Crynodeb Digwyddiad Tymor 2

welsh

Mae'r tymor hwn wedi gweld ein digwyddiadau blynyddol Superteams a Varsity yn digwydd. Gadewch i ni edrych ar sut aethon nhw -

Superteams

Ar ôl dau benwythnos o gystadlu dwys ym mis Chwefror, brwydrodd 56 o wahanol dimau mewn mwy na 22 o ddigwyddiadau yn amrywio o rasys, castell bownsio, i dynnu’r rhaff gydag un enillydd yn unig yn cario’r dydd. 

Menywod oedd y cyntaf i gystadlu, gyda rhai perfformiadau cryf iawn yn dangos y ffordd yn y gystadleuaeth. Gorfodwyd timau i wneud penderfyniadau pwysig a allai beri iddynt sicrhau neu golli eu lle ar y bwrdd sgorio, gan ddewis gollwng un digwyddiad a mentro dyblu eu pwyntiau ar un arall.

Ac am wahaniaeth a wnaeth y penderfyniadau hyn gyda DAFUQQQ yn neidio o 8fed i 3ydd dros ddydd Gwener i ddydd Sadwrn, yn dilyn eu perfformiad yn ei gamblo hi ar y gêm osgoi pêl, tra bod Farmer Charmers wedi gostwng o'r 13eg i'r 22ain ar ôl perfformiad gwael ar ôl dewis ei mentro hi ar dynnu rhaff.

Roedd cystadleuaeth y dynion yr un mor ffyrnig. Ar ôl y gystadleuaeth ddydd Sadwrn dim ond 10 pwynt oedd rhwng We Don't like Him Either, a'u heriwr, Meatballs's Minions i gael cyntaf. Roedd popeth yn y fantol wrth i gemau dydd Sul ddechrau, gyda 5 o'r timau yn ei mentro hi ar y digwyddiad dirgel, sy'n golygu bod newidiadau munud olaf i’r bwrdd sgorio yn siŵr o ddigwydd. Torrodd y newidiadau hyn y bwrdd sgorio; Cododd Badminton Backshots o 25ain i 18fed, cododd Rim Dingers o'r 21ain i'r 15fed, ac yn llai ffodus gostyngodd Ambulance Riders o'r 17eg i'r 23ain.

Ac yn ôl yr arfer, ar ôl penwythnos a orffennodd mewn hylifau amheus ac athletiaeth greulon, ar y Sul cyntaf a'r ail, coronwyd pencampwyr. Dim ond 12 pwynt oedd rhwng y 2 dîm menywod uchaf, gan ei gwneud hi’n bron yn amhosibl rhagweld pwy enillai. Ond bu rhaid i rywun ennill.

Dyma’r sgoriau terfynol:

 

 

Y Menywod

Y Dynion

Yn olaf

Power Punch Girls

Thorfinn & The Silly Freshers

3ydd

Whip It Harder

Ball Slappers

2il

The Real Swim Shady

Meatball’s Minions

1af

Beer Pressure

We Don’t Like Him Either

 

Varsity

Yn y Varsity gwelwyd myfyrwyr yn cynrychioli Aberystwyth drwy athletiaeth a chystadlu o safon uchel.

Chwaraewyd 46 o wahanol chwaraeon yn ystod y gystadleuaeth yn amrywio o jiw-jitsu, i syrffio, i tenis bwrdd, a phob un â sgoriau agos. Llwyddodd Aberystwyth mewn llawer o'r rhain, gan ennill Pêl-droed Americanaidd 47-28, Pŵl 30-22 a Phêl-droed y Menywod 1-0.

Fodd bynnag, llwyddodd Bangor hefyd, gan ddangos ffyrnigrwydd y gystadleuaeth a’r dwyster a welwyd.

Llongyfarchiadau i bob myfyriwr/wraig a gymerodd ran yn y diwrnod varsity ei hun a'r dyddiau cyn hynny. Gadewch i ni barhau â’r safon hyn o chwarae a mynd yn ôl am rownd arall y flwyddyn nesaf!

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576