Anna's 23 - 24 Round-up

Ffarwelio â rôl y Swyddog Materion Academaidd:

Mae cymaint o bethau y carwn i sgrifennu amdanynt, sef fy nghariad at y Cynrychiolwyr Academaidd... y perthnasoedd agos dwi wedi’u meithrin gyda’r Brifysgol... ond i gadw pob dim yn fyr a chryno, hoffwn i adlewyrchu ar y blaenoriaethau oedd gennyf i ers y cychwyn cyntaf.

O ysgrifennu traethodau munud olaf i gael fy ngorflino gan ADHD – gall bod yn fyfyriwr/wraig fod yn her os ydych chi’n niwroamrywiol. Ond does rhaid iddi fod felly!

Pan ddaw yn fater o ddysgu, addysgu ac asesiadau, mae prifysgolion yn dod yn fwyfwy ymwybodol o’r profiad niwroamrywiol. Diolch i lais y myfyrwyr, hygyrchedd ac addasiadau rhesymol yw’r geiriau a glywir yn aml mewn cyfarfodydd prifysgol. Oherwydd hyn, gwnaed cymaint o newidiadau buddiol er lles myfyrwyr niwroamrywiol eleni:

  • Brinio niwroamrywiol llwyddiannus gyda phedwar llefarydd – Xavier Powley, Ezra Bates, Riven Searson a Charlotte Fleetwood. Mae modd gweld y recordiadau trwy'r wefan niwroamrywiol newydd.
  • Dyma ddiolch o’r galon i John Harrington; Pennaeth Hygyrchedd, Helen Cooper; Swyddog Lles Undeb Aber, a Xavier Powley; Swyddog y Myfyrwyr Anabl am eich holl gymorth a chefnogaeth mewn sicrhau bod y llais niwroamrywiol yn cael ei glywed ar y campws.
  • Fis Medi 2025 bydd y Brifysgol yn mabwysiadu polisi ailsefyll newydd. Bydd hyn yn golygu na fydd angen unrhyw dystiolaeth feddygol ar fyfyrwyr i ailsefyll am ddim – yn enwedig y rheini na all gael diagnosis trwy’r GIG (rhestr aros o bedair mlynedd!). Mae’r Brifysgol wrthi’n rhoi manylion y polisi at ei gilydd, felly cadwch olwg am wybodaeth gan y Brifysgol.

Roedd Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol (DAC) yn bwnc llosg eleni yn y Brifysgol. Fel myfyrwraig drydedd flwyddyn, fe fanteisiais i ar DAC fel offer golygu yn fy ngradd Saesneg. Gall ADHD yn ei gwneud hi’n anodd esbonio syniadau ar ffurf ysgrifenedig... felly bu DAC wirioneddol o fudd i fi! Felly dyma fi’n cychwyn fy nhymor yn Swyddog Materion Academaidd yn dadlau’n gryf o blaid Deallusrwydd Artiffisial. Dyma rai o’r uchafbwyntiau:

  • Ymuno â gweithgor DA y Brifysgol. Es i Lundain ar gyfer y gynhadledd flynyddol ar “ddyfodol Deallusrwydd Artiffisial mewn Addysg” (BETT). Siaradais ar banel Holi ac Ateb,  a ddarlledwyd ar lefel genedlaethol – oedd yn dipyn o hwyl. Caf i hefyd ddweud bod gen i waith wedi’i gyhoeddi gan gyrraedd casgliad ar-lein ar lythrennedd DA.
  • Mae prifysgolion ar draws y DU am wneud DAC yn rhan annatod o ddysgu, addysgu, ac asesiadau. Dwi’n gweld hyn yn gyfle i newid y drefn... i roi addasiadau rhesymol a llais y myfyrwyr wrth galon pob penderfyniad a wneir!

Dychmygwch y gallu i gynhyrchu ffilm gyfan ar Netflix gan ddefnyddio cyfarwyddiadau personol. Neu greu podlediad, gyda’ch llais eich hunan heb orfod recordio hyd yn oed. Am beth erchyll a chyffrous.

Diolch i bawb yn Undeb Aber am eich holl gefnogaeth yn ystod fy nghyfnod yn Swyddog Materion Academaidd. Hyn yw’r cyfle gorau un a gefais erioed. Mor ffodus ydw’i o fod wedi cael dod i weithio bob dydd a chael amser braf oherwydd y bobl braf o’m cwmpas.

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576