Enw a Rôl:
Bayanda - Llywydd.
Shwmae, Bayanda ‘dwi a fi yw eich llywydd ailetholedig a braf Cynrychioli anghenion myfyrwyr a brwydro dros hawliau myfyrwyr hyd eithaf fy ngallu fydd wrth wraidd yr ymgyrchoedd y bydda’ i’n eu cynnal. Mae croeso i chi gysylltu â fi ac fe fydda’ i’n hapus i helpu unrhyw bryd.
Rhowch ffaith ddiddorol neu randwm amdanoch chi’ch hun i ni:
O Botswana ‘dwi yn wreiddiol a galla’ i siarad 3 iaith wahanol.
Dewiswch dri gair sy’n eich disgrifio orau:
Egnïol, Ymroddgar, Difyr.
Eich pryd olaf ar y ddaear... Beth sydd ar y fwydlen? A pha 3 o enwogion fyddai’n cael eu gwahodd?:
Brecwast Llawn - Lewis Hamilton, Bukayo Saka, a Nelson Mandela.
Pa ddiddordeb sydd gennych chi?:
Pêl-droed Americanaidd, Gemio a Phŵl.
Pam wnaethoch chi ddewis sefyll dros y rôl hon?:
Penderfynais i sefyll oherwydd fod gennyf i angerdd am wneud gwahaniaeth a sefyll fel llywydd oedd y cyfle perffaith i wneud hynny.
At ba bethau ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf eleni?:
Cael gweithio ar ymgyrchoedd y llynedd a datblygu rhai newydd ar hyd y daith.
Pa achosion sydd o bwys i chi?:
Cydraddoldeb hiliol, a rhoi llwyfan i fyfyrwyr, myfyrwyr rhyngwladol yn arbennig, godi eu lleisiau.
Pa le yw eich hoff le i ymlacio yn Aberystwyth?:
Y Bank Vaults neu Downies mae’n debyg.
Pe gallech chi fod yn anifail p’un fysech chi a pham?:
Debyg gen i taw tylluan fyswn i o achos un doeth a hen ‘dwi.
Oes gennych chi unrhyw draddodiadau neu ofergoelion rhyfedd?:
Fydda’ i ond yn defnyddio yr un un ciwbicl yn nhoiledau’r UM.
A oes yna un peth y dylai pawb ei wneud/cael profiad ohono o leiaf unwaith mewn bywyd?:
Mynd i’r sinema ar eich pen eich hun.
Dych chi ar eich ffordd i’r gwaith ar fore Llun... pa gân fydd yn y cefndir?:
Wait for it – Aaron Burr (Hamilton)
Rhowch enghraifft o’ch hoff le i ymweld â fe a pham:
Botswana heb os, dwi wrth fy modd yn gweld fy nheulu a mynd ar saffari.