Cyngor y Swyddogion ar Leddfu Straen

officerblogwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Cyngor y Swyddogion ar Leddfu Straen! 


Will - Swyddog Materion Academaidd 

  1. Astudiwch yn ystod oriau astudio penodol. Mae hyn yn golygu canolbwyntio ar adolygu rhwng 9 YB a 5 YH, sy’n gadael i chi fwynhau eich nosweithiau heb feddwl am waith annorffenedig.   

  2. Cynnal eich diddordebau.  
    Trwy gydol tymor yr arholiadau, fe o’n i’n ei gweld hi’n fuddiol i adolygu neu ysgrifennu yn ystod adeg benodol ac yna cael hoe i fwynhau un o’m diddordebau, ee paentio warhammer am tua 30 munud, neu chwarae gemau fideo. Mae’r dull yma wedi gwella fy ffocws a’m llesiant yn sylweddol.    

  3. Ewch am awyr iach.  
    Dwi’n eich annog yn gryf i fynd am dros bob dydd, dim ots os dim ond i’r siop i brynu snacs adolygu yn unig yw hi. Mae’r arferiad hwn yn gallu torri eich diwrnod yn wahanol rhannau, osgoi teimlio’n annidig, ac yn gyfle i chi fanteisio ar awyr iach. 


Mo - Llesiant 

  1. Canolbwyntiwch ar eich datblygiad a’ch gallu eich hun. Gall trafod eich arholiadau, gweithio gyda rhywun a rhoi eich gwybodaeth ar brawf fod yn wych, ond nid oes budd mewn cymharu eich hyder a’ch gallu ag eraill. Bydd pawb rhyw ffordd neu’i gilydd yn pryderu neu’n teimlo’n nerfus ac mae’n hollol normal, ond mae rhai yn dangos hyn yn fwy nag eraill. Cadwch ffocws ar eich cryfderau a’ch datblygiad eich hun yn hytrach na’ch cymharu eich hun ag eraill sydd i’w gweld yn fwy hyderus ac yn poeni’n llai. Pwysig yw cofio nad yw gwedd person o reidrwydd yn adlewyrchu eu meddyliau a’u hemsoiynau mewnol.  

  2. Ffindiwch ddull sy’n fuddiol i chi. Gall rhai ffyrdd o adolygu a chynllunio fod yn ddwysach na’i gilydd, a thra bod hyn yn iawn i rai, nid yw bob tro yn gynhyrchiol i bawb. I fi, roedd cynllunio beth yn union ro’n i’n ei wneud bob dydd yn hollbwysig. Gan gynnwys trefnu hoe ac amser yn yr awyr agored! Mae hyn hefyd yn cynnwys diwrnod yr arholiad, i sicrhau bod pethau eraill yn barod gennych, ee gwybod lle mae ystafell eich arholiad a gwneud yn siŵr bod amser yr arholiad yn gywir fel mai yr arholiad ei hun fydd yr unig beth fydd rhaid i chi boeni amdano a dim byd arall. 

  3. Ymgyfarwyddo. Wnaiff ddim drwg, os oes modd, i chi ymweld â’r man lle byddwch yn sefyll eich arholiad neu’n gwneud eich cyflwyniad! Os ydych chi’n sefyll cyflwyniad llafar, gall fod o fudd mawr i chi ymarfer yn yr ystafell lle byddwch yn ei gyflwyno! Fe wnes i hyn yn ystod fy ngradd feistr, a hoffwn i fod wedi gwneud yr un peth yn ystod fy is-radd, gan ei bod wedi helpu tawelu ychydig o’r pryderon! Os gallwch gael gafael ar bapurau ymarfer mae gwneud y rheini mewn amgylchiadau arholiad yn gallu bod yn fuddiol iawn. Gall unrhyw beth sy’n golygu y bydd yr arholiad yn llai ‘anarferol’ neu’n ‘anghyffredin’ gyfrannu at leihau straen y diwrnod hwnnw. Os na allwch chi wneud y rhain gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd yn gynnar i chi ddod yn gyfarwydd â’r lleoliad cyn ei sefyll! 


