Dy Bleidlais Di

 

Mae eich pleidlais yn bwysig, gwnewch yn siwr nad ydych chi'n ei cholli!


Cofrestrwyd 1,643,456 o etholwyr ifainc newydd ar gyfer yr etholiad cyffredinol hwn! Mae ymgyrch yr UCM wedi cyrraedd 80 miliwn o bobl!


Sgwrsio gyda’r Ymgeiswyr

   

      


  Dyddiadau Pwysig

  • Gohirio Senedd San Steffan (llywodraeth y DU): 24ain Mai

  • Diddymu Senedd San Steffan: 30ain Mai

  • Dyddiau Cau Cofrestru i Bleidleisio: 18fed Mehefin – mae hyn hefyd yn ddyddiad cau ar gyfer Cerdyn Dinasydd

  • Dyddiad Cau i ymgeisio am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr: 26ain Mehefin

  • Diwrnod yr Etholiadau: 4ydd Gorffennaf

  • Galw’r Senedd Newydd i ddod ynghyd: 9fed Gorffennaf

  • Agoriad Swyddogol y Senedd: 17eg Gorffennaf


Ymrwymo i ‘Troi Lan’ ac yr ei di bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol.

Mae’r UCM eisiau i ti addo yr ei di fwrw dy bleidlais yn yr etholiad cyffredinol sydd i ddod. Dangosa i’r llywodraeth bod ots gan fyfyrwyr ac ymrwyma nawr! Ar ben hynny, fe gei di ddiweddariadau ar yr etholiadau oddi wrth yr UCM. Ymrwyma i bleidleisio heddiw!


Holi ac Ateb

Pam ddylwn i fwrw pleidlais yn yr etholiadau i ddod? 

 

Mae'n bwysig eich bod yn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed. Mae’r DU yn cael ei rhedeg gan ddemocratiaeth sy’n golygu bod gan bob un ohonom lais o ran pwy sy’n ein cynrychioli. Yn yr un ffordd mewn Etholiadau Myfyrwyr yn yr UM, rydych chi'n pleidleisio dros eich Swyddogion rydych chi am eich cynrychioli chi ac yn gwneud newidiadau cadarnhaol i fywyd prifysgol, yr etholiad cyffredinol yw ble rydych chi'n pleidleisio dros bwy rydych chi am eich cynrychioli chi yn y DU i wneud newidiadau cadarnhaol i'ch bywyd.

 

Pam fod pob pleidlais o bwys? 

 

Yn yr etholiad diwethaf yn 2019, cofrestrodd 47.5 miliwn o bobl i bleidleisio ond dim ond 67.3% a bleidleisiodd yn yr etholiad. Mae hyn yn golygu na phleidleisiodd 15.5 miliwn o bobl yn yr etholiad. Cafodd y blaid a gafodd y nifer fwyaf o bleidleisiau 13.9 miliwn o bleidleisiau. Mae hyn yn golygu na wnaeth mwy o bobl bleidleisio na'r un a bleidleisiodd i'r blaid fuddugol. Pe bai pawb na wnaeth bleidleisio yn pleidleisio, gallai'r canlyniadau fod yn wahanol iawn.

 

Pwy sy’n cael cofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau cyffredinol ar y gweill? 

 

Dinasyddion y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon, a Gwledydd y Gymanwlad. Ceir mwy ar wefan y llywodraeth.

 

Oes rhaid i fi ddatgan dros bwy y bydda’ i’n pleidleisio wrth eraill? 

 

Gall pleidleisio fod yn beth preifat. Does dim rhaid i chi ddatgelu dros bwy y byddwch chi’n pleidleisio os nad ydych chi eisiau.

 

• Sut ydwi’n cofrestru i bleidleisio?

 

Ar-lein yw ffordd hawsaf a chyflymaf o gofrestru gan ymweld â gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio..

 

Sut mae gwneud yn siwr y ces i fy nghofrestru i bleidleisio?

 

Mae â phob awdurdod lleol ei gofrestr etholedig lleol ei hun. Does dim cofrestr etholiadol ar-lein.

