CANLYNIADAU: UMAber yn Dathlu Chwaraeon 2021

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mae UMAber yn falch o gyflwyno noson wobrwyo terfynol yr wythnos: Gwobrau Chwaraeon UMAber yn Dathlu 2021

Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod ymroddiad myfyrwyr i'w Clwb Chwaraeon, gan gydnabod eu cyfraniadau yn gymdeithasol, yn gystadleuol ac yn broffesiynol.

Eleni derbyniwyd 296 o enwebiadau a daeth y panel oedd â’r dasg o lunio’r rhestr fer at ei gilydd yn rhithwir i ddarllen drwy’r enwebiadau a gwneud rhai penderfyniadau anodd.

Hoffem longyfarch pawb a gafodd eu henwebu yn ogystal â'r rhai sy'n ennill y categorïau heno.

Llongyfarchiadau i chi at gyd.

 

GWOBR AM BARODRWYDD I ADDASU A GWYDNWCH

Mae'r clwb hwn wedi mynd y filltir ychwanegol i sicrhau bod pob aelod yn cael profiad gwych er gwaethaf y pandemig. Er gwaethaf problemau gyda chysylltiadau rhyngrwyd ac oedi o ran amser, maent wedi llwyddo i gynnal y rhan fwyaf o’u dosbarthiadau, coreograffi, yn ogystal â dysgu 8 dawns wahanol gan ddefnyddio galwadau Teams. Maent wedi cynnal digwyddiadau cymdeithasol rhithwir bob wythnos, o nosweithiau ffilm i heriau, a phob un â themâu gwisgoedd; gan adeiladu ymdeimlad o gymuned rhwng aelodau, er nad oedden nhw wedi gweld ei gilydd wyneb-yn-wyneb ond ychydig o weithiau. Mae'r clwb wedi addasu i'r canllawiau covid; gan gwrdd / ymarfer ar-lein pan fo angen a hefyd addasu gweithgareddau wyneb-yn-wyneb pan fo hynny'n bosibl i’w cynnal mewn modd covid-ddiogel.

Llongyfarchiadau Showdance!

  1. Dawnswyr Sioe Gerdd - Showdance
  2. Ffitrwydd Awyrol
  3. Cleddyfa

 

GWOBR GWYN EVANS

Mae'r person hwn yn ymroddedig i'r clwb; hefyd yn ceisio helpu eraill i wella eu gallu a'u lefelau ffitrwydd, gan eu helpu i fagu hyder ynddynt eu hunain. Mae'n Llywydd, Capten, Hyfforddwr, Cefnogwr ac yn bersonoliaeth fawr o fewn y clwb y gall pawb fynd ato am help. P'un a yw'n helpu aelodau eraill y pwyllgor gyda'u rolau neu'n helpu i wella bowlio rhywun, mae bob amser yno am sgwrs a thipyn o hwyl. Mae'n ymdrechu i gynrychioli'r clwb a'r brifysgol yn y ffordd orau posibl, gyda phroffesiynoldeb a gwir ysbryd y gamp yng ngemau BUCS. Mae bob amser yn gefnogol ac yn annog pawb arall, ac nid yw bob amser yn cael y gydnabyddiaeth lawn y mae'n ei haeddu.

Llongyfarchiadau Rhys Sewell, Criced.

  1. Rhys Sewell (Criced)
  2. Aggie Johnstone (Showdance)
  3. Joseph Davies (Nofio a Pholo-dwr)

 

PERSONOLIAETH CHWARAEON Y FLWYDDYN

Mae'r person yma wedi llwyddo cynnal diddordeb holl aelodau’r clwb ar-lein ers mis Medi. Mae ei hymrwymiad i’r clwb yn anhygoel, gyda phob digwyddiad cymdeithasol yn cynnig rhywbeth newydd a diddorol – sy’n anodd ei gyflawni ar-lein – ond rywsut mae hi’n llwyddo gwneud hynny. Mae hi wedi rhoi cymaint o ymdrech wrth wneud i bawb yn y clwb deimlo bod croeso iddynt. Yn wir, yn ôl aelodau’r clwb, mae hyn wedi galluogi’r clwb i gadw ei awyrgylch ‘deuluol’ er gwaethaf cwrdd yn rhithwir y rhan fwyaf o’r amser eleni.

Llongyfarchiadau Jasmine Wall, Showdance!

  1. Jasmine Wall (Showdance)
  2. Nicola Hall (Hoci Menywod)
  3. Miles Dolman (Nofio a Pholo-dwr)

 

Y CYFRANIAD MWYAF AT RAG

Trwy gydol y cyfnod clo cyntaf, cododd y clwb hwn dros £400 ar gyfer eu helusen ddewisol trwy deithio'r holl ffordd i Benidorm gyda chymorth clwb arall. Mae'r clwb hefyd wedi ymuno â Mind Aberystwyth i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl i'w haelodau, mae aelodau'r pwyllgor wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, a gyda'r arian a godwyd o'u clwb 100 roeddent yn gallu prynu eitemau hanfodol i'r Banc Bwyd er mwyn helpu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ystod y pandemig COVID-19.

Llongyfarchiadau Hoci’r Menywod!

