Cyflwyno Tiff: 24/25 Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr

officerblogwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Enw a Rôl: 

Tiffany McWilliams (Tiff), ei/hi - y Swyddog Cyfleoedd

Heia, Tiff ‘dwi a fi yw eich Swyddog Cyfleoedd ail-etholedig. Mae’n fraint gen i ddychwelyd am flwyddyn arall oherwydd i fi wirioni ar y rôl hon a gobeithio fy mod wedi gwneud gwahaniaeth. Fy mhrif ffocws yw sicrhau bod eich lleisiau yn cael eu clywed a bod ateb i’ch problemau. Dewch ataf i am bob un dim achos ni waeth os nad oes gen i ateb, galla’ i naill ai ymdrechu dros gael un neu chwilio am rywun fydd yn gwybod.

Rhowch ffaith ddiddorol neu randwm amdanoch chi’ch hun i ni: 

Dwi wedi cwrdd â David Tennant (mae fe’n wirioneddol hyfryd), yr unig dro i fi dorri asgwrn oedd pan gwympais i o goeden, gall fy nhafod gyffwrdd â’m trwyn.

Dewiswch dri gair sy’n eich disgrifio orau:

Brwdfrydig, Angerddol ac Anturus.

Eich pryd olaf ar y ddaear... Beth sydd ar y fwydlen? A pha 3 o enwogion fyddai’n cael eu gwahodd?: 

I ddechrau: Madarch garlleg o Little Italy. Prif bryd: Cyw iâr Mongolaidd gyda sglods o Fusion King. Pwdin: Cacen gaws Biscoff. Gwesteion: Misha Collins, Jensen Ackles, Santiago Cebrera

Pa ddiddordeb sydd gennych chi?:

Mae gen i dipyn o ddiddordebau. Dwi wedi gwneud llawer o chwaraeon er enghraifft; pêl-rwyd, pêl-droed, athletau, dringo cerrig, rownders, yn ogystal ag amryw o ddull ddawnsio. Un brwd dros sioe gerdd, canu a dawnsio ‘dwi. Dwi hefyd yn gîc mawr pan ddaw yn fater o ffilmau a rhaglenni teledu. Supernatural yw fy hoff raglen teledu erioed, ond mae gen i restr o fy hoff 20 ffilm achos alla’ i ddim dewis.  

Pam wnaethoch chi ddewis sefyll dros y rôl hon?:

Yn wreiddiol, sefais i achos y ces i fy enwebu a des i sylweddoli y gallwn i weithio er lles myfyrwyr tra’n cael hwyl. Ail-sefais i achos, erbyn hyn, dwi’n gwybod fy mod i’n angerddol am y swydd hon ac wedi darganfod y fath o waith yr hoffwn i wneud am byth. Dwi’n bwriadu aros mewn Undebau Myfyrwyr, yn ddelfrydol mewn adrannau cyfleoedd.

At ba bethau ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf eleni?:

Dwi’n edrych ymlaen at gael fy synnu. Mae fy swydd yn hollol wallgof ac mae bob dydd yn wahanol. Dwi’n edrych ymlaen at yr holl bethau y bydda’ i’n eu gwneud ond heb wybod eto.

Pa achosion sydd o bwys i chi?:

Mae cyfiawnder o bwys mawr i fi yn ogystal â hyrwyddo cydraddoldeb a thegwch ar draws pob agwedd ar fywyd.

Pa le yw eich hoff le i ymlacio yn Aberystwyth?: 

I gael noson dawel y Cambrian fyddai hi, y Commodore o ran sinema a’r traeth i gynnau coelcerth a gwneud barbeciw.

Pe gallech chi fod yn anifail p’un fysech chi a pham?:

Dwi’n credu taw Teigr fyswn i oherwydd y gallant fod yn ciwt ac annwyl ond hefyd yn wyllt a ffyrnig ac fe wnân nhw frwydro dros yr hyn maent ei eisiau. 

Oes gennych chi unrhyw draddodiadau neu ofergoelion rhyfedd?: 

Dwi’n credu mewn ysbrydion, ac mae’r cefnfor yn codi ofn fy myw arnaf i. Dyn ni ond wedi darganfod 10% yn unig. Rhaid bod pethau erchyll lawr acw. 

A oes yna un peth y dylai pawb ei wneud/cael profiad ohono o leiaf unwaith mewn bywyd?: 

Gweithio yn y diwydiant adwerthu neu letygarwch. Pe bai pawb yn deall sut brofiad yw gweithio yn y diwydiant hwn, dwi’n meddwl y bysai’r staff cael eu trin yn well. Hefyd, gwnewch y Sialens Aber achos mae’n ardderchog.

Dych chi ar eich ffordd i’r gwaith ar fore Llun... pa gân fydd yn y cefndir?: 

Return of the Mack – Mark Morrison

Rhowch enghraifft o’ch hoff le i ymweld â fe a pham: 

Dydw’i ddim wedi teithio cymaint ag yr hoffwn i ond fe es i Lanzarote am y Nadolig ddwy flynedd yn ôl ac oedd y lle mor hardd.

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576