Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn, a elwir hefyd yn Ymgyrch y Rhuban Gwyn, yn fenter ryngwladol sy’n digwydd ar Dachwedd 25ain bob blwyddyn. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth a sefyll yn erbyn trais yn erbyn menywod. Mae cyfranogwyr, dynion a bechgyn fel arfer, yn gwisgo rhuban gwyn i symboleiddio eu hymrwymiad i roi terfyn ar drais, hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol, a meithrin cymunedau mwy diogel i bawb. Mae'r ymgyrch yn annog unigolion a chymunedau i godi eu llais yn erbyn trais domestig, ymosodiad rhywiol, a mathau eraill o drais ar sail rhywedd, ac i weithio tuag at newid cadarnhaol mewn agweddau ac ymddygiadau.
Diwrnod y Rhuban Gwyn, diwrnod lle mae dynion a bechgyn yn addo i godi ymwybyddiaeth o a rhoi pen ar drais yn erbyn menywod a merched. Ffurfiwyd y grŵp 18 mlynedd ac yn fudiad byd-eang, gan gynrychioli’r gred bod cam-drin, o bob math, yn annerbyniol. Mae achosion o drais domestig yn cynyddu yn ystod digwyddiadau chwaraeon mawr. Gwelwyd cynnydd mewn trais domestig yn ystod COVID. Yma yn Undeb Aberystwyth, rydyn ni’n addo i herio a galw allan unrhyw iaith neu ymddygiad amhriodol fel bod ein hundeb mor saff â phosibl.
Mae'r Undeb hefyd yn cynnal hyfforddiant i helpu i dorri'r distawrwydd o Drais yn erbyn Menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol. Mae’r hyfforddiant hwn yn cael ei redeg gan Safer Streets ac mae’n agored i bob rhyw. Mae ar gyfer unrhyw un sydd eisiau sefyll, codi eu llais a gweithredu i atal trais dynion yn erbyn menywod.
I gael gwybod pryd fydd yr hyfforddiant nesaf yn cael ei gynnal, e-bostiwch eich Swyddog Llesiant yn:llesiantum@aber.ac.uk