Wythnos Myfyrwyr o Ymwybyddiaeth o Gyffuriau ac Alcohol

 

Dylid caniatáu i fyfyrwyr bob amser fwynhau eu hunain ar nosweithiau allan a dylent deimlo'n ddiogel bob amser.

Yn yr Undeb fydd neb byth yn cael ei orfodi na'i bwysau i yfed alcohol. Rydym yn cynnal llawer o ddigwyddiadau di-alcohol.


 

Rhybudd Cynnwys: Mae'r dudalen hon yn ymwneud â defnyddio cyffuriau. Os nad ydych am weld cynnwys o'r fath byddem yn eich cynghori i beidio ag edrych ar y dudalen hon.

Ewch i weld ein tudalen gynghori am gymorth.

 

I gael cefnogaeth gyda defnydd o gyffuriau neu alcohol, cysylltwch â Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed neu alwch heibio pan fydd yn cynnal sesiwn wythnosol gyda’r Gwasanaethau Myfyrwyr

0330 363 9997

confidential@d-das.co.uk

Adduned ar y Cyd: Dull Lleihau Niwed wrth Ddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol ym Mhrifysgol Aberystwyth

ar-lein Datganiad Lleihau Niwed 

 

  

Mae gennym 3 prif nod

  • Lleihau Cywilydd: Herio’r stigma ynghlwm â chwilio am gymorth gyda phroblemau cyffuriau ac alcohol.
  • Gwella Ymwybyddiaeth o Bolisïau: rhoi polisïau’r campws a goblygiadau cyfreithlon ar ddeall i fyfyrwyr.
  • Annog Cyfrifoldeb Personol: Grymuso myfyrwyr i wneud penderfyniadau cytbwys a chyfrifol.

Rydyn ni’n mai cysylltiad yw’r peth croes i ddibyniaeth

Erbyn hyn, mae astudiaethau yn dangos y gall unigrwydd beri dibyniaeth ac mae bod â rhwydwaith da o’ch cwmpas yn gallu eich cefnogi chi a’ch lles meddyliol. Yn ei gweld hi’n anodd darganfod eich cymuned? Beth am fwrw golwg ar ein clybiau, ein cymdeithasau a’n prosiectau gwirfoddoli i weld a oes yna grŵp myfyrwyr sy’n apelio?


"Nod ein hymgyrch Cyffuriau ac Alcohol yw defnyddio dull lleihau niwed wrth ddefnyddio sylweddau. Mae pawb yn cymryd yn ganiataol bod holl fyfyrwyr y brifysgol yn yfed nes eu bod wedi meddwi ac yn cymryd cyffuriau oherwydd eu bod yn byw'n annibynnol fel y gallant, pan nad yw hyn yn wir. Roeddem yn ceisio hyrwyddo yfed mwy diogel, gan ddod i ddeall beth yw eich terfynau a'i blethu â’n gwaith ar atal sbeicio; adnabod ymddygiadau peryglus neu ddinistriol a cheisio cymorth. Aethom â'n hymdrechion i strydoedd Aber ar noson gymdeithas i ddosbarthu pecynnau gwrth-sbeicio a gwybodaeth am Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed, gyda phwy y buom yn gweithio ar hyn. Roedd Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed yn gyfle da i roi gwybod i fyfyrwyr os oeddent yn ceisio cymorth bod Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed ar ein campws unwaith i ddwywaith yr wythnos, yn cynnal sesiynau galw heibio i arwain myfyrwyr a’r gymuned yn ein dull o leihau niwed.”  - Helen Cooper, Llesiant (2023-2024)


Yn ystod 2023-2024, wnaeth Undeb Aberystwyth gydweithio gyda Gwasanaethau Myfyrwyr Aberystwyth i gwblhau’r Arolwg Effaith Cyffuriau ac Alcohol ar Fyfyrwyr gan Fyfyrwyr sy’n Cyd-drefnu dros Gynaliadwyedd (SOS). Mae’r arolwg hwn yn ein cefnogi i wybod sut y gallwn ni gefnogi myfyrwyr yn ein cymuned.


I gael gafael ar Citiau Profi Cyffuriau

 (Mae’r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.)

Mae’n bwysig profi eich cyffuriau am sawl rheswm:

  1. Diogelwch: Mae profi yn gallu adnabod sylweddau niweidiol posib neu a ydy’r cyffuriau wedi’u llygru, gan leihau’r risg o orddosio neu ymateb drwg.
  2. Cywirdeb: Mae gwybod cyfansawdd a nerth cyffuriau yn helpu unigolion i wneud penderfyniadau cytbwys am ddogn a faint.
  3. Lleihau Niwed: Mae profi yn hyrwyddo defnydd cyfrifol o gyffuriau gan roi gwybodaeth all leihau risgiau iechyd i ddefnyddwyr.
  4. Iechyd Cymunedol: Gall profi gyfrannu at ymdrechion iechyd cyhoeddus gan adnabod set beryglus o gyffuriau neu dueddiadau mewn purdeb cyffuriau.
  5. Grymuso: Mae offer profi o fudd mawr i unigolion ac yn eu grymuso i gymryd rheolaeth dros eu hiechyd a’u llesiant tra’n cymryd sylweddau.