I weld a ydych chi wedi’ch cofrestru, bydd rhaid i chi gysylltu â’ch Swyddfa Gofrestru Etholiadol lleol..

 

Sut fath o ID fydd angen arnaf i? 

 

Mae â gwefan Llywodraeth Prydain rhestr o fathau o ID gaiff eu derbyn pan yn mynd at orsaf bleidleisio. Gellir gweld y rhain ar wefan y llywodraeth yma.

 

Sut gallaf i archebu ID i bleidleisio AM DDIM? 

 

Mae modd i chi archebu cerdyn ID am ddim drwy’r UCM neu Gerdyn Dinasydd (£15 fel arfer) a fydd yn gadael i chi bleidleisio ar ddiwrnod y pleidleisio. Cofiwch y cod: NUS pan yn archebu. Archebu yma https://www.nus.org.uk/citizencard

 

Pwy yw’r ymgeiswyr fydd yn sefyll yn yr Etholiadau yn Aberystwyth? 

 

Ar hyn o bryd mae 4 ymgeisydd yn sefyll yn etholiad San Steffan yng Ngheredigion.o Y Blaid Lafur (San Steffan): Jackie Jones Plaid Cymru: Ben Lake Y Blaid Geidwadol: Aled Jones Y Democratiaid Rhyddfrydol: Mark Williams

 

Sut bydda’ i’n gwybod dros bwy i bleidleisio? 

 

Mae gan bob blaid ac ymgeisydd faniffesto sy’n amlinellu yr hyn yr hoffent ei wneud os cânt eu ethol. Mae’n werth bwrw golwg drostynt a phleidleisio dros y blaid sy’n cyd-weld â’r hyn rydych chi eisiau ei weld. Bydd arweinwyr y prif bleidiau yn cynnal trafodaethau yn fyw ar y teledu. Edrychwch allan am pryd bydd y rhain a gwnawn ein gorau i’ch cadw ar y blaen.

 

Beth yw buddion pleidleisio drwy’r post a bwrw pleidlais mewn gorsaf bleidleisio? 

 

Os byddwch chi’n pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, fe gewch chi ddiwrnod i fynd draw i orsaf bleidleisio benodol yn ôl eich ardal ac yna bwrw eich pleidlais. Os gwnewch chi hyn drwy’r post, anfonir llythyr i’ch drws a bydd cyfnod o amser i lenwi’r ffurflen a’i dychwelyd drwy’r post. Gallwch ofyn am bleidlais bost am unrhyw reswm ond maent yn ffordd fwy hygyrch o bleidleisio os na allwch fynd i orsaf bleidleisio.

 

Beth sy'n digwydd pan fyddaf yn pleidleisio mewn Gorsaf Bleidleisio? 

 

Byddwch yn mynd i’r orsaf bleidleisio a benodwyd i chi a fydd yn dibynnu ar ble rydych yn byw. Bydd yn rhaid i chi ddangos eich ID (ID pleidleisio etholiad cymeradwy) a bydd y gwirfoddolwr wrth y drws yn egluro ble i fynd ac yn rhoi eich papur pleidleisio i chi. Byddant hefyd yn dweud wrthych ble i'w roi ar ôl i chi bleidleisio. Cewch chi lecyn bach i bleidleisio a dim ond chi sy'n cael mynd fel bod eich pleidlais yn breifat a'ch bod yn nodi ar y papur pwy rydych chi am bleidleisio drosto. Weithiau fe gewch chi sticer i ddweud eich bod wedi pleidleisio wedyn – iei

 

Dwi wedi cofrestru ar gyfer Pleidlais Bost ond nawr dwi am bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, a allaf wneud hyn? 

 

Os byddwch chi’n penderfynu gwneud hyn cyn i'r papur pleidleisio gael ei anfon, gallwch ganslo'r bleidlais bost. Os yw'r papur pleidleisio eisoes wedi'i bostio, yna ni fyddwch yn gallu ei ganslo a bydd yn rhaid i chi bleidleisio drwy'r bleidlais bost. Fodd bynnag, bydd rhai gorsafoedd pleidleisio yn caniatáu ichi bostio'ch pleidlais yn yr orsaf bleidleisio os yw mewn amlen wedi'i selio.

