Cwestiwn ac Ateb ar gyfer y Pwyllgor: Megan Pagett

ClubscommitteeElectionsSocietiesSportsSports ClubsTeamAberwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Pa bwyllgor wyt ti'n rhan ohono a pha rolau sydd wedi bod gen ti?

Rydw i wedi bod yn aelod o glwb Dawnswyr Sioe Gerdd Showdance ers 3 blynedd, ac rwyf wedi bod ar y pwyllgor am y ddwy flynedd ddiwethaf, fel Trysorydd y llynedd (2019-2020) ac yna fel Llywydd eleni.  

 

Beth wnaeth i ti fod eisiau sefyll am rôl ar y pwyllgor?

Y prif reswm pam y gwnes i sefyll am rôl ar y pwyllgor oedd fy mod i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i glwb sydd wedi rhoi cymaint i mi. Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, roeddwn yn un o’r aelodau tawelach, ac roedd ymuno â’r pwyllgor yn gyfle gwirioneddol i mi fagu hyder, a thrwy gefnogaeth fy nghyd-aelodau cefais fy annog i sefyll am rôl Trysorydd. Er y tarfwyd ar y flwyddyn honno, mwynheais y profiad o fod yn Drysorydd yn fawr a dysgais gymaint o'r rôl, felly penderfynais fy mod eisiau her newydd a sefyll am rôl y Llywydd.  

 

Beth oedd y rhan fwyaf pleserus o fod ar y pwyllgor?

Mae gweld eich clwb a'i aelodau'n llwyddo yn gwneud i chi deimlo cymaint o falchder. Dyma rai o'r uchafbwyntiau: Ffair y Glas 2019, Gwyl y Celfyddydau 2019, trefnu’r coreograffi ar gyfer Ryngolgampau Farsiti 2020. Eleni, rydw i wir wedi mwynhau meddwl am ffyrdd newydd o ennyn diddordeb ein haelodau tra bod popeth wedi bod yn rhithwir - roedd ein Penwythnos Aduniad Rhithwir yn llwyddiant ysgubol. Rydyn ni wedi cynnal gweithdai ar-lein gyda phroffesiynwyr o’r diwydiant, ac mae ein digwyddiadau cymdeithasol wythnosol wedi parhau i fod yn boblogaidd dros ben. Ond yn anad dim, mae bod yn aelod o'r pwyllgor wedi golygu fy mod i wedi gallu gwneud cymaint o ffrindiau rhyfeddol a chreu atgofion anhygoel. Mae bod yn aelod ac ar bwyllgor Showdance yn brofiad sydd wedi gwneud fy amser yn y brifysgol mor arbennig. 

 

Wyt ti’n gallu dweud wrthym am gyfnod lle’r oedd dy rôl yn heriol?

Ar y cyfan, mae popeth wedi bod yn heriol eleni oherwydd rydyn ni i gyd wedi bod yn arwain clybiau a chymdeithasau trwy amgylchiadau digynsail. Does gan neb lawlyfr ar sut i redeg clwb trwy COVID, ond rydyn ni i gyd wedi cyflawni cymaint.   

Yn bersonol, y prif beth sy'n dod i'r meddwl yw rheoli fy ngwaith prifysgol ochr-yn-ochr â gallu gwneud yr hyn sydd orau i'r clwb. O hyn, rydw i wir wedi dysgu blaenoriaethu'r hyn sydd angen ei wneud ar ran y clwb, gan bob amser roi fy ngradd yn gyntaf; hefyd nad yw'n wendid gofyn i aelodau eraill eich pwyllgor am help, gan eich bod chi i gyd yn dîm sy'n gweithio i gyflawni’r un amcanion.  

 

Wyt ti’n teimlo bod perthyn i bwyllgor wedi bod yn fuddiol o ran dy baratoi di ar gyfer y dyfodol?

Rwy’n bendant yn credu bod y profiad o fod ar bwyllgor wedi fy mharatoi ar gyfer fy nyfodol. Mae bod yn Drysorydd a Llywydd wedi dysgu cymaint o sgiliau hanfodol i mi - rheoli amser, cyfathrebu, trefnu, yn ogystal â’r gallu i addasu a datrys problemau. Hefyd mae bod yn aelod o'r pwyllgor wedi caniatáu i mi ddatblygu fy hyder, ac mae wedi rhoi profiadau arweinyddiaeth pwysig i mi.  

 

Pa gyngor fyddet t'n ei roi i aelod newydd o'r pwyllgor?

Gwnewch y gorau o’r cyfle. Peidiwch â phoeni os nad yw pethau o reidrwydd yn mynd fel roeddech chi am iddyn nhw fynd; mae popeth yn digwydd am reswm ac os nad yw rhywbeth yn mynd yn arbennig o dda, mae'n rhoi cyfle i chi ailfeddwl am yr hyn sydd wedi digwydd a chwilio am ffyrdd gwell o wneud rhywbeth.  

Hefyd, os oes gennych chi gwestiwn, gwnewch yn siwr eich bod yn ei ofyn. Bydd pwyllgorau’r gorffennol yno bob amser i chi anfon neges atynt os oes gennych chi gwestiynau, neu os oes angen rhywfaint o gyngor arnoch ar bethau, oherwydd byddant bob amser eisiau i'r clwb fynd ymlaen a chyflawni pethau anhygoel.  

Os oes gan unrhyw un unrhyw gwestiynau yn ymwneud â rôl y Trysorydd neu’r Llywydd, neu’r pwyllgor yn gyffredinol, mae croeso i chi anfon neges ataf a gwnaf fy ngorau i helpu. Rydw i wedi bod wrth fy modd yn aelod o bwyllgor Showdance a hoffwn ddymuno pob lwc i bob clwb a chymdeithas ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Sefyll Pleidleisio
Yn agor 10am dydd Llun 15fed Mawrth tan 10am dydd Llun 19eg Ebrill Bydd y pleidleisio'n dechrau am 10am ddydd Llun 26ain Ebrill tan 3pm ddydd Gwener 30ain Ebrill

 

 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576