Ymgyrch Yma a Thraws

I lawer o fyfyrwyr, y Brifysgol fydd y lle i archwilio eu hunaniaeth, a bydd angen cynhyrchion penodol ar rai er mwyn gwneud hyn.

Gall cael defnyddio cynhyrchion cadarnhau rhywedd (ee rhwymau/s. binders, trôns twcio, pacwyr) fod yn anodd, yn bennaf yn yr argyfwng costau byw sydd ohoni. Nod Yma a Thraws yw ei gwneud hi’n haws i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ddefnyddio’r cynhyrchion fel eu bod yn gallu archwilio eu hunaniaeth a theimlo’n gyfforddus yn eu cyrff heb rwystr ariannol. Mae’r ymgyrch hon ar gyfer y rhai sy’n draws, anghydffurfiol eu rhywedd, ac o rywedd amrywiol, yn ogystal â’r rhai sy’n cwestiynu.  

Ar hyn o bryd, rydyn ni’n cynnig rhwymau, pacwyr a thrôns 3-mewn-1 o Spectrum Outfitters a dillad isel twcio o Carmen Liu (gellir gweld lluniau o’r cynhyrchion hwn isod). 

    

Noder gan fod galw mawr am y fath gynnyrch a’u bod yn cael eu gwneud gan gwmnïau bach, gall hyn arwain at brinder mewn stoc ac felly bydd oedi ar adegau. 

Mae’r ymgyrch hon dros y myfyrwyr isod: 

  • Myfyrwyr presennol ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

  • Myfyrwyr sy’n ei chael hi’n anodd yn ariannol neu oherwydd rhesymau eraill, yn cael eu rhwystro rhag defnyddio’r cynhyrchion hwn. 

  • Myfyrwyr sy’n uniaethu fel traws, anneuaidd, anghydffurfiol eu rhywedd, o rywedd amrywiol, rhyngrywiol, neu’n cwestiynu. 

  • Nad ydynt wedi cael defnyddio’r adnodd hwn yn aml o’r blaen (oni bai bod newid yn eu hamgylchiadau fel maint, neu drwy problemau ariannol dwys) 

Beth i’w wneud nesaf: 

Os ydych chi eisiau dod a chael sgwrs gyda ni ynglyn â’r pethau ar gael, mae croeso i chi e-bostio ein Swyddog Llesiant, Helen, trwy llesiantum@aber.ac.uk neu Annmarie Evans (ape@aber.ac.uk) neu allwch chi ddod draw i’n gweld ni wyneb-yn-wyneb yn yr UM. 

Os hoffech chi gael rhwymau, ond dych chi ddim yn siwr am y maint fydd angen, gellir dilyn gwybodaeth ar sut gallwch fesuro eich hunan yma https://spectrumoutfitters.co.uk/pages/size-guide. Os hoffech chi ragor o help i fesuro (ee, gallwn ni roi tâp mesuro i chi os oes angen), gallwn ni eich helpu pan ddewch chi i siarad gyda ni. 

Mae gennym ni hefyd samplau o bob cynnyrch i chi gael syniad da o’r pethau sydd ar gael. 

Dyma ffurflen i archebu cynnyrch cadarnhau rhywedd.


Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gymryd rhan cysylltwch â:

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock

ais13@aber.ac.uk

llaisum@aber.ac.uk

Llesiant

Emily (Mo) Morgan

llesiantum@aber.ac.uk

   

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576