  1. Hoci'r Menywod
  2. Criced
  3. Pêl-rwyd

 

GWOBR MARY ANNE

Mae'r person yma wedi bod yn aelod ymroddedig o'r clwb ers ei blwyddyn gyntaf, cymerodd rôl y trysorydd yn ystod ei hail flwyddyn ac mae’n llywydd y flwyddyn academaidd hon. Mae hi bob amser wedi mynd y filltir ychwanegol ym mhob un o’r rolau mae wedi ymgymryd â nhw, gan sicrhau bod digwyddiadau a bywyd y clwb yn rhedeg yn esmwyth. Gan mai hi oedd yr unig aelod cyfredol o'r pwyllgor a oedd ar y pwyllgor cyn y pandemig, roedd ganddi gyfoeth o wybodaeth i'w rhannu ag aelodau newydd y pwyllgor, ond cynyddodd hynny ei chyfrifoldebau hefyd. Mae ei chlwb yn ei disgrifio fel yr arwr di-glod, sy'n sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth a bod pob aelod yn cael cyfle i gael hwyl a dawnsio.

  1. Megan Pagett (Showdance)
  2. Kayleigh Jones (Hoci Menywod)
  3. James Young (Tenis)

 

GWOBR Y GYMRAEG

Mae'r clwb hwn yn haeddu Gwobr y Gymraeg gan eu bod yn cydnabod pwysigrwydd bod yn glwb dwyieithog. Mae'n amlwg eu bod yn ymfalchïo mewn bod yn glwb dwyieithog gan fod yr holl bostiadau a hysbysebion yn y ddwy iaith, fel eu bod yn addas i bawb!

  1. Pêl-rwyd
  2. Dawnswyr Sioe Gerdd - Showdance

 

PERSON CHWARAEON Y FLWYDDYN

Mae'r person hwn wedi'i gydnabod ar gyfer y wobr hon o'r blaen; mae'n berfformiwr eithriadol yn nhîm pêl-droed y dynion ac mae'n gweithio'n ddiflino yn ymarfer ar gyfer tîm pêl-droed y brifysgol a thîm tref Aberystwyth. Mae'n enghraifft wych i eraill yn ystod sesiynau ymarfer, ac mae’n arweinydd y mae clwb pêl-droed Prifysgol Aber yn ffodus i’w gael yn aelod. Gydag ymrwymiad a gallu rhagorol o ran ei ffitrwydd a phêl-droed, mae'n adlewyrchu'r holl rinweddau sydd eu hangen ar gyfer y wobr hon.

Llongyfarchiadau Mathew Jones!

  1. Mathew Jones (Pêl-droed y Dynion)
  2. Niall Mayers (Lacrosse)
  3. Tudor Roderick (Rygbi'r Undeb y Dynion)

 

CLWB Y FLWYDDYN

Mae'r clwb hwn wedi gweld cynnydd aruthrol yn nifer yr aelodau o'i gymharu â'r llynedd, cynnydd o dros 150%, gyda chyfranogiad ymysg yr aelodaeth yn cynyddu'n sylweddol. Mae'r clwb cynhwysol hwn wedi ymrwymo i ddarparu digonedd o gyfleoedd i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau, o sesiynau cymdeithasol wythnosol i sesiynau trac bob wythnos, ac mae'r sesiynau hyn yn cael eu darparu ar gyfer pob gallu. Yn ystod y pandemig cynhaliodd y clwb sesiynau ymarfer gan gadw pellter cymdeithasol, yn ogystal â nifer o ddigwyddiadau rhithwir gan gystadlu yn erbyn Bangor; yn cynnwys ras gyfnewid rithwir 12 awr, ras 200 metr a 400 metr rithwir a ras rithwir 5k.

Llongyfarchiadau i'n Clwb y Flwyddyn: Harriers!

  1. Harriers
  2. Dawnswyr Sioe Gerdd - Showdance
  3. Ffitrwydd Awyrol

LLIWIAU

Mae hon yn wobr y mae llawer yn gobeithio ei hennill, gydag uchafswm o 25 ar gael i'w cyflwyno bob blwyddyn.

Cyflwynir Lliwiau Llawn Chwaraeon y Brifysgol i fyfyrwyr unigol sydd wedi dangos ymroddiad eithriadol parhaus neu sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'w clwb, yn ogystal â dangos ymrwymiad i undeb y myfyrwyr a / neu chwaraeon myfyrwyr. Mewn amgylchiadau eithriadol, mae hefyd yn bosib i fyfyrwyr dderbyn lliwiau am ragori yn eu camp, gan gynnwys ennill cystadleuaeth ryngwladol / cenedlaethol neu BUCS neu gynrychioli eu camp ar lefel genedlaethol / rhyngwladol

Mae'r 25 enillydd ar gyfer Lliwiau Chwaraeon y Brifysgol fel a ganlyn:

Cari-Lois Owen

Sofie Asquith

Megan Pagett

Adam O'Hara

Jasmine Wall

Emma Petri

Jody Notley

Ewa Idzikowska

Chloe Culwick

Edward Gronbech

Joseph Davies

Jamie Pugh

Rachel Dye

Nicola Hall

Cerys Walsh

Heidi Atkins

Tudor Roderick

Ben Lee

Rob Townsend

Jacob Caddick

Mathew Jones

Dominic Rowley

Eleanor Phillips

George Muter

Ben Barr


Llongyfarchiadau enfawr i'r holl enwebeion ac enillwyr Gwobrau Chwaraeon UMAber yn Dathlu 2021.

Go dda chi, oddi wrthym ni i gyd yn UMAber.

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576