Newidiadau i Oriau Agor Llyfrgell Hugh Owen: y Manylion

Rydym wedi gweld nifer o fyfyrwyr yn cysylltu â ni yn sgil datganiad gan y Brifysgol ynglŷn â newid oriau agor y llyfrgell, felly, fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr, dyma neges fach i drafod ychydig o fanylion y newidiadau hyn.

welsh
Rated 5/5 (1 person). Mewngofnodi i Raddio

Rydym wedi gweld nifer o fyfyrwyr yn cysylltu â ni yn sgil datganiad gan y Brifysgol ynglŷn â newid oriau agor y llyfrgell, felly, fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr, dyma neges fach i drafod ychydig o fanylion y newidiadau hyn.

Beth sy’n digwydd?

O’r flwyddyn academaidd hon ymlaen, mae oriau agor y Llyfrgell am newid. Bydd Lefel D (y lefel llawr) ar agor 24/7 ond bydd Lefel E ac F yn agored o 8yb i 10yh.

 

Pam fod hyn yn digwydd?

Mae Prifysgol Aberystwyth, fel llawer o brifysgolion, wrthi’n pwyso a mesur ffyrdd o ddiwallu anghenion myfyrwyr tra’n rheoli cyfyngiadau cyllid. Mae’r newidiadau i oriau’r llyfrgell yn rhan o ymdrech i leihau costau gweithredu heb roi’r gorau i wasanaethau hanfodol.

Y llynedd, ymgynghorwyd ag Undeb y Myfyrwyr ynglŷn â newidiadau posib ac ers yr haf rydym wedi gweithio gyda’r Brifysgol ar sicrhau cyfaddawd rhesymol a fydd yn cadw Lefel D yn agored 24/7 tra’n cau Lefelau E ac F am 10yh (er y bydd llefydd astudio eraill ar draws y campws yn agored 24/7 o hyd).

Gan weithio gyda Will, Swyddog Materion Academaidd UA, cawsom drafodaethau gyda’r Is-ganghellor dros Addysg a’r Profiad Myfyriwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Gwybodaeth a gytunodd hefyd ar gadw’r llyfrgell yn agored yn llawn am 24/7 yn ystod terfynau amser phwysig a chyfnodau’r arholiadau.

Yn ogystal ag arbed arian ar wres a golau, mae’r Brifysgol wedi amlygu y bydd cau dwy lefel y llyfrgell am leihau allyriadau carbon gan 1.2 o dunelli.

 

A gaiff y penderfyniad ei adolygu?

Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r Brifysgol i adolygu darpariaeth o’r llyfrgell (gan gynnwys oriau agor a defnydd effeithlon o fannau ac adnoddau) yn barhaus.

 

Sesiwn Cyfarfod Holi ac Ateb

Gan fod cryn ymateb cryf i’r mater hwn a’r pryderon a godwyd, rydym yn cynnal sesiwn Holi ac Ateb  ddydd Llun 23 Medi am 11:00 i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Gellir gweld mwy yma: https://www.umaber.co.uk/ents/event/8851/

Fel arall, gellir e-bostio unrhyw gwestiynau at supresident@aber.ac.uk :

 

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576