Cyflwyno Emily (Mo) - 24/25 Swyddog Lles

officerblogwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Enw a Rôl: 

Emily (Mo) y Swyddog Llesiant.

Shwmae, Mo ‘dwi a fi yw eich Swyddog Llesiant newydd-etholedig am y flwyddyn yn Undeb Aberystwyth. Des i’r brifysgol yn 2020 a chwblhau gradd mewn seicoleg. Dwi wrthi’n cwblhau fy ngradd meistr mewn Newid Ymddygiad, a hynny ar yr cyd gyda fy rôl llawn amser!

Yn ogystal â bod yn Swyddog Llesiant i chi, dwi yma i gynrychioli eich llais fel myfyrwyr yn ymwneud â llesiant. Bydda’ i’n gweithio ar y cyd gyda Thîm y Swyddogion i helpu sicrhau bod eich profiad myfyrwyr mor hapus ac iach â phosib!

Rhowch ffaith ddiddorol neu randwm amdanoch chi’ch hun i ni: 

Fe fues i’n rhan o glwb pêl-droed y menywod pan o’n i’n astudio yma. Bues i ar y pwyllgor am flwyddyn hefyd a oedd yn profiad gwych.

Dewiswch dri gair sy’n eich disgrifio orau:

 

Byswn i’n aros yn bwyllog, awyddus ac empathetig.

Eich pryd olaf ar y ddaear... Beth sydd ar y fwydlen? A pha 3 o enwogion fyddai’n cael eu gwahodd?: 

 

Rhaid deud taw lasagne fy mam fyddai! Byswn i’n gwahodd Reneé Rapp, Phoebe Waller-Bridge ac Olivia Coleman a nhwythau oll yn fenywod dwi’n eu hedmygu’n fawr, ac dwi hefyd yn meddwl eu bod nhw’n cŵl iawn!

Pa ddiddordeb sydd gennych chi?:

 

Dwi’n mwynhau chwaraeon ac ymarfer corff yn fawr iawn boed yn bêl-droed, rhedeg neu fynd i’r gampfa. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth, ac dwi’n licio chwarae’r gitâr!

Pam wnaethoch chi ddewis sefyll dros y rôl hon?:

 

Yn bersonol, creda’ i y bydd yn gyfle gwych i fi fagu fy sgiliau a thyfu fel person. Ond yn fwy na dim, dwi’n awyddus i roi newid cadarnhaol ar waith, hoffwn i ymdrechu i wella y profiad myfyrwyr a sicrhau bod myfyrwyr yn hapus ac yn fodlon cymaint â phosib.

At ba bethau ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf eleni?:

 

Dwi’n edrych ymlaen yn arw at ddechrau arni gyda’r ymgyrchoedd a’r prosiectau!

Dwi hefyd yn edrych ymlaen at Wythnos y Croeso a phopeth ddigwyddith yn ystod yr wythnos - cwis y swyddogion yn arbennig!!

Pa achosion sydd o bwys i chi?:

 

Mae yna lawer o bethau ond rhai o’r achosion sy’n agos at fy nghalon yw cydraddoldeb rhyweddol, llesiant anifeiliaid, hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol.

Pa le yw eich hoff le i ymlacio yn Aberystwyth?: 

 

Dwi wrth fy modd bod ger y môr, boed ar y traeth neu mewn lle gyda golwg braf ar y môr.

Pe gallech chi fod yn anifail p’un fysech chi a pham?:

 

Byswn i’n rhyw fath o aderyn - byddai bod yn rhydd i deithio a darganfod llefydd wrth hedfan yn rhyddid mawr.

Oes gennych chi unrhyw draddodiadau neu ofergoelion rhyfedd?: 

 

Yr unig beth sy’n dod i’r meddwl yw fy mod i’n osgoi cerdded dros dair ffos yn olynol.

A oes yna un peth y dylai pawb ei wneud/cael profiad ohono o leiaf unwaith mewn bywyd?: 

 

Gwnewch rywbeth y bysech chi fel arfer yn pallu gwneud (o fewn rheswm), p’un ai plymio o’r awyr, mynd am nofiad yn y môr neu fynd tramor. 

Gall fod yn heriol ond mae bod yn gyfforddus gydag anesmwythder yn gallu arwain at rai o’r profiadau gorau.

Dych chi ar eich ffordd i’r gwaith ar fore Llun... pa gân fydd yn y cefndir?: 

 

Mariah Carey- Fantasy.

Rhowch enghraifft o’ch hoff le i ymweld â fe a pham: 

 

Slofenia Es i ymweld â’r weld cwpwl o flynyddoedd yn ôl gydag un o fy ffrindiau a chawsom ni amser heb ei ail. Cawsom ni wneud llawer o bethau fel ymweld â Triglav - y parc cenedlaethol a mynd caiacio oedd yn brofiad braf hefyd. 

Ar ben hyn oll, gwlad hardd yw hi, roedd cymaint o olygfeydd anhygoel o’n cwmpas!

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576