Mae ‘Black Lives Matter’ yn fudiad byd-eang sy'n ymgyrchu yn erbyn hiliaeth, gwahaniaethu a thrais tuag at bobl dduon.
Dechreuodd y mudiad hwn yn 2013, pan gafodd dyn diniwed, Trayvon Martin, ei ladd. Yn dilyn y drasiedi hon, ymledodd dicter trwy'r gymuned Ddu, a wnaeth arwain at y defnydd o’r hashnod #BlackLivesMatter ar draws y byd, wrth i unigolion o bob gefndir ymuno mewn protest.
Wrth gwrs gwnaeth hyn denu sylw rhaglenni a phapurau newyddion ledled y byd. Mae'r tri gair hyn yn dangos yr angen i ddatgymalu goruchafiaeth wen, rhoi diwedd ar drais wedi'i dargedu'n hiliol a thrwsio'r system bresennol, lle mae bywyd yn anoddach i bobl Du, dim ond oherwydd lliw eu croen. Mae'r ymdrech hon i drwsio’r system hen ffasiwn yma sy’n targedu'n hiliol wedi’i wasgaru mewn i lawer o wahanol sectorau. Sectorau megis cyfleoedd gwaith, gofal iechyd, systemau addysg, tai ac wrth gwrs plismona a charcharu.
Mae'r mis hwn yn Fis Hanes Pobl Dduon ac o ystyried y digwyddiadau diweddar ynghylch llofruddiaethau George Floyd a Breonna Taylor, mae'n bwysicach nag erioed i dalu sylwi ar yr hiliaeth a welwn o'n cwmpas. Boed hynny trwy rodd, mynychu protestiadau neu addysgu eich hun, mae yna lawer o ffyrdd i gefnogi’r frwydr fyd-eang yn erbyn hiliaeth.
Dyma ychydig o adnoddau o'n rhestr ‘Darllenwch, Gwyliwch a Gwrandewch’. Adnoddau, yn ein barn ni, bydd yn fuddiol i addysgu'ch hun.
Darllenwch
|
Gwyliwch(Films)
|
Gwrandewch
|
- Noughts & Crosses - Malory Blackman
|
|
|
- Natives: Race And Class In The Ruins Of Empire - Akala
|
|
- About Race with Reni Eddo-Lodge
|
- Why I'm No Longer Talking To White People About Race - Reni Eddo-Lodge
|
- The Black Power Mixtape 1967–1975
|
- Psychodrama - Dave (Album)
|
Rydym yn annog chi i gefnogi'r mudiad mewn unrhyw ffordd y gallwch. Am fwy o wybodaeth dilynwch y ddolen isod.
https://www.futurelearn.com/info/blog/black-lives-matter-resources
I gael gwybod mwy am yr ymgyrch eleni cliciwch yma.
Eich Swyddog Llesiant – Connor. Have a beautiful day, all the love!