Tiff - Cyfleoedd Myfyrwyr 

  1. Ysgrifennwch bethau i lawr - gwobrau! Yn amlach na pheidio, bydda’ i’n meddwl bod gen i fwy i’w wneud nag sydd, a hynny sy’n peri’r straen. Felly, dwi’n ysgrifennu popeth i lawr. Bydda’ i’n gwneud rhestr o bethau i’w gwneud a gosod terfynnau amser a ‘gwobrau’ bach am gwblhau pob rhan. 

  2. Goblin Tools. Ar brydiau, dwi’n gor-ddweud neu’n tanbrisio faint o amser bydd rhywbeth yn ei gymryd, ac mae Goblin Tools yn cynnig amcangyfrif i chi. Mae hyn wedi fy achub i rhag sesiynau adolygu ar y funud olaf un tan oriau mân y bore oherwydd roedd gen i well syniad o faint o amser bydd angen.  

  3. Cymerwch egwyl. Yn olaf, gwnewch yn siŵr bod gennych chi amser i wneud pethau hwyliog. Ewch am dro, parhewch gyda’ch diddordebau, mynd i ddigwyddiadau cymdeithas/clwb, a chymerwch amser i fod yn chi’ch hun, tu hwnt i’r astudio.  


Elain - Diwylliant Cymru a Llywydd UMCA. 

  1. Rhestrau. Y Nadolig yma, gwnewch restr o’r holl bethau hoffech chi eu gwneud, a rhoi croes trwyddynt wrth i chi fynd yn eich blaen. Mae’n ffordd dda iawn o gadw ar ben pethau a gwneud yn siŵr eich bod yn mwynhau pob eiliad arbennig o’r cyfnod hwn. Boed yn addurno’r goeden, pobi cwcis, neu fynychu digwyddiadau Nadoligaidd, mae rhoi croes trwy bob un am wneud eich Nadolig yn fwy cynhyrchiol a braf fyth. 

  2. Hunan-ofal. Yng nghanol adeg y gwyliau, peidiwch ag anghofio gofalu am eich lles. Fyddwch chi ddim ar eich gorau nac yn gallu mwynhau’r gwyliau i’r eithaf os nad ydych chi’n edrych ar eich ôl eich hun. Gwnewch amser i ddadflino, gofalu amdanoch eich hun, ac ymlacio, gan sicrhau eich bod yn cadw’n iach ac yn hapus trwy gydol cyfnod y gwyliau. 

  3. Amser ystyrlon gyda’ch anwyliaid. Yn olaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn treulio amser ystyrlon gyda’ch ffrindiau a’ch teulu. Y cyfle perffaith i ailgysylltu, creu atgofion, a mwynhau eich cwmni eich gilydd yw adeg y gwyliau. P’un ai trwy rannu pryd neu ymlacio gyda’ch gilydd, mae’r eiliadau hyn yn rhan mor werthfawr o adeg y Nadolig. 


Bayanda - Llywydd 

1. Meithrin Arfer o Seibianau Ystyrlon 

  • Manteisiwch ar ymarferion meddylgarwch byrion i dawlu’r meddwl. Mae appiau fel Headspace, Calm yn cynnig sesiynau myfyrio byr dan arweiniad. 

  • Rhowch gynnig ar y dechneg anadlu “4-7-8”: anadlwch i mewn am 3 eiliad, dalwch eich gwynt am 7 eiliad, ac wedyn anadlwch yn araf am 8 eiliad. Gall hyn leihau straen ar unwaith. 

2. Gwneud Ymarfer Corff neu Ymestyn 

  • Mae ymarfer corff, mynd am dro hyd yn oed, yn rhyddhau endorffinau ac yn lleihau cortisol (yr hormon sy’n peri straen). 

  • Os ydych chi’n sownd gartref, treialwch ymestyn am 5 munud. 

3. Cynllunio Amser Astudio 

  • Defnyddiwch y Dull Pomodoro (astudio am 25 munud, cymryd hoe am 5 munud) i osgoi ei gorwneud hi. 

  • Ysgrifennwch amcanion y mae modd eu cyflawni ar gyfer pob sesiwn - mae’n teimlo’n dda i gwblhau pethau ar eich rhestr! 

 

Exam Good Luck

Maw 14 Ion 2025

Arholiad Pob Lwc

Maw 14 Ion 2025
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576