Cyflwyno Will - 24/25 Swyddog Materion Academaidd

officerblogwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Enw a Rôl: 

Will Parker, Swyddog Materion Academaidd 24/25.

Heia, Will ‘dwi o bosib y bydd rhai ohonoch yn f’adnabod i o’r campws ac Undeb Aber. Astudiais i yn Aberystwyth am 4 mlynedd, gan ddechrau gradd sylfaen mewn astroffiseg a gorffen gyda gradd mewn marchnata. Dwi’n aelod brwd o Kaotica Tabletop - y Gymdeithas Gemau-fwrdd, a finnau’n llywydd arni am y rhan helaethaf o’m his-radd.

Rhowch ffaith ddiddorol neu randwm amdanoch chi’ch hun i ni: 

Ces i fy ngeni heb ddant gofid yn ganlyniad i newid geneteg.

Dewiswch dri gair sy’n eich disgrifio orau:

Sylwgar, Carismatig, Ymroddgar.

Eich pryd olaf ar y ddaear... Beth sydd ar y fwydlen? A pha 3 o enwogion fyddai’n cael eu gwahodd?: 

Rhaid mai cinio rhost fyddai fy mhryd olaf i. Byddai rhaid i fi wahodd Henry Cavill, Matt Smith a George Lucas.

Pa ddiddordeb sydd gennych chi?:

Warhammer a phopeth o natur felly, dwi’n byw a bod amdano braidd. Ar ben hynny mae gen i ddiddordeb mawr yn Pokemon, Star Wars, Doctor Who, y Gofod a Dinosoriaid. 

Pam wnaethoch chi ddewis sefyll dros y rôl hon?:

Oedd Anna Simpkins, fy rhagflaenydd, yn ysbrydoliaeth fawr i fi.

At ba bethau ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf eleni?:

Meithrin perthynas gyda’r boblogaeth fyfyrwyr.

Pa achosion sydd o bwys i chi?:

Yn bersonol, unrhyw beth sy’n ymwneud â chathod. Astronomeg ei naws, niwroamrywiaeth.

Pa le yw eich hoff le i ymlacio yn Aberystwyth?: 

Pe bai rhaid dewis, Royal Pier Billiards Bar fyddai.

Pe gallech chi fod yn anifail p’un fysech chi a pham?:

Cath dŷ fyswn i, yn byw bywyd Duw.

Oes gennych chi unrhyw draddodiadau neu ofergoelion rhyfedd?: 

Er siom mawr, nag oes.

A oes yna un peth y dylai pawb ei wneud/cael profiad ohono o leiaf unwaith mewn bywyd?: 

Er ei fod yn ystrydebol ei naws, byddwch chi’ch hun.

Llacio gafael yn eich pryderon a bod gwirioneddol fe rydych chi yw’r profiad mwyaf rhydd y cewch erioed.

Dych chi ar eich ffordd i’r gwaith ar fore Llun... pa gân fydd yn y cefndir?: 

Well gen i lyfr llafar a bod yn onest, ac o ystyried nad oes rhestr chwarae, dwi ar hyn o bryd yn gwrando ar ‘the Abyssal Archive’ ysgrifennwyd gan Lokey a Read gan VaatiVidya. Debyg y bydda’ i’n dal i wrando arnynt erbyn i hyn gael ei gyhoeddi.

Rhowch enghraifft o’ch hoff le i ymweld â fe a pham: 

Firestorm Games yng Nghaerdydd, siop fawr gîc-aidd ei natur a gafodd ei hadeiladu mewn hen ystafell arddangos ceir, gyda nwyddau lawer a digon o ardaloedd i chware. 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576