#HeloAber Mae’n bwysig cofio mai dy gartref oddi gartref fydd y Brifysgol felly mae’n werth ymgartrefu. Mae hawlio’r lle yn dy ffordd dy hun gyda phethau meddal ac aroglau cyfarwydd yn gallu helpu i ti ymgartrefu’n gynt, felly mae’n helpu treulio’r amser ychwanegol i greu cartref i ti dy hun. Dyma rai syniadau i’w cofio pan yn symud i mewn i dy dy dros dro newydd.
#HeloAber
Mae’n bwysig cofio mai dy gartref oddi gartref fydd y Brifysgol felly mae’n werth ymgartrefu. Mae hawlio’r lle yn dy ffordd dy hun gyda phethau meddal ac aroglau cyfarwydd yn gallu helpu i ti ymgartrefu’n gynt, felly mae’n helpu treulio’r amser ychwanegol i greu cartref i ti dy hun.
Dyma rai syniadau i’w cofio pan yn symud i mewn i dy dy dros dro newydd.
- Goleuadau Tylwyth Teg sydd gyda batri
- Clustogau a blancedi meddal
- Defnyddio papur wal dros fyrddau pin i’w gwneud yn fwy diddorol
- Defnyddio gwinwydden a garlant i guddio unrhyw bibellau
- Rhywbeth i wneud gyda dy ddiddordebau
- Cardiau post neu gardiau pen-blwydd
- Carthen i guddio unrhyw loriau hyll eu golwg
- Llinynnau bach i roi lluniau i fyny arnynt
- Tlysau bach i roi yma ac acw o gwmpas dy ddesg
- Blodau/gwyrddni i oleuo’r ystafell
- Argraffu lluniau trwy argraffiadau am ddim o dy fwrdd Pintrest i greu gludwaith ar y wal
- Rhywbeth i ledaenu arogl cartrefol – tryledwr cyrs (S. Reed diffuser) – ond paid ag anghofio – dim ond peraroglau y gellir eu rhoi i mewn soced a ni chaniateir unrhyw fflamau noeth yn neuaddau y Brifysgol
- Paid ag anghofio y dylet ti adael dy ystafell fel y bu i ti gael dy flaen-dal yn ôl. Felly mae’n well i ti osgoi defnyddio deunydd a fydd yn gadael marc neu ddifrodi’r waliau.
Gwnewch yn siwr eich bod yn ymuno â'n grwp facebook glasfyfyrwyr yma!
a dilynwch ein holl sianeli cyfryngau cymdeithasol @UndebAber
Edrychwch ar ein digwyddiadau glasfyfyrwyr yma!
Pob lwc gyda’r pacio bawb ac fe welwn ni chi cyn bo’ hir!