Bob mis Mawrth rydyn ni’n dathlu Mis Hanes Menywod yn ogystal â Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 8fed Mawrth. Wrth wraidd hyn yw anrhydeddu menywod a’u holl gyfraniadau trwy gydol hanes hyd heddiw a’u dathlu.
Adennill y Nos
Rydyn ni’n cynnal gorymdaith Adennill y Nos bob blwyddyn ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Er mai grymuso menywod yw nod yr orymdaith hon mae’n drist bod rhaid i ni ei chynnal o hyd.
Mae mudiad Adennill y Nos a’i wreiddiau yn Leeds yn 1977, ac yn orymdaith sy’n galw am yr hawl i bob menyw fynd i lefydd cyhoeddus gyda’r nos a theimlo’n ddiogel. Mae wedi troi’n frwydr dros hawliau diogelwch holl fenywod a chydnabod y ffigwr 1 mewn 3.
Cymerwch gip ar ein llun Adennill y Nos dros y blynyddoedd.
2020 |
2019 |
![](/pageassets/newidaber/ymgyrchoedd/mishanesmenywod/4-reclaim-.png) |
![](/pageassets/newidaber/ymgyrchoedd/mishanesmenywod/5-reclaim-.jpg) |
Galeri Llun Adennill y Nos
![](/pageassets/newidaber/ymgyrchoedd/mishanesmenywod/image00001.png) |
Edrychwch ar ein Fideo TikTok o Adennill y Nos 2024. Gwyliwch yma. |
Mae Mis Hanes Menywod hefyd yn gyfle i ddathlu popeth mae pop menyw wedi’i gyflawni trwy gydol hanes a thynnu sylw at bobl bwysig a’r gymuned anhygoel o fenywod sydd ganddom ni yma yn Aberystwyth.
![](/pageassets/newidaber/ymgyrchoedd/mishanesmenywod/womens-month-.png) |
2024
Wnaethom ni fanteisio ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024i dynnu sylw at nerth Menywod Cymru gan gynnal trafodaeth gyda Siân Howys a Mererid Hopwood lle cawsant y cyfle i sôn am Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru! Dylem ni ymfalchïo’n fawr yn yr hanes rhyngwladol yma pan ddangosodd 390,000 o fenywod eu hewyllys am heddwch a’i rannu ar draws yr UDA er mwyn ymgyrchu dros fyd heb ryfel.
2023
Cynhaliodd Undeb Aber stondin yn y Bandstand ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023. Roedd gan y stondin wybodaeth am ein hymgyrchoedd ar y pryd yn ogystal â thynnu sylw at y menywod anhygoel sy’n gweithio yn Undeb Aber. Daethom ni hefyd â rhai o’r baneri a wnaed gan fyfyrwyr ar gyfer gorymdeithiau Adennill y Nos o’r blynyddoedd diwethaf.
Yn ystod y diwrnod hwnnw, cawsom ni barti te Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Roedd yn gyfle i ni ddathlu llwyddiannau menywod gyda chacenni a the a gwrando ar gerdd ffeministaidd gan Clare Foley a thaith arbennig ein Prif Weithredwraig anhygoel Trish McGrath.
|
Ddiwrnod Rhuban Gwyn
Mae'r Undeb hefyd yn cynnal hyfforddiant i helpu i dorri'r distawrwydd o Drais yn erbyn Menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol. Mae’r hyfforddiant hwn yn cael ei redeg gan Safer Streets ac mae’n agored i bob rhyw. Mae ar gyfer unrhyw un sydd eisiau sefyll, codi eu llais a gweithredu i atal trais dynion yn erbyn menywod.
I gael gwybod pryd fydd yr hyfforddiant nesaf yn cael ei gynnal, e-bostiwch eich Swyddog Llesiant yn:llesiantum@aber.ac.uk
Os oes gennych chi ddiddordeb yn y gwaith hwn, mae croeso i chi gysylltu â llaisum@aber.ac.uk
Eisiau gwybod mwy am yr ymgyrchoedd hyn?