Crynodeb o BUCS Tymor 1: Dechrau Cyffrous i’r Tymor

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Wrth i’r tymor BUCS cyntaf ddirwyn i ben, mae timau Prifysgol Aberystwyth wedi chwarae hyd eithaf eu gallu ar y maes, y cwrt a’r cae. Gan chwarae 103 o gemau ar draws 13 o wahanol chwaraeon, bu llond tymor o weithgarwch, angerdd, a gemau rhagorol. Dyma gip ar rai o’r uchafbwyntiau hyd yn hyn.

 

Pêl-droed y Menywod

Dechreuodd Tîm Pêl-droed y Menywod yn gryf gan ddangos ei wydnwch a’i waith tîm. O’u 8 gêm hyd yma, dim ond colli 2 wnaethon nhw, sy’n brawd o’u hydmrechion cyson ar y cae. Mae’r tîm wedi ennill enw am eu dawn arwain y gad yn ogystal â’u dyfalbarhad wrth amddiffyn, sy’n eu gwneud yn gystadleuaeth galed i unrhyw dîm. P’un ai adennill y blaen ar gêm neu ddominyddu ers y cychwyn cyntaf, mae Tîm Pêl-droed y Menywod wedi gadael argraff fawr y tymor hwn.

"Our BUCS season so far has been very successful with our biggest win being 10-0 against Bristol Women's 3rds in the Women's Western Conference Cup which sees us play Plymouth 1sts in the Quater Finals! We're currently second in the league after playing many of our games away we're excited to play some home games in the new year where our supporters can watch. We've been playing some amazing football despite multiple injuries in our squad the girls have fought some tough battles against good teams and come out on top!" - Menna Jones (Captain)

 

Hoci’r Dynion

Mae Hoci’r Dynion wedi sefyll allan y tymor hwn, gan ymladd trwy restr heriol o gystadlaethau. Gan chwarae 6 gêm a cholli 2 yn unig, mae’r tîm yn prysur ddod yn dîm cryf yn ei gynghrair.   Mae eu gallu i addasu a chodi i’r her yn nod amgen o’u perfformiad hyd yma. Boed trwy sgorio penalti o’r gornel neu amddiffyniad cadarn, dyma edrych at weld Hoci’r Dynion yn parhau â’r momentwm hwn i’r flwyddyn newydd.

"Aber men’s hockey performed well as a team this semester winning 4 games with great performances from both returning players and newcomers. Training sessions have proven to be instrumental in building team cohesive and confidence on difficult pitches, with the newer players progressing well. We hope to continue this in to next semester while also focusing on recruiting more people into the team." - Tom Hampden Smith (Club Secretary)

 

Pêl-foli’r Dynion

Ar y cwrt, mae Pêl-foli’r Dynion wedi chwarae sawl gêm gyffrous. Maen nhw wedi cwrdd â record Hoci’r Dynion o chwarae 6 gêm a cholli 2, gan amlygu eu hysbryd cystadleuol. Gwelwyd rhagoriaeth ymhob gêm, o serfiadau manwl i flocio’r bêl yn ddiffael, maen nhw wedi dangos dylfalbarhad a manylder y sgwad. O ystyried lle mae’r tîm arni erbyn hyn, mae’r flwyddyn nesaf yn argoeli’n well fyth yn 2025.

"I'm incredibly happy with the team this season. Both in training and in our game the performances of every player has been outstanding. Its amazing to be able to see the team working together, and developing the way that they have been. Even after experiencing a tough loss, the team came together to figure out the best way to fix our mistakes and pulled us back into a winning form to close out the year. Id especially like to shout out Amin, Henry, Kieran, Iker and Peter for their consistent performances in BUCs over the semester. Im excited to continue to prove that we are a high level team and hopefully keep this form going into next semester." - Alan Atkins (President & Player Coach)

 

Wrth Edrych Ymaeln

Daeth Tymor 1 â digon o uchafbwyntiau ac wedi gosod sylfaen ar gyfer ail hanner mwy cyffrous fyth o’r tymor. Mae gan gymuned Aberystwyth gymaint i’w ymfalchio ynddo ar ddiwedd tymor llawn cystadlaethau a thimau di-rif yn chwarae ar eu gorau, Wrth i’r tîm gymryd hoe haeddianol iawn, rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut byddan nhw’n parhau i gynrychioli’r Brifysgol gyda sgil ac angerdd pan fydd BUCS yn ailgydio yn y tymor nesaf.

 

Cadwch olwg am fwy o ddiweddariadau, a pheidiwch ag anghofio cefnogi ein timau wrth iddynt fynd amdani yn 2025!

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576