Ble Maen Nhw Nawr? Josephine Southwell-Sander

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Ble Maen Nhw Nawr? 

 

Dy enw:

Josephine Southwell-Sander

Beth yw dy swydd bresennol a ble wyt ti'n gweithio?

Perchennog Cynnyrch yn Santander

Pa rôl fel Swyddog oedd gen ti?

IL Addysg a Chynrychiolaeth / Llywydd

Pa flwyddyn?

2012-2015

Ble oeddet ti'n Swyddog?

Undeb Myfyrwyr Nottingham Trent

Beth yw'r atgof gorau sydd gen ti o sefyll etholiad a/neu dy amser fel Swyddog?

Sefyll - Siarad â myfyrwyr nad oeddent yn gweld diben mewn pleidleisio a newid eu meddyliau. 

Fel Swyddog - gormod o bethau i sôn amdanynt. Y ddwy flynedd orau a roddodd gymaint i mi. Nid oedd yr un 2 ddiwrnod yr un peth!

Beth wyt ti wedi'i ddysgu o sefyll etholiad a/neu o fod yn Swyddog?

Sut i redeg mudiad; Sut i gyfleu negeseuon allweddol (yn enwedig wrth geisio cyrraedd 26,000 o fyfyrwyr yn y brifysgol); Sut i fod yn glir o ran gweledigaeth, amcanion a mentrau; Sut i gael effaith gyda chyllideb gyfyngedig (neu ddim o gwbl); Sut i greu newid strategol mewn cyfnod byr o amser

Pa gyngor sydd gen ti i unrhyw un sy’n ystyried sefyll mewn etholiad?

Jyst gwna fe.   Mae'r profiad o fod yn swyddog yn anhygoel; does dim byd tebyg. Mae sefyll a pheidio â llwyddo hefyd yn creu profiad, wrth reoli ymgyrch a thîm i fod yn estyniad ohonoch chi yn y ffordd orau.  

Sut mae dy gyfnod fel Swyddog Llawn-amser wedi effeithio ar dy yrfa?

Yn sylweddol iawn! Roedd y rhan fwyaf o’r profiadau yr wyf wedi cyfeirio atynt mewn cyfweliadau wedi'u cysylltu'n uniongyrchol â'm hamser fel swyddog.

Pum gair i grynhoi'r cyfan?

Profiad hollol anhygoel heb amheuaeth!

Comments

 

Exam Good Luck

Maw 14 Ion 2025

Arholiad Pob Lwc

Maw 14 Ion 2025
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576