ Seidr â detholiad i’w gynnig am £3 y person yn unig (neu allwch brynu diod) i'w chwarae am gyhyd ag y dymunwch. Syniad gwych arall yw cynnal digwyddiadau coginio grŵp lle gallwch chi a'ch ffrindiau i gyd gyfrannu at wneud pryd o fwyd a fydd yn bwydo pawb, gan arbed arian tra hefyd yn mwynhau amser gyda'ch gilydd.
- Sut galla’ i arbed arian ar drafnidiaeth gyhoeddus?
Mae modd i chi brynu cerdyn teithio (https://fyngherdynteithio.llyw.cymru/cy/) i arbed traen ar eich tocyn bws, neu gerdyn rheilffordd (https://www.nationalrail.co.uk/tickets-railcards-offers/promotions/16-25-railcard/) i arbed traean ar eich tocyn trên.
Os ydych chi'n dewis cymryd tacsi, mae'n syniad da rhannu'r daith gyda chymaint o bobl â phosib i ostwng y gost i bawb.
- Sut galla’ i fanteisio ar adnoddau'r campws i arbed arian?
Mae digon o adnoddau ar y campws i helpu myfyrwyr i leihau eu costau. Yn Undeb Aberystwyth, mae gennym y "Hyb yr Hael" ac rydyn ni’n darparu te a choffi am ddim (ynghyd â microdon!) yn y "Gegin Gymunedol”. Gall y rhain eich helpu i gynilo ar brynu potiau, sosbenni, platiau, a dillad, tra hefyd yn mwynhau te neu goffi am ddim cyn eich dosbarthiadau. Mae yna hefyd nifer o ardaloedd cynnes ar y campws sydd ar agor 24/7, fel llawr D y llyfrgell, sydd â chyfrifiaduron ar gael i bob myfyriwr eu defnyddio am ddim. Mae’r “Neuadd Fwyd” (a alwyd gynt yn Tamed Da) â bargeinion prydau poeth am £3.75.
Os ydych chi am gadw'n iach, gall pob myfyriwr/wraig sy'n byw yn llety’r brifysgol ddefnyddio'r Ganolfan Chwaraeon am ddim, neu allwch ymaelodi am £85 y flwyddyn os nad ydych chi’n byw mewn neuadd breswyl. Os ydych chi'n chwilio am ffyrdd hwyliog o gadw'n heini wrth gymdeithasu, mae ymuno â chlybiau a chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr yn opsiwn gwych!
- Sut galla’ i arbed arian ar werslyfrau?
Yn aml daw cost gwerslyfrau fod yn sioc i lawer o fyfyrwyr, ond mae digon o ffyrdd i helpu gostwng y costau hyn. Un adnodd gwych sydd ar gael i'r holl fyfyrwyr yw Llyfrgell Hugh Owen. Mae'r llyfrgell yn cynnig miloedd o lyfrau am ddim, ar-lein ac argraffedig, y gall myfyrwyr gael gafael arnynt ar gyfer eu hastudiaethau. Efallai na fydd llawer o fyfyrwyr yn sylweddoli, os nad oes gan y llyfrgell y llyfr sydd ei angen, bod modd gofyn am hyd at 5 llyfr bob blwyddyn o'u hastudiaethau i'r llyfrgell archebu ar eu cyfer yn unig.
- Beth yw dyled cyfrif?
Mae gorddrafft yn caniatáu i chi dynnu mwy o arian nag sydd gennych yn eich cyfrif banc, gan fynd i mewn i'r negatifau. Mae dwy fath:
Dyled Cyfrif a Drefnwyd Ymlaen Llaw: Caiff hyn ei sefydlu ymlaen llaw gyda’ch banc ac yn gosod swm penodol.
Dyled Cyfrif Heb Ei Drefnu: Mae hyn yn digwydd heb gymeradwyaeth ymlaen llaw, gan arwain at ffioedd uwch yn aml.
Mae banciau fel arfer yn codi llog a ffioedd ar ddyled cyfrif, ond mae rhai cyfrifon myfyrwyr yn caniatáu gorddrafftiau di-log hyd at derfyn penodol. Gall gorddrafftiau fod yn ddefnyddiol ar gyfer talu am dreuliau tymor byr, ond mae'n bwysig eu trin yn ofalus er mwyn osgoi taliadau mawr.