Sefydlwyd y Rhwydwaith Myfyrwyr Traws ac o Rywedd Anghydffurfiol ym Medi 2023 wedi trafodaethau gyda’r Brifysgol yn sôn am yr angen i feithrin gofod diogel a chroesawgar i fyfyrwyr sy’n draws, o rywedd anghydffurfiol, neu’n cwestiynu. Wedi’i drefnu gan y Swyddogion Gwirfoddol LDHTC+, Dax ac Elena, oedden nhw am wneud yn siwr bod cymuned i bob myfyriwr yma yn Aberystwyth.
Mae gan y Rhwydwaith bedwar prif nod:
- Cynnig gofodau cymdeithasol i fyfyrwyr traws ac o rywedd anghydffurfiol ddod at ei gilydd a mwynhau eu hamser yn Aberystwyth.
- Rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr am Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol gydag adnoddau llesiant perthnasol.
- Cynnal gweithdai a digwyddiadau i addysgu’r gymuned ehangach ar gynnwys pobl draws ac iaith ryddhau.
- Cynnig llwyfan i fyfyrwyr traws ac o rywedd anghydffurfiol gael dweud eu dweud ar benderfyniadau yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.
Gellir ymuno â’r rhwydwaith yn rhad ac am ddim ac mae croeso i holl fyfyrwyr traws ac o rywedd anghydffurfiol yn ogystal â’r rhai sy’n cwestiynu a chynghreiriaid sy’n dod i gefnogi ffrind.
Nodyn oddi wrth ein Swyddogion LDHTC+, Dax ac Elena:
"Ein gobaith ni gyda’r rhwydwaith myfyrwyr traws ac o rywedd anghydffurfiol hwn yw i ddod â phobl cwîar yn Aber yn agosach at ei gilydd. Dyn ni eisiau cefnogi cymaint o bobl â phosib ar eu taith i ddarganfod eu hunan, ni waeth be fo’r cyfeiriad. Fe ydw’i yn bersonol am i’r rhwydwaith hwn fod yn ofod i bobl ddod i gael help gydag unrhyw broblemau o natur rhyweddol. Mae darganfod eich hunan a’r amser gwleidyddol cythryblus sydd ohoni yn gallu ei gwneud hi’n anodd gwybod ym mha le y gellir cael cymorth. Dyma obeithio ei gwneud hi’n haws i bawb trwy sefydlu cymuned!"
|
|
Toiledau Niwtral o Ran Rhywedd ar Gampws Penglais
Cefnogaeth i Fyfyrwyr Trawsryweddol a Rhywedd-amrywiol Aberywtyth Gwasanaethau Myfyrwyr
Os hoffech chi gymryd rhan neu ddysgu mwy, e-bostiwch ...