#GrymusoAber

 

Yn 2024 enillom wobr Cydnabyddiaeth UCM Cymru am ein gwaith Grymuso Aber!


Ymgyrch i ysbrydoli menywod a myfyrwyr o rywedd anghydffurfiol Prifysgol Aberystwyth i fod y gorau posibl mewn chwaraeon, cymdeithasau a bywyd academaidd yw #GrymusoAber.

Er mwyn i’r ymgyrch ddigwydd ar y cyd â Mis Hanes Menywod, rydyn ni wedi’i symud i fis Mawrth, a thema eleni yw ‘Menywod sy’n dadlau dros Degwch, Amrywioldeb, a Chynwysoldeb’.

Yn ystod mis #GrymusoAber, byddwn yn annog i gymuned fyfyrwyr Aber roi cynnig ar bethau newydd a gadael eu cylch cysur, boed trwy dreial chwaraeon newydd neu gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasau/academaidd a allai fod o ddiddordeb iddynt.

Rydyn ni’n lansio’r ymgyrch i fyfyrwyr Aberystwyth i ddangos na ddylai eu hofn o gael eu barnu eu rhwystro rhag cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd. Ar ben hyn, credwn ni y dylai myfyrwyr menywaidd ac o rywedd anghydffurfiol fod â chyfle teg a chyfartal ymhob sector o waith a gweithgaredd hamddenol.

Rydyn ni wedi creu’r ymgyrch hon oherwydd ein bod ni eisiau tynnu sylw at feysydd lle bo anghyfartaledd rhwng niferoedd dynion, menywod a’r rheini o rywedd anghydffurfiol sef perchen a rheoli busnesau neu gael swyddi yn y diwydiant Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, a Mathemateg.

Ein gobaith yw bod y mis hwn yn dangos bod croeso i fenywod a myfyrwyr o rywedd anghydffurfiol yn yr holl feysydd hyn trwy eu hannog a’u grymuso fel y byddant yn mynd amdani. Cadwch olwg ar ein gwefan a sianeli ein cyfryngau cymdeithasol yn nes at yr amser i weld calendr ein digwyddiadau a’n cyfleoedd yn ystod yr wythnos!


2024 Atgofion

  
  

 

   
     

 

Pryd: Mawrth cyfan 2025

Amserlen TBC

 

I gofrestru digwyddiad yr ydych yn dymuno ei gynnal, cysylltwch â'ch Swyddog Cyfleoedd, Tiff ar suopportunities@aber.ac.uk 

 

Os hoffech chi ddysgu mwy am yr ymgyrch a ffyrdd o gymryd rhan, cysylltwch â ni:

 

Cyfleoedd Myfyrwyr

Tiff McWillaims

 cyfleoeddum@aber.ac.uk

Llesiant

Emily (Mo) Morgan

llesiantum@aber.ac.uk

 

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576