Cwestiwn ac Ateb ar gyfer y Pwyllgor: Rhian Jones

ClubscommitteeElectionsSocietiesSportsSports ClubsTeamAberwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Y rôl bwyllgor dwi wedi’i dal yw Llesiant i’r Gymdeithas KPOP. Gan fy mod i’n fyfyrwraig seicoleg, roedd y rôl hon yn hollbwysig i fi gan ei bod wedi rhoi’r cyfle i fi ddangos y sgiliau angenrheidiol ar gyfer maes fy niddordeb. Dwi’n sefyll am y rôl hon yn bennaf oherwydd ces i fy hun yn cadw golwg am aelodau bregus y gymdeithas, mewn rhai sefyllfeydd. Y rhan fwyaf boddhaus o fod ar y pwyllgor yw trefnu’r digwyddiadau cymdeithasol yn ystod cyfnodau pan fydd pawb dan bwysau, ee tymor cystadlaethau neu’r arholiadau, gweld pawb yn mwynhau eu hunain. Fodd bynnag, gall fod yn heriol pan fydd dadlau ymysg y pwyllgor, gan mai chi yw’r canolwr yn hyn i gyd. Felly, gair o gyngor i bwy bynnag sy’n cymryd yr awenau fyddai cadw’r cyfarfodydd llesiant; gallwch chi glywed am bethau yn gynharach ac yna eu datrys yn gynt hefyd a chael hwyl. Does dim rhaid i fod ar y pwyllgor yn waith caled, yn hytrach na rhywbeth eich bod chi’n ei wneud dros gymdeithas sy’n bwysig i chi!!

 

 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576