Diweddariad: Dweud eich dweud ar newidiadau i swyddi ein Swyddogion Llawn Amser
Yn gynharach y tymor hwn, fe wnaethom ni eich hysbysu am y cynllun i ddiweddaru swyddi Swyddogion Llawn Amser eich undeb, yn ogystal â Phleidlais yr Holl Fyfyrwyr ar y newidiadau oedd am ddigwydd y tymor hwn.
Rydym bellach wedi penderfynu ar ohirio’r bleidlais hon tan y tymor nesaf oherwydd ei bod yn wedi cymryd yn hirach na’r disgwyl i roi’r holl opsiynau ar gyfer y dyfodol at ei gilydd.
Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n gwneud hyn yn iawn, felly dyma pam nad ydym am frysio.
Byddwn yn cymryd mwy o amser i ystyried a chynghori, i sicrhau bod eich swyddogion etholedig yn darparu’r gynrychiolaeth rydych chi eisiau, angen ac yn haeddu.
Beth sy’n digwydd a pham?
Oherwydd ystod o resymau, rydym wedi bod yn adolygu swyddi ein Swyddogion Llawn Amser etholedig, cyflogedig (y Swyddogion Sabothol).
Ar hyn o bryd, mae gennym 5 Swyddog Llawn Amser: y Llywydd; y Swyddog Materion Academaidd; Llywydd UMCA a Swyddog Diwylliant Cymru; Y Swyddog Cyfleoedd; a’r Swyddog Llesiant.
Y tymor hwn, fe ddechreuom drafod cynlluniau i newid i dîm o pedwar swyddog, gan adnewyddu’r undeb ac osgoi tynnu arian oddi ar weithgarwch myfyrwyr.
Yn sgil llawer o ymgynghoriadau, mae Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Undeb wedi symud cam ymhellach a chynnig tîm o dri swyddog. Bydd hyn yn golygu bod mwy o adnoddau na’r disgwyl i’w cael, a fydd, yn eu tro, yn gallu cael eu gwario ar swyddi arweinyddiaeth myfyrwyr, ond gan hynny, mae angen mwy o waith i gwblhau’r cynigion ar gyfer y swyddi newydd.
Yn ogystal ag ystyried strwythurau posibl i dîm y swyddogion, mae hefyd rhaid i ni sicrhau ein bod yn egluro agweddau eraill ar y newidiadau, megis pa swyddog fydd yn gyfrifol am gadeirio Bwrdd yr Ymddiriedolwyr.
Sut wedd fydd ar y tîm newydd?
Yn sgil yr ymgynghoriadau, rydych chi wedi dweud yn glir wrthym eich bod am gadw Llywydd UMCA a Swyddog Diwylliant Cymru.
Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr eisoes wedi cadarnhau bod y swydd hon am gael ei chynnwys mewn unrhyw strwythur a gaiff ei gyflwyno yn destun Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr.
Rydym yn gweithio ar opsiynau ar gyfer y ddwy swydd arall, a chawn rannu’r rheini gyda chi yn fuan.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Rydym yn anelu at rannu’r opsiynau ar gyfer strwythur newydd tîm y swyddogion yn gynnar y tymor nesaf.
Bydd cyfleoedd i chi roi adborth, cyn pleidleisio dros ba strwythur o dîm y swyddogion sydd orau gennych yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn yr Ystafell
Fawr, Mis Mawrth 10.
Bydd pob aelod presennol Undeb y Myfyrwyr yn gymwys i fynychu’r Cyf Cyff a phleidleisio.
Pryd caiff y strwythur newydd ei gyflwyno?
Yn dilyn eich dewis yn y Cyf Cyff, byddwn yn dechrau ar y broses o roi ar waith y strwythur o dîm y swyddogion oedd orau gennych.
Cynhelir yr etholiadau cyntaf gyda’r trefniant newydd hwn yng Ngwanwyn 2026, daw’r strwythur newydd o dri swyddog i rym yn y flwyddyn academaidd 2026-27.
Unrhyw gwestiynau?
Os hoffech chi wybod mwy am y broses, carem glywed gennych. Anfonwch eich cwestiynau at undeb@aber.ac.uk