 

Beth sy'n digwydd pan fyddaf i’n pleidleisio drwy Bleidlais Post? 

 

Anfonir llythyr atoch i'r cyfeiriad yr ydych wedi cofrestru iddo a byddwch yn llenwi eich papur pleidleisio gartref. Yna bydd angen i chi bostio'r llythyr hwn yn ôl. Bydd yn dweud ar y llythyr erbyn pryd y bydd rhaid ei ddychwelyd. Ni fydd angen i chi dalu i bostio'r llythyr hwn. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru ar gyfer pleidlais bost yw 19 Mehefin. Mae angen i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio cyn cofrestru ar gyfer pleidlais bost.

 

Beth yw Pleidlais drwy Ddirprwy? 

 

Pleidlais drwy ddirprwy yw pan fyddwch yn enwebu rhywun i bleidleisio ar eich rhan. Dych chi'n dweud wrthyn nhw dros bwy rydych chi eisiau pleidleisio a gallan nhw fynd mewn person. Y dyddiad cau ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy yw 26 Mehefin. Mae angen i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio cyn cofrestru ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy. Gallwch gofrestru i wneud pleidlais drwy ddirprwy yma. Pwy allwch chi ofyn i fod yn ddirprwy i chi? • rhywun sydd wedi cofrestru i bleidleisio • rhywun sy’n cael pleidleisio yn y math o etholiad a gynhelir • rhywun sy’n gallu pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio a nodir ar eich cerdyn pleidleisio Mae angen iddynt hefyd ddod ag ID drostynt eu hunain.

 

Dwi wedi cofrestru yn fy nghyfeiriad Prifysgol ond byddaf yn fy nghyfeiriad cartref y tu allan i amser tymor, beth ddylwn i ei wneud? 

 

Mae gennych yr hawl i gofrestru yn eich cyfeiriad cartref a’r un yn ystod y flwyddyn academaidd a'ch cyfeiriad prifysgol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y gallwch bleidleisio ddwywaith - mae'n ddrwg gennyf! Bydd yn rhaid i chi benderfynu ble hoffech chi bleidleisio. Ond braint yw bod mewn sefyllfa lle gallwch ddewis ble bydd eich pleidlais ar ei phwysicaf i chi.

 

Sut mae pleidleisio a chanlyniadau yn gweithio? 

 

Sut mae pleidleisio dim ond dros un person y gallwch chi bleidleisio. Mae pob etholaeth yn ethol un AS i ddal sedd yn y senedd. Pa bynnag blaid sydd â'r nifer fwyaf o ASau etholedig (seddi yn y senedd) sy'n ennill yr etholiad. Er mwyn ffurfio llywodraeth, mae angen 50%+1 o seddi ar y blaid i fod yn llywodraeth fuddugol. Felly, ar ôl i'r holl gyfrifiadau gyrraedd, os nad yw wedi llwyddo, bydd y pleidiau mwy yn gwneud bargeinion gyda phleidiau llai eraill i ymuno â nhw i ddod â nhw i'r canlyniad o 50%+1. Dyma pam y gallwch weithiau gael llywodraeth glymblaid fel yr hyn a ddigwyddodd yn 2010 gyda’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

 

Pryd gawn ni wybod pwy sydd wedi ennill yr etholiad? 

 

Bydd hyn yn dibynnu ar yr etholiad. Caiff y canlyniadau eu cyhoeddi p’un ai pan ddaw i’r amlwg pwy enillith neu unwaith i’r holl bleidleisiau gael eu cyfri. Byddwch yn gallu olrhain y cyfrif wrth iddo ddigwydd. Mewn achosion o senedd grog gall y canlyniadau gymryd ychydig yn hirach.

