Rydyn ni’n cynnal gorymdaith Adennill y Nos bob blwyddyn ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Er mai grymuso menywod yw nod yr orymdaith hon mae’n drist bod rhaid i ni ei chynnal o hyd.
Mae mudiad Adennill y Nos a’i wreiddiau yn Leeds yn 1977, ac yn orymdaith sy’n galw am yr hawl i bob menyw fynd i lefydd cyhoeddus gyda’r nos a theimlo’n ddiogel. Mae wedi troi’n frwydr dros hawliau diogelwch holl fenywod a chydnabod y ffigwr 1 mewn 3.
Mae Adennill y Nos fel arfer yn cynnwys gorymdeithiau a ralïau, lle mae cyfranogwyr yn protestio trais rhywiol ac yn mynnu strydoedd mwy diogel i fenywod. Mae prifysgolion bellach yn aml yn trefnu eu digwyddiadau Adennill y Nos eu hunain, lle mae myfyrwyr a staff yn dod at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth, hyrwyddo diogelwch, a chefnogi goroeswyr trais rhywiol. Gall y digwyddiadau hyn gynnwys gorymdeithiau, sgyrsiau addysgol, gweithdai, a gweithgareddau undod i feithrin amgylchedd campws diogel a chynhwysol.
Cymerwch gip ar ein llun Adennill y Nos dros y blynyddoedd.
2020 |
2019 |
|
|
Galeri Llun Adennill y Nos
|
Edrychwch ar ein Fideo TikTok o Adennill y Nos 2024. Gwyliwch yma. |