Yn y Cyfarfod Mawr (Cyf Cyff), fe basiwyd polisi gan y myfyrwyr i gefnogi streiciau’r UCU. Byddwn yn parhau i gefnogi diddordebau academaidd myfyrwyr ac rydym yn gyrru ein cefnogaeth ac yn cydsefyll gyda’n staff Prifysgol sy’n mynd ar streic.
Pam fod yr UCU yn streicio?
Mae’r Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU), yn sgil pleidlais gyfunol gan yr holl aelodaeth, wedi galw am ail gyfnod o weithredu diwydiannol yn ymwneud ag amodau gweithio, cyflog a phensiynau. Bydd streiciau ar draws y DU, mae Prifysgol Aberystywth ymysg y 150 o brifysgolion a welir gweithredu diwydiannol.
Mae’r gweithrediadau hyn yn cynnwys streiciau (wedi diffyg llwyddiant mewn trafodaethau ers y streic diwethaf) bydd streiciau yn ystod y dyddiau isod:
Mae’r streiciau yn ymwneud â’r gofynion penodol hyn gan yr UCU:
-
Cynyddu tâl i adlewyrchu o leiaf chwyddiant +2 neu 12% p’un bynnag yw’r gwerth uchaf
-
Cau’r bylchau cyflog rhywedd, ethnigrwydd ac anabledd
-
Cael gwared â’r toriadau cyflog ar aelodau cynllun pensiwn yr USS ac adfer buddion i lefelau 2021
Ewch i’r "Streiciau - Canllaw i Fyfyrwyr" gan Student Ambassador, yma!
Newyddion UMAber: