Cyngor Cyfnod Y Glas Gan Eich Swyddogion UM 24/25'

officerblogwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Beth fyddai eich cyngor gorau i unrhyw fyfyrwyr newydd sy’n dechrau yn Aberystwyth ym mis Medi?

Elain - Gwnewch restr o'r holl ddigwyddiadau sydd at eich dant yn ystod wythnos y glas a chynllunio'r wythnos o'ch blaenau. 

Emily (Mo) - Rhowch gynnig ar bethau newydd, does dim rhaid newid pwy dych chi. Dyma’ch cartref newydd, mynegwch chi’ch hun a byddwch yn dryw i chi’ch hun. Hefyd, peidiwch â bwydo’r gwylanod! 

Bayanda - Rhowch gynnig ar rai o weithgareddau'r Glas yn ystod yr wythnos. 

Tiif - Ewch amdani!  Rhowch gynnig ar bob un dim ac ymaelodi â grŵp myfyrwyr - boed yn glwb, cymdeithas neu brosiect gwirfoddoli. 

Will - Waeth i chi fanteisio ar y bysys, mond £1.25 yw hi i fynd ar y bws i’r bryn a gwelwch chi fudd hyn wedi ymgais i gerdded yr holl ffordd gyda sawl bag a llond bag o siopa. Ar y llaw arall, dwi hefyd yn awgrymu ei cherdded hi, mae popeth yn Aber o fewn pellter cerdded, does dim pwysau felly i berchen car. 

Sut mae gwneud ffrindiau yn ystod cyfnod y glas?

Elain - Cyn imi fentro i Aberystwyth, mi wnes i wylio sawl fidio ar youtube a oedd yn rhannu ‘top tips’ am ddechrau’n y Brifysgol, ac un a wnaeth yn sicr fy helpu i wneud ffrindiau yn ystod fy niwrnodau cyntaf oedd prynu daliwr drws (door stop) er mwyn sicrhau bod drws fy ystafell ar agor wrth i bobl eraill symud i fewn i’r fflat. Felly prynwch ddaliwr drws! 

Emily (Mo) - Gall gwneud ffrindiau ddod ar draws a theimlo’n heriol. Hyn oedd fy mhryder mwyaf cyn dechrau. Cewch chi gyfle i gael hyd i’ch pobl ond peidiwch â phoeni na ddigwyddith ar unwaith!  

Anogwch i’r bobl yn eich llety ddod gyda chi i ddigwyddiadau wythnos y croeso, gofynnwch iddynt a fysen nhw eisiau dod i’r siop neu ddarganfod y dref gyda chi, neu os oes eisiau paned arnynt hyd yn oed!

Bayanda - Y bobl yn eich llety fydd eich ffrindiau cyntaf ond mae ymaelodi â chlybiau a chymdeithasau yn ffordd dda arall.  

Tiif - Ewch i Ffair y Glas, ewch i’r digwyddiadau gyda’r nos (ar eich pen eich hun hyd yn oed ), ewch i ddigwyddiadau ‘Rhowch Gynnig Arni’ y gwahanol glybiau a chymdeithasau a phrynwch stop drws i chi daro sgwrs gyda’r bobl sy’n mynd heibio. Treuliwch lawer o amser yn eich cegin/llecyn cymunedol. 

Yn yr un cwch mae pawb. Mae pawb yn trio gwneud ffrindiau a phawb yn poeni amdano. Byddwch yn ddewr ac ewch amdani. Rhowch gynnig ar rywbeth newydd. Dyma’r cyfle perffaith. 

Will - Dydw’i ddim yn un am yfed sy’n golygu bod gen i lai o opsiynau i gymdeithasu, i’r rheini nad ydynt yn yfed, dwi’n awgrymu i chi edrych ar wefan Undeb Aber a chael hyd i 1-3 o glybiau/cymdeithasau i fynd i’w digwyddiadau perthnasol. Gwell ffrindiau sy’n ffrindiau yn sobr na ffrindiau da yn eu diod yn unig.  

Beth yw eich hoff atgof o Gyfnod y Glas?

Elain - Crôl chwe dyn yn ystod Wythnos y Glas gyda myfyrwyr o'r drydedd. Lot o hwyl o be ‘dw i’n ei gofio! 

Emily (Mo) - Ddechrau’r flwyddyn academaidd, aeth fy nghyd-letywyr i a finnau i’r dafarn am ddiod dawel a chodi tecawê wedyn. Er iddi deimlo’n lletchwith ar y pryd, gawsom ni hwyl, ac oedd yn neis treulio amser gyda phobl y tu allan i’r tŷ. 

Bayanda - ‘Tarannau Time’ yn ystod wythnos y croeso yn fy mlwyddyn gyntaf.  

Tiif - Cwrdd â chymaint o bobl newydd, treulio bob nos yn eistedd yn ein cegin yn siarad ac yn chwarae gemau. 

Will - Roedd fy mlwyddyn gyntaf fis Medi 2020, felly oedd yn brofiad hollol wahanol i’r hyn sydd nawr. Ond chwarae Warhammer ar y fainc y tu allan i y Ffald, Fferm Penglais yw’r prif atgof sy’n dod i’m meddwl. Doedden ni ddim yn cael chwarae y tu mewn oherwydd cyfyngiadau covid ar osod lliain dros y bwrdd i atal y ffigurau rhag cwympo. 

A oes gennych chi gyngor i lasfyfyriwr?

Elain - Mae amser yn hedfan, felly gwnewch y mwya' o bob cyfle. 

Emily (Mo) - Os oes angen cyngor neu gymorth o unrhyw fath arnoch chi, chwiliwch am gefnogaeth. Mae yma bobl i’ch cefnogi a phobl sydd eisiau gwneud hynny! 

Bayanda - Peidiwch â hastio i ymgartrefu, gall gymryd tipyn o amser weithiau. 

Tiif - Y Brifysgol yw’r dechreuad newydd perffaith. Rhowch gynnig ar bopeth, cwrdd â chymaint o bobl â phosib, manteisiwch ar y cyfle hwn i fod yn chi’ch hun o’r newydd fel oedolyn.   

Will - Does dim rhaid i chi yfed i gael hwyl. Cyngor ar ben hynny, ewch i gymryd rhan yn Undeb Aber. 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576