 


 Mythau Cyffredin sy’n perthyn i Bleidleisio

Gall cofrestru i bleidleisio a bwrw'ch pleidlais ymddangos yn ddryslyd. Isod mae rhai o'r mythau cyffredin ynghylch pleidleisio.

Dim ond unwaith bob pedair mlynedd y cewch chi bleidleisio

 

 Anwir! Tra bod yr Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal bob rhyw bedair mlynedd mae yna lawer o etholiadau eraill y gallwch chi bleidleisio ynddynt. Gallwch chi bleidleisio i ethol eich cynghorwyr lleol, eich aelodau Senedd Ewrop ac os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban neu Gymru gallwch chi bleidleisio dros gyrff datganoledig hefyd!

 

Cha’ i ddim pleidleisio oherwydd ni chefais fy ngeni yn y DU.

 

Ddim o reidrwydd. Os ydych yn ddinesydd yr UE neu'r Gymanwlad, gallwch gofrestru i bleidleisio.

 

Yr unig beth y caf i am gofrestru i bleidleisio yw pleidleisio mewn etholiadau.

 

Anghywir! Ydy, mae’n gadael i chi bleidleisio mewn etholiadau ond mae hefyd yn helpu i wella'ch sgôr credyd!

 

Chaiff fy mhleidlais i fawr o argraff beth bynnag.

 

Allan o 650 o etholaethau yn y DU, canfu ymchwil gan UCM y gallai myfyrwyr ddylanwadu ar y canlyniad yn ddigon i’w newid yn llwyr mewn dros 200 ohonynt. Ac nid mater o bleidleisio’n unig mo hyn chwaith, cyn i chi hyd yn oed gamu i mewn i orsaf bleidleisio gallwch gael argraff sylweddol drwy bwyso ar yr ymgeiswyr dros y materion sydd o bwys i chi.

 

Mae'n rhy hwyr i gofrestru nawr.

 

Na’ ‘di, mae digon o amser! Yn wir, ar gyfer y rhan fwyaf o etholiadau gallwch gofrestru hyd at 11 diwrnod cyn y bleidlais. Hen ddigon o amser. Ar gyfer yr etholiad sy'n digwydd ar y 4ydd o Orffennaf, mae gennych tan y 18fed o Fehefin i gofrestru i bleidleisio!

 

Os byddaf yn cofrestru i bleidleisio bydd fy manylion yn cael eu rhannu gydag eraill.

 

Pan fyddwch yn cofrestru i bleidleisio am y tro cyntaf, oni bai eich bod wedi optio allan bydd eich manylion yn mynd ar ddwy gofrestr, sef y gofrestr etholiadol a’r gofrestr agored. Gyda'r gofrestr agored, sy'n cynnwys eich holl fanylion cyswllt gan gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad, gall unrhyw un brynu hon gan eich awdurdod lleol a defnyddio'ch manylion. Os ydych am osgoi hyn, gallwch nodi yn ystod y broses gofrestru i optio allan neu unwaith y byddwch wedi cofrestru ffoniwch eich cyngor lleol a gofyn iddynt eich tynnu oddi ar y gofrestr.

 

Dydw’i ddim yn gwybod fy rhif Yswiriant Gwladol, felly chaf i ddim cofrestru.

 

Mae hyn yn anodd. Mae angen eich rhif yswiriant gwladol arnoch fel dull adnabod. Yn ffodus gallwch chi ddod o hyd iddo yma..

 

Nid oes gennyf amser i lenwi ffurflen a'i rhoi yn y post.

 

Am lwc i chi, os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban yna gallwch gofrestru ar-lein. Ewch i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Os gallwch gofrestru ar-lein yna gwnewch hynny! Mae'n llawer cyflymach ac yn haws!

 


     DATRYS JARGON ETHOLIADAU

Gwyddom y gall y broses o gofrestru i bleidleisio ymddangos yn eithaf cymhleth a thechnegol. Felly, rydyn ni wedi llunio rhai diffiniadau i wneud yn siwr eich bod chi'n cael yr effaith orau o'ch gwaith cofrestru pleidleiswyr!

