Cafodd aelod Tîm Aber ei ddewis yn Enillydd Rhanbarthol Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mae Undeb Aber wrth ei fodd cael cyhoeddi y cafodd un o aelodau anhygoel ein Tîm Aber, Harry Ware, ei ddewis fel Enillydd Rhanbarthol (Cymru) ar gyfer Gwobr Chris Potter am Gwirfoddolwr Myfyriwr y Flwyddyn gan Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS). 

“Mae’r wobr hon yn dathlu gwirfoddolwr myfyriwr sydd wedi cyfrannu tuag at Brifysgol a/neu’r gymuned. Mae’n rhaid bod yr enwebedig yn fyfyriwr/wraig sydd wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyl dros y gymuned fyfyrwyr rhwng 1 Mai 2023 a 30 Ebrill 2024.” Cyflwynwyd yr enillwyr i Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) ac yna eu dewis am y rhestr fer ar gyfer y Gwobrau Cenedlaethol. 

Meddai Lucie Gwilt, Pennaeth Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Aber: 

“Heb os, mae’n bleser o’r mwyaf gen i weld Harry yn cael ei gydnabod gan Wobrau BUCS eleni. Mae ei gyfraniad i’r chwaraeon yn y gymuned fyfyrwyr a’r gymuned leol; yn bennaf ei ymrwymiad i wella pêl-droed y menywod yn yr ardal (a’r tu hwnt) yn drawiadol, ac ni allaf i feddwl am neb sy’n fwy teilwng nag ef.” 

 Dywed Tiffany McWilliams, Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Aber: 

“Mae’n ymddangos bod Harry wrthi’n gwneud rhywbeth anhygoel bob tro i fi glywed sôn amdano. Trwy ei ymrwymiad a’i haelioni i Aberystwyth, mae wedi dod yn rhan werthfawr o’n cymuned. Pan glywais i am y wobr yn gynharach eleni, fe wyddwn bod yn rhaid i ni ei enwebu. Dwi’n gobeithio ei fod yn falch o fod yn enillydd y rhanbarth a dyma ddymuno pob lwc ac amser braf iddo yng ngwobrau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain.” 


Dyma i chi yma gip ar enwebiadau Harry: 

“Mae Harry am orffen ei flwyddyn olaf ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae wedi gwneud tipyn o argraff yn y tair blynedd ddiwethaf hon. Eleni yn bennaf, aeth Harry ati i fod yn rhan o amryw gyfleoedd gwirfoddoli mewn cyfryngau chwaraeon gyda’r gymuned fyfyrwyr a’r tu allan yn y gymuned leol. Fel Ysgrifenydd i’n Cynghrair DIGS, mae Harry wedi gweithio’n gyda gweddill y pwyllgor i sicrhau yr aiff pethau yn rhwydd gyda’r Gynghrair;  rhwng trefnu cyfleusterau, reffarîs, aildrefnu dyddiadau, ayyb. yn ogystal â gweithio gyda sefydliadau lleol er mwyn i ni gael ein noddi sydd mor bwysig i gadw costau’n isel i’r myfyrwyr sy’n rhan. 

Mae Harry hefyd yn adnabyddus ar draws Tîm Aber am ei gefnogaeth i Dîm Pêl-droed y Dynion a’r Menywod; yn aml yn cynnig ei amser o’i wirfodd pan fo angen gwirfoddolwyr, tra’n helpu codi enw’r timau trwy wneud sylwebaeth fyw o’r cystadlaethau BUCS a’r rheini nad ydynt yn BUCS yn rhan o’i rôl wirfoddol arall gyda Chwaraeon Cymru.  

Bydd yn teithio ar draws y wlad (a’r tu hwnt i’r ffin weithiau!) gyda’i rôl gyda Chwaraeon Cymru er mwyn cynnig sylwebaeth fyw o gystadlaethau pêl-droed y Dynion a’r Menywod. Mae wedi annog nifer o fyfyrwyr i wirfoddoli a dod yn rhan a mentora y dechreuwyr trwy gydol y flwyddyn i helpu magu eu hyder. 

Daeth cyfle cyffrous i Harry fis Gorffennaf, pan fynychodd Gemau'r Ynysoedd gyda Chwaraeon Cymru ac ymdopi'n dda â'r amserlen lawn dros 5 diwrnod; gan fod yn gyfrifol am gyfryngau y dynion a’r menywod a rhoi sylwebaeth fyw yn annibynnol. Treuliodd gannoedd o oriau yn ymchwilio i'r timau cyn y digwyddiad ac yn ystod y digwyddiad i sicrhau ei fod yn ddigon gwybodus i sylwebu, a hyd yn oed cyflwyno podlediad ar gyfer pob un o'r 14 tîm lle bu'n cyfweld â chynrychiolwyr cyn y gemau. 

Bu Harry hefyd yn arwain ar y cyfryngau ar gyfer ein varsity Aberystwyth v Bangor blynyddol; darparu sylwebaeth ar draws nifer o chwaraeon, ond yn arbennig gemau pêl-droed y Dynion a'r Menywod a gynhaliwyd ar gae CPD Tref Aberystwyth, Coedlan y Parc. Yn ei amser 'sbâr', sefydlodd ac arweiniodd hefyd bodlediad 'Cymru Premier Review' y Brifysgol a oedd yn cael ei gyflwyno'n wythnosol gyda myfyrwyr eraill ynghlwm â'r darllediad. 

Mae Harry yn hynod angerddol am gêm y menywod, ac yn bwysicach fyth yn gwthio am hawliau cyfartal a chyfle i chwaraewyr benywaidd. Mae wedi gweithio’n ddiflino yn ei amser yn Aberystwyth i helpu timau pêl-droed y Brifysgol a’r Dref i herio a chwalu rhwystrau, ac mae wedi bod yn gefn heb ei ail i gynrychioli gêm y Menywod ar draws platfformau cyfryngau cymdeithasol ac yn ei sylwebaeth, adroddiadau ar gemau a chyfweliadau. 

Mae profiad gwirfoddol helaeth Harry a'i angerdd am bêl-droed hyd yn oed wedi ei wneud yn Brif Ymchwilydd cyffrous gyda 'Rheolwr Pêl-droed'; yn canolbwyntio ar Bêl-droed Menywod yng Nghymru! Bydd cymuned Aberystwyth yn ei chyfanrwydd yn siŵr o weld eisiau Harry, ond byddwn yn ddiolchgar iddo am byth am ei waith caled a’i ymroddiad i ddatblygu chwaraeon yn yr ardal; i fyfyrwyr a phobl leol fel ei gilydd. Ni allem feddwl am unrhyw un arall mwy haeddiannol ar gyfer Gwobr Chris Potter.” 

Llongyfarchiadau enfawr i Harry, oddi wrth Undeb Aber!

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576