Dyna Rwtsh o Ymgyrch

Nod ‘Rwtsh o Ymgyrch’ yw ceisio mynd i’r afael â’r broblem bod ‘Aberystwyth yn cael ei difa gan gamddefnydd o gael gwared ar wastraff bwyd’. Ein hateb i hyn yw ‘gwella addysg ac adnoddau am gael gwared ar wastraff i fyfyrwyr yn Aberystwyth.  Awn ati gan:

  • Gosod biniau wedi’u hamlygu’n glir ar draws y campws yn nodi pa bethau sy’n mynd ymhob un.
  • Annog ailgylchu a defnydd o finiau ysbwriel yn nigwyddiadau mawr yr Undeb.
  • Creu adnoddau addysgiadol i fyfyrwyr gyda’r diweddaraf ar newid i’r gyfraith.
  • Gweithio ar y cyd gyda’r Brifysgol a’r Cyngor Lleol.

 


Amcanion Datblygu Cynaliadwy

“wrth wraidd hyn i gyd mae’r 17 SDG, sy’n alwad ar bob gwlad -datblygedig neu wrthi’n datblygu- i weithredu ar frys mewn partneriaeth fyd eang. Maent yn cydnabod bod rhoi pen ar dlodi a diffygion eraill yn rhan annatod o strategaethau sy’n gwella iechyd ac addysg, lleihau anghydraddoldeb, ac ysgogi twf economaidd – gan fynd i’r afael â’r argyfwng amgylcheddol a chydweithio i gadw ein moroedd a’n coedwigoedd.” – y Cenhedloedd Unedig (cyswllt)

Mae ailgylchu ymwybodol a defnyddio biniau yn gywir yn ymwneud â rhif 11, 12 a 14 o’r Amcanion Datblygu Cynaliadwy.

Gellir cymryd golwg yma ar sut mae ysbwriel ac ailgylchu yn ymwneud ag Amcanion Datblygu Cynaliadwy. (yn anffodus, dyw’r ddogfen ond ar gael yn Saesneg, ymddiheuriadau am hyn)


Pam Ailgylchu?

Cefnogi Cefnogi taith Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Aberystwyth i Net Sero.
Gwella  Gwella faint o wastraff a ailgylchir a chyfradd adfer.
Lleihau Lleihau argraff y Brifysgol a’r Undeb ar yr amgylchedd a chyrraedd targedau cynaliadwy a lleihau costau yn gyffredinol.
Cynyddu Cynyddu y gyfradd ailgylchu a lleihau costau rheoli gwastraff.

Mae yna lawer o resymau da dros ailgylchu. Cymerwch olwg ar y broses ailgylchu yma!


Newidiadau i Ddeddfau yng Nghymru

 

O’r 6ed Ebrill 2024, daw yn gyfraith y cyfrifoldeb ar bob busnes, elusen a sefydliad y sector cyhoeddus i drefnu ei gwastraff ar gyfer ailgylchu.

Mae hefyd yn berthnasol i holl gasglwyr a phrosesyddion gwastraff ac ailgylchu sy’n rheoli gwastraff cartref o weithleoedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r ddeddf hon i wella ansawdd a faint o wastraff a’r ffordd mae’n cael ei gasglu a’i wahanu.

 

Gwylio’r fideo yma.

 


“Mae ein cymdeithas yn defnyddio mwy o bacedi nag erioed a hynny’n blastig gan amlaf. Yn ogystal ag annog cynhyrchwyr i leihau hyn cymaint â phosib, bydd rhaid i ni dynnu ein pwysau gan ei roi yn y llefydd cywir wedi’i ddefnyddio, achos gall pethau fynd yn flêr yn sydyn fel arall. Ailgylchu yw’r ateb am y rhan fwyaf.

 

Rhan fawr o boblogaeth Aberystwyth yw myfyrwyr. Felly, maent yn gallu cael argraff mawr ar olwg y lle. Ceredigion yw un o siroedd gorau yng Nghymru o ran ailgylchu, sydd, yn ei thro, y wlad orau o ran ailgylchu yn y DU. Felly gadewch i ni fanteisio ar y gwasanaethau ailgylchu a chasglu gwastraff bwyd y mae’r cyngor yn eu darparu, a’r holl wasanaethau ailgylchu eraill sydd ar gael, a chadw Aberystwyth yn lle gwyrdd a iach.”

