Pa bwyllgor wyt ti'n rhan ohono a pha rolau sydd wedi bod gen ti?
Ar hyn o bryd, fi yw Llywydd clwb Pêl-fasged y Dynion a Chapten clwb Pêl-fasged y Menywod.
Beth wnaeth i ti fod eisiau sefyll am rôl ar y pwyllgor?
Rwyf bob amser wedi bod yn rhan o dîm, ond erioed wedi bod yn rhan o'r gwaith gweinyddol nac o'r broses baratoi cyn ymarferion a gemau. Roeddwn i eisiau cael profiad o ochr y gamp sy’n anweledig, ond sy'n bwysig iawn fel rhan o redeg unrhyw glwb.
Beth oedd y rhan fwyaf pleserus o fod ar y pwyllgor?
Y rhan fwyaf pleserus oedd gweld sut mae'ch ymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi gan yr aelodau eraill.
Wyt ti’n gallu dweud wrthym am gyfnod lle’r oedd dy rôl yn heriol?
A bod yn onest, ni chefais amser anodd fel rhan o'r pwyllgor, ond roedd yn heriol weithiau cydbwyso fy amser gyda gwaith prifysgol.
Wyt ti’n teimlo bod perthyn i bwyllgor wedi bod yn fuddiol o ran dy baratoi di ar gyfer y dyfodol?
Yn bendant, mae gweithio gyda phobl bob amser o fudd i chi, gan fod hyn yn eich dysgu i fod yn amyneddgar, ac yn fwy trefnus.
Pa gyngor fyddet t'n ei roi i aelod newydd o'r pwyllgor?
Peidiwch â bod ofn mynegi eich hunain!
Sefyll |
Pleidleisio |
Yn agor 10am dydd Llun 15fed Mawrth tan 10am dydd Llun 19eg Ebrill |
Bydd y pleidleisio'n dechrau am 10am ddydd Llun 26ain Ebrill tan 3pm ddydd Gwener 30ain Ebrill |