Yn UMAber, rydyn ni am i fyfyrwyr Aber garu bywyd myfyrwyr a bod yn barod am unrhyw beth. Rydyn ni'n addo mai myfyrwyr gaiff y gair olaf, ac rydyn ni am i chi weithio gyda ni i wireddu ein gweledigaeth.
Rôl: Cynrychiolydd Academaidd
Adran: Cymorth a Chynrychiolaeth / Eich Adran Academaidd
Ymrwymiad / Hyd y Swydd: Swydd etholedig am hyd at un flwyddyn academaidd. 1-2 awr y wythnos, yn ystod y tymor yn unig.
Angen profiad blaenorol: dim o gwbl; caiff pob hyfforddiant ei ddarparu.
Diben y Rôl
Mae Cynrychiolwyr Academaidd yn fyfyrwyr sy'n casglu adborth ac yn siarad ar ran myfyrwyr eraill i helpu i wneud eich addysg a’ch profiadau yn y Brifysgol y gorau y gall fod!
Etholir Cynrychiolwyr Academaidd i'w rôl gan fyfyrwyr ar eu cwrs, neu yn eu hadran. Mae hyn yn golygu eu bod wedi cael eu dewis fel y person gorau i arwain ar gasglu a lleisio adborth myfyrwyr i staff yn eu hadran neu Undeb y Myfyrwyr.
Cyfrifoldebau
- Mynychu hyfforddiant a ddarperir gan Undeb y Myfyrwyr ym mis Hydref.
- Arwain y gwaith o gasglu adborth myfyrwyr o fewn eich cwrs neu adran.
- Hyrwyddo'ch rôl ymhlith myfyrwyr a'i gwneud yn glir sut y gallant gysylltu â chi
- Mynychu Pwyllgorau Ymgynghorol Staff Myfyrwyr o fewn eich adran.
- Adrodd yn ôl ar ddeilliannau'r adborth i fyfyrwyr yn eich adran ac Undeb y Myfyrwyr
- Cyfeirio myfyriwr at aelod staff, swyddog neu wasanaeth priodol pan na fydd modd iddynt ddelio â phroblem eu hunain, neu pan na fydd y broblem yn gysylltiedig â'r cwrs.
Sut bydd o fantais i chi
Fel Cynrychiolydd Academaidd, byddwch yn gallu datblygu'r sgiliau sydd gennych eisoes a meithrin rhai newydd, yn ogystal â gwella eich cyflogadwyedd ac ymuno â chymuned o fyfyrwyr sydd o'r un anian â chi o fewn eich adran sy’n cyfrannu mewn ffordd gadarnhaol at lunio profiad myfyrwyr.
Gallwch ennill cydnabyddiaeth am oriau gwirfoddol a’ch sgiliau drwy weithio tuag at Wobr Aber; bydd eich rôl yn ymddangos ar eich trawsgrifiad HEAR, a bydd cyfle i chi gael eich enwebu ar gyfer 'Swyddog Gwirfoddol y Flwyddyn' fel rhan o'r Gwobrau Staff a Myfyrwyr.
Pam mae eich eisiau CHI!
Yn UMAber, rydyn ni am i fyfyrwyr Aber garu bywyd myfyrwyr a bod yn barod am unrhyw beth. Rydyn ni'n addo mai myfyrwyr gaiff y gair olaf, ac rydyn ni am i chi weithio gyda ni i wireddu ein gweledigaeth.
Drwy fod yn Gynrychiolydd Academaidd, byddwch wedi cael
Oes gennych chi unrhyw gwestiynau?