Y Comisiwn Etholiadol

 

Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio rhedeg etholiadau. Mae'r corff yn rheoleiddio faint o arian y mae pleidiau ac unigolion yn ei wario yn ystod yr etholiad. Maent hefyd yn gyfrifol am weithredu'r Ddeddf Lobïo, darn o ddeddfwriaeth sy'n rheoleiddio gwaith ymgyrchu elusennau a sefydliadau eraill.

 

Y Gofrestr Etholiadol

 

Y Gofrestr Etholiadol yw'r rhestr o bleidleiswyr cofrestredig mewn etholaeth neu ardal benodol. Os nad ydych ar y gofrestr etholiadol nid ydych yn gymwys i bleidleisio.

 

Swyddog Cofrestru Etholiadol

 

Mae Swyddog Cofrestru Etholiadol yn sefyll am Swyddog Cofrestru Etholiadol, sef unigolyn penodedig sy'n gyfrifol am lunio a chynnal y gofrestr etholiadol.

 

Cofrestru Etholiadol Unigol

 

Cofrestru Unigolion ar gyfer Etholiadau. Mae hon yn system newydd a ddaeth i rym ym mis Mehefin 2014. Mae'r system hon yn golygu bod yn rhaid i bawb gofrestru eu hunain i bleidleisio yn unigol yn hytrach na'r hen system lle byddai un 'penteulu' yn cofrestru pawb mewn eiddo. Mae hyn yn achosi problemau o ran cofrestru myfyrwyr mewn bloc. Edrychwch ar gofrestru blychau ticio fel dewis arall.

 

Awdurdod Lleol

 

Awdurdod lleol yw'r corff gweinyddol mewn llywodraeth leol. Rheolir materion eich ardal leol gan eich awdurdod lleol. Yr awdurdod lleol yw eich cyngor sir neu ddinas agosaf. Efallai y byddwch am wirio pa feysydd y maent yn eu cwmpasu i benderfynu pwy i gysylltu â nhw ynghylch cofrestru fel pleidleisiwr.

 

Rhif Yswiriant Gwladol

 

Os cawsoch eich geni neu os ydych yn byw yn y DU yna cyn eich pen-blwydd yn 16 byddwch yn derbyn eich Rhif Yswiriant Gwladol. Defnyddir y rhif hwn i weinyddu cyfraniadau yswiriant gwladol ac fel dull adnabod. O dan y system newydd o gofrestru etholiadol unigol defnyddir eich rhif yswiriant gwladol yn y broses ddilysu i gofrestru.

 

Y Diwrnod Pleidleisio

 

Mae’r diwrnod pleidleisio yn derm technegol ar gyfer Diwrnod yr Etholiad! Dyma'r diwrnod pan fydd y rhai sydd wedi cofrestru yn cael mynd i bleidleisio.

 

Gorsaf Bleidleisio

 

Yr adeilad yr ewch chi ato i fwrw eich pleidlais yw’r orsaf bleidleisio. Boed yn ganolfan gymunedol neu ysgol.

 

Senedd Grog

 

Term a ddisgrifir sefyllfa lle nad oes yr un blaid wleidyddol na chlymblaid yn gallu ffurfio llywodraeth oherwydd diffyg mwyafrif absoliwt.

 

Llywodraeth Clymblaid

 

Llywodraeth ar sail cytuno ar rannu’r pwerau gweithredol rhwng pleidiau gwleidyddol yw llywodraeth clymblaid (neu gabinet clymblaid). Mae hyn yn golygu y daw o leiaf 2 blaid wleidyddol ynghyd i greu llywodraeth. Enghraifft o hyn yw’r llywodraeth a ffurfiwyd yn sgil etholiadau 2010 pan grëwyd llywodraeth clymblaid rhwng y ceidwadwyr a’r democratiaid rhyddfrydol.

 


Eisiau gwybod mwy am yr ymgyrchoedd hyn?

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock

ais13@aber.ac.uk

llaisum@aber.ac.uk

 Llywydd Undeb

Bayanda Vundamina

prdstaff@aber.ac.uk

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576