Diwrnod Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron

Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron (a elwir hefyd yn Ddiwrnod Gwisgo’n Binc) yn cael ei gynnal bob blwyddyn ar yr 20fed o Hydref. Mae hwn yn ddiwrnod ymgyrchu bywiog a chadarnhaol gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth am ganser y fron, annog canfod canser yn gynnar a chodi arian ar gyfer ymchwil canser y fron a gwasanaethau cymorth. Edrychwch ar Coppafeel a Breast Cancer Now, dwy elusen anhygoel sy'n codi arian ac yn lledaenu ymwybyddiaeth o ganser y fron ac y gall unrhyw oedran ac unrhyw rywedd gael eu heffeithio ganddo.

Ar gyfer Diwrnod Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron bu Undeb y Myfyrwyr yn cydweithio â Coppafeel ac roedd bwrdd yn yr Undeb lle rhoesom wybodaeth bwysig i fyfyrwyr, gan ddarparu taflenni gwybodaeth.

                                                                                                                                                                                     

2023

Ewch i weld ein TikTok ar gyfer Diwrnod Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron!

Ar gyfer Diwrnod Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron bu Undeb y Myfyrwyr yn cydweithio â Coppafeel ac roedd bwrdd yn yr Undeb lle rhoesom wybodaeth bwysig i fyfyrwyr, gan ddarparu taflenni gwybodaeth.

Roedd yn wych siarad â chymaint o fyfyrwyr a lledaenu’r gair.


"Rhoddodd 'Think Pink' neu Ddiwrnod Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron gyfle i ni addysgu myfyrwyr am bwysigrwydd gwirio'ch hun. ‘Be’ bynnag chi’n ’u galw, cofiwch roi sylw!’ yw neges fachog gynhwysol y mae CoppaFeel yn ei defnyddio fel ffordd o amlygu’r ffaith y gall hyn effeithio ar unrhyw un sydd â meinwe’r fron. Fel myfyrwraig roeddwn yn ymroddedig i Tickled Pink ac roeddwn wrth fy modd yn cyflwyno'r ysgolion bronnau i chwalu rhai mythau ynghylch ganser y fron. Mae'n effeithio ar fwy o bobl na’r disgwyl, boed hynny'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, bydd y rhan fwyaf o bobl yn deall yr effeithiau y gall hyn ei gael ar deuluoedd. Mae'n bwysig yn ein cymuned ein bod yn gallu cydnabod ac addysgu ar y mater hwn. Ac mae'n bwysig i mi allu ennyn diddordeb pobl yn y sgwrs hon. Nid problem i fenywod yn unig mohoni."

- Helen Cooper Swyddog Llesiant 2023-2024


Eisiau gwybod mwy am yr ymgyrchoedd hyn?

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

ais13@aber.ac.uk

llaisum@aber.ac.uk

Undeb Addysg

Emily (Mo) Morgan

UndebAddysgUnionWelfare@aber.ac.uk

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576