Sefydlwyd y rhwydwaith Ôl-raddedig ym medi 2021 yn sgil adborth gan fyfyrwyr ôl-raddedig yn dweud nad oeddent yn teimlo bod yna ofod iddynt gwrdd â myfyrwyr o’r un anian. Rydym yn cydnabod bod anghenion myfyrwyr ôl-raddedig yn wahanol i fyfyrwyr is-raddedig.
Mae gan y Rhwydwaith 4 nod allweddol:
- Cynnig gofodau cymdeithasol i fyfyrwyr ôl-raddedig gwrdd â’u gilydd ac i fwynhau eu hamser yn Aber.
- Cynnig gwybodaeth am rôl yr UM gan gynnwys adnoddau llesiant perthnasol.
- Cynnal digwyddiadau / gweithdai sy’n canolbwyntio ar anghenion gyrfaol ac academaidd y myfyrwyr ôl-raddedig.
- Cynnig platfform sy’n galluogi myfyrwyr ôl-raddedig i gymryd rhan a dylanwadu ar system wneud penderfyniadau UMAber.
Mae ymaelodi â’r Rhwydwaith am ddim ac yn croesawu pob myfyriwr ôl-raddedig ni waeth pwnc na blwyddyn eich cwrs. Mae hefyd croeso i fyfyrwyr aeddfed fynychu unrhyw ddigwyddiad cymdeithasol. Mae gennym ar hyn o bryd 139 o aelodau.
DIGWYDDIADAU
Gweler yma i weld y digwyddiadau ar y gweill! Gan gynnwys ein digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch; digwyddiadau cymdeithasol hamddenol i fyfyrwyr o’r un anian ddod at ei gilydd (bisgedi a diodydd am ddim!)
Does gennym ni ddim digwyddiadau ar y gweill ar hyn o bryd... ond dyma rai o uchafbwyntiau y Rhwydwaith Ôl-raddedig! Dewch yn ôl yn fuan i gael mwy o hwyl gyda’r Rhwydwaith Ôl-raddedig
Gweler isod i weld ein hen digwyddiadau:
Rydych chi’n gallu ymaelodi â’r Rhwydwaith yma.