 

Alun Williams: Cynghorydd Sir Lleol

 

 


Adnoddau Cyngor Defnyddi

Canllaw y Cyngor i Fyfyrwyr ar Ailgylchu

Safle Gwastraff Cartref a Banciau Ailgylchu

Gwefan Biniau ac Ailgylchu y Cyngor Lleoliadau Banc Ailgylchu

Codi Sbwriel ar gyfer Gwirfoddolwyr

Canllaw Gwastraff
Bydd Wych, Ailgylcha

mwy o Ddulliau Ailgylchu

   

Bydd rhaid gwahanu’r deunyddiau isod i’w casglu a’u casglu ar wahân:

Bwyd

Papur a Cherdyn

Gwydr Metal, Plastig a Phacedi Tecstilau heb eu gwerthu Gwastraff bach offer trydanol ac electrig heb ei werthu

 

Cymerwch olwg ar ein Canllaw Defnyddiol i ddysgu ym mha fin y rhoddir pa bethau.


 

Pam fod y gyfraith yn newid

I wella yr ansawdd a’r faint a ailgylchir mewn gweithleoedd. Mae hyn yn gam pwysig tuag at greu cymdeithas ddiwastraff, lleihau ein hallyriadau carbon a mynd i’r afael â’r argyfwng amgylcheddol.

Er mwyn defnyddio deunydd cyn hired â phosib. Gan fod cost deunydd yn codi, mae parhau i ddefnyddio deunydd ansawdd uchel o fudd i’n heconomi a chefnogi ein cadwyn gyflenwi. Er enghraifft, gan osgoi treth ar gladdfeydd sbwriel a chreu cyfleoedd swyddi.

Ni yw’r gorau yn y DU am ailgylchu domestig a’r trydydd gorau yn y byd fel y mae.

Mae’r ddeddf newydd yn cefnogi ein strategaeth economi gylchol, Beyond recycling.

 

I bwy mae’r ddeddf yn berthnasol:

Bydd rhaid i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus wahanu ei gwastraff.

   

Gweler ein fideos ar TikTok yma!

 


  

Y Cyfrif Plastig Mawr

Y Cyfrif Plastig Mawr: 11-17 Mawrth 2024

Y dyddiad cau i dderbyn cyflwyniadau: 31 Mawrth 2024

Cyhoeddi’r canlyniadau: Ebrill 2024

 

Eich Canllaw

(Dechrau Cyfri') 

Sut Mae Cymryd Rhan

1. Rhwng 11-17 MAWRTH 2024, cyfrwch y plastig rydych chi’n ei ddefnyddio ar y daflen Dechrau Cyfri’. Mae hyn yn cynnwys plastig sy’n mynd i’r bin ac i’w ailgylchu.

2. Pan fyddwch chi allan yn ystod yr wythnos, cofnodwch unrhyw blastig rydych chi’n ei ddefnyddio, megis pecynnau cludo bwyd neu fyrbrydau, yna cofnodwch hyn pan fyddwch chi’n cyrraedd adref.

3. Ar ddiwedd yr wythnos, cyflwynwch eich canlyniadau erbyn 31 MAWRTH 2024 yn thebigplasticcount.com/submit.

Cyfwyno


  

Gweler rhai lluniau o sesiynau Glanhau’r Traeth eleni

Cadwch olwg ar ein Diwrnodau Gwirfoddol o Weithredu i gymryd rhan y tro nesaf.


 


Yn ystod y flwyddyn academaidd 2023-2024, cyfwelodd Undeb Aber â’r cyngor lleol a gofyn cwestiynau ynghylch pwysigrwydd ailgylchu a beth sy’n digwydd i’n sbwriel wedi ei gasglu.

Cyfweliad dwyieithog yw hwn

 


Eisiau gwybod mwy am yr ymgyrchoedd hyn?

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock

ais13@aber.ac.uk

llaisum@aber.ac.uk

 Llywydd Undeb

Bayanda Vundamina

prdstaff@aber.ac.uk

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576