Ble Maen Nhw Nawr?
Dy enw:
Dave Stacey
Beth yw dy swydd bresennol a ble wyt ti'n gweithio?
Uwch Ddarlithydd mewn Addysg Gychwynnol i Athrawon, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Pa rôl fel Swyddog oedd gen ti?
Dirprwy Lywydd / Llywydd
Pa flwyddyn?
2000-2002
Ble oeddet ti'n Swyddog?
Aberystwyth
Beth yw'r atgof gorau sydd gen ti o sefyll etholiad a/neu dy amser fel Swyddog?
Dwi’n methu meddwl am unrhyw beth penodol, ond yr ymdeimlad cyffredinol oedd cael eich grymuso i gyflawni pethau a gwneud gwahaniaeth yn y fan a'r lle. Yn enwedig o'i gymharu â'r cyflymder y gwelais i'r Brifysgol yn gweithio trwy ei system bwyllgorau, roedd yn teimlo fel ein bod ni'n cyflawni pethau go iawn!
Beth wyt ti wedi'i ddysgu o sefyll etholiad a/neu o fod yn Swyddog?
Bod gen i'r sgiliau i gyflawni pethau. Gwaith Tîm, Siarad Cyhoeddus, datrys problemau - roedd yn rhaid meithrin y sgiliau hyn i gyd yn gyflym os oeddech chi am gael pethau wedi'u gwneud.
Pa gyngor sydd gen ti i unrhyw un sy’n ystyried sefyll mewn etholiad?
Ewch amdani! Roeddwn i wedi gweithio ar y Courier ac wedi helpu i sefydlu Bay Radio, felly roeddwn i’n gyfarwydd â'r Undeb a sut roedd yn gweithio, a oedd yn sicr o gymorth. Mae’n bwysig cymryd rhan ar unrhyw lefel, yn enwedig yn rhywle fel Aber, lle mae agwedd 'rhoi cynnig arni' go iawn.
Sut mae dy gyfnod fel Swyddog Llawn-amser wedi effeithio ar dy yrfa?
Ar ôl i mi orffen, gweithiais i'r Brifysgol am gwpl o flynyddoedd yn ehangu mynediad, ac oherwydd y profiad hwnnw, symudais i Abertawe i hyfforddi fel athro. Rwy'n credu bod gen i ddyled enfawr i'r ddwy flynedd hynny fel Swyddog Sabothol yn Aber am yr 20 mlynedd diwethaf.
Pum gair i grynhoi'r cyfan?
Gwych, Grymusol, Anhygoel, Cadarnhau Bywyd, Newid Bywyd