Mae penderfyniad diweddar y Cyngor Gweithlu Addysg i gael gwared ar achrediad ar gyfer cynllun addysg TAR Prifysgol Aberystwyth wedi ennyn cryn siomedigaeth gan fyfyrwyr, staff, a chymuned y Brifysgol. Dyma neges o gefnogaeth i’r holl fyfyrwyr sydd wedi’u heffeithio gan y newid hwn, ac rydyn ni’n deall y goblygiadau posib y gall hwn ei gael arnoch, yn ogystal â phryderon ynghylch cynlluniau academaidd a threfniadau llety y dyfodol. I bawb y mae’n effeithio arnynt, rydyn ni’n awgrymu:
- Ystyried ffyrdd eraill o ddilyn TAR a chysylltu â phrifysgolion eraill am gyngor (gallwn ni gadarnhau bod sefydliadau eraill yng Nghymru â llefydd i ddechrau yn 2024). Os ydych chi’n siarad gyda’ch tiwtor personol byddan nhw’n gallu helpu trafod eich opsiynau.
- Rydyn ni wedi gweithio gyda’r Brifysgol i sicrhau bod opsiwn i dynn ‘nôl o gytundebau gan fyfyrwyr sydd wedi arwyddo cytundebau i aros yn llety’r Brifysgol at flwyddyn nesaf. Gall unrhyw fyfyrwyr a effeithir gan hyn gysylltu â llety@aber.ac.uk.
- Awgrymir i fyfyrwyr sy’n rhentu gyda llety preifat gysylltu â’u landlordiaid i ddechrau ac yna cysylltu â’n Gwasanaeth Cynghori (union.advice@aber.ac.uk) i gael cyngor pellach i weld opsiynau gwahanol nad yw’r landlord yn fodlon canlso’r cytundeb.