Fel Undeb Myfyrwyr, rydym yn gweithio’n agos gyda’r Brifysgol ers y llynedd er mwyn deall yr heriau y mae’n eu hwynebu a datblygu cynllun ariannol cynaliadwy a fydd yn lleihau, cymaint ag y bo modd, yr effeithiau negyddol a geir ar brofiadau myfyrwyr presennol.
Er ein bod yn deall bod rhaid gweithredu rhai newidiadau, rydym yn cydymdeimlo â’r myfyrwyr hynny sydd wedi dioddef yn ganlyniad i hyn neu sy’n teimlo’n ansicr yn ystod yr amser anodd sydd ohoni.
Mae Undeb Aberystwyth yn llwyr grediniol bod adroddiad ariannol y Brifysgol yn amlygu’r anawsterau ariannol sy’n taro y sector addysg uwch cyfan ar hyn o bryd. Mae prifysgolion yn bodoli er lles y cyhoedd, gyda buddion cymdeithasol, diwylliannol, ac economaidd sy’n ymestyn y tu hwnt i wasanaethu myfyrwyr presennol yn unig ac mae’n rhaid bod sicrhau cynaliadwyedd y sector addysg uwch yn flaenoriaeth gan y llywodraeth.
Nid sefydliadau na myfyrwyr yn unig ddylai ysgwyddo’r cyfrifoldeb am sicrhau rhwydd hynt i addysg a phrofiad prifysgol ffyniannus trwy doriadau pellach neu godi ffioedd.