Darganfyddwch sut mae gwahanol gyffuriau, yn gyfreithlon ac yn anghyfreithlon, yn rhyngweithio â'i gilydd i amddiffyn eich iechyd a diogelwch.

 (Mae’r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.)


Beth yw Wythnos Myfyrwyr o Ymwybyddiaeth o Gyffuriau ac Alcohol?

Mae'n wythnos i annog ymwybyddiaeth a thrafodaethau am ddefnydd sylweddau a lles myfyrwyr! Byddwn yn annog y sgwrs am gyffuriau ac alcohol yn ystod eich amser yn y brifysgol, gan roi awgrymiadau i chi a sut i gael cefnogaeth.

Yn 2023 fe wnaeth Undeb Aber bartneru â gwasanaethau lleol Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Dyfed Powys a oedd â stondin yn yr undeb, yn addysgu am gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn ogystal â darparu citiau gwrth-sbeicio.

Yn ystod wythnos Ymwybyddiaeth Cyffuriau ac Alcohol cynhaliodd yr Undeb stondin yn y dref ochr yn ochr â DDAS, yn darparu gwybodaeth, citiau gwrth-sbeicio, condomau a liwb, yn ogystal â rhai melysion.

Gweler Gwasanaethau Cyffuriau a Alcohol Dyfed Powys yma.


Ystyr agwedd lleihau niwed yw set o strategaethau a syniadau ymarferol gyda’r nod o leihau’r effaith negyddol y mae ymddygiad peryglus yn ei chael, defnydd o sylweddau yn bennaf. Mae’n cydnabod er gwaethaf y risgiau ynghlwm â’r ymddygiad hyn y bydd rhai yn parhau i wneud ac yn hytrach na hyrwyddo ymwrthod yn llwyr, mae â’i ffocws ar leihau niwed.

Prif egwyddorion lleihau niwed:

  1. Derbyn: Cydnabod mai peth cymhleth yw defnyddio sylweddau a bod gan unigolion yr hawl i wneud eu penderfyniadau eu hunain.
  2. Pragmatiaeth: rhoi strategaethau ymarferol ar waith a fydd yn blaenoriaethu iechyd a diogelwch, waeth a oes modd rhoi’r gorau i ddefnyddio’r sylwedd.
  3. Grymuso: Darparu adnoddau, cefnogaeth, a gwybodaeth i unigolion wneud penderfyniadau cytbwys am eu hiechyd eu hun.
  4. Ffocysu ar Nod: Gosod nod posib ei gyrraedd sy’n lleihau’r risgiau ynghlwm â defnyddio sylweddau, hynny yw meithrin arferion pigiadu sylwedd saffach – nodwyddau glân, neu fynd at wasanaethau trin.
  5. Agwedd Heb Feirniadaeth: Cynnig cymorth heb bregethu na chodi cywilydd ar unigolion ar sail eu defnydd o sylweddau.

Pam fod hyn yn arfer gwell:

  • Effeithlonrwydd: Mae ymchwil yn dangos fod strategaethau lleihau niwed yn gallu lleihau’r tebygrwydd o farwolaethau gan orddosio, trosglwyddo salwch heintus (fel HIV a Hepatitis C), a risgiau iechyd eraill ynghlwm â defnyddio sylweddau.
  • Hawliau Dynol: Mae’n parchu hawliau dynol ac urddas yr unigolion sy’n defnyddio sylweddau, yn cydnabod bod mesurau cosbol yn aml yn gwaethygu niwed na mynd i’r afael â’r problemau wrth wraidd.
  • Effeithiolrwydd Cost: mae rhoi mesurau lleihau niwed ar waith yn gallu fod yn fwy effeithlon o ran cost na delio â chanlyniadau defnydd o sylweddau heb ei drin, er enghraifft costau gofal iechyd neu gyfiawnder troseddol.#
  • Argraff ar Iechyd Cyhoeddus: Gan leihau lledaenu heintiau a marwolaethau gan orddosio, mae lleihau niwed yn cyfrannu at amcanion iechyd cyhoeddus a llesiant cymunedol ehangach.

 

Yn gyffredinol, mae agwedd lleihau niwed yn cydnabod realiti defnyddio sylweddau ac yn ceisio lleihau niwed trwy strategaethau ymarferol sy’n seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn rhoi iechyd a diogelwch ar y blaen. Mae’n cynrychioli ymateb tosturiol a phragmatig i broblem gymdeithasol ac iechyd cyhoeddus cymhleth.

Ceir rhagor o wybodaeth am y pwnc yma: (Mae’r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.)


   
         
   
         

 

Oriel Lluniau 2023 - 2024

 


 

 

Os oes gennych chi ddiddordeb yn y gwaith hwn, mae croeso i chi gysylltu â llaisum@aber.ac.uk

Eisiau gwybod mwy am yr ymgyrchoedd hyn?

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock

ais13@aber.ac.uk

llaisum@aber.ac.uk

Llesiant

Emily (Mo) Morgan

llesiantum@aber.ac.uk

   

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576