Ein nod yw sicrhau bod pob myfyriwr Aberystwyth yn caru bywyd myfyrwyr a’u bod yn teimlo wedi’u grymuso.
Fodd bynnag, mae amrywiaeth ein corff myfyrwyr yn golygu bod amryw heriau’n wynebu ein myfyrwyr bob dydd.
Rydym yn cydnabod bodolaeth ac effaith y rhwystrau hynny ac yn helpu i fyfyrwyr ymgyrchu yn erbyn yr heriau hynny. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar rymuso, addysg a chreu newid go iawn.
Yn gyntaf oll, myfyrwyr sy’n arwain ein hymgyrchoedd gyda chefnogaeth gan Swyddogion Llawn Amser a Gwirfoddol sydd wedi’u hethol i gynrychioli ac ymgyrchu dros faterion penodol.
Eisiau dechrau eich ymgyrch eich hun? Ewch i weld ein hadnoddau yma.
Ymgyrchoedd Cyfredol:
Ymgyrchoedd Cenedlaethol:
Rhyddhad
Mae'r mudiad rhyddhad yn ymgyrchu dros hawliau cyfartal a thros grwpiau o bobl sy'n wynebu rhagfarn, anghydraddoldebcael, cael eu hallgau, a rhwystrau.
Mae gan UMAber swyddogion etholedig sy’n casglu adborth a threfnu digwyddiadau ac ymgyrchoedd ar ran myfyrwyr sy'n hunan-ddiffinio yn y grwpiau hyn:
- Menywod
- LHDT+
- Anabl
- Croenddu, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig
Mae’r Swyddogion Gwirfoddol sy’n cael eu ethol i gynrychioli’r grwpiau hyn yn hunaniaethu yn bersonol o fewn y grwp maent yn eu cynrychioli. I ddysgu pwy sy’n eich cynrychioli chi, cliciwch yma.
Adrannau
Mae’r adrannau'n cyfeirio at grwpiau o fyfyrwyr sy'n gallu cael profiadau gwahanol yn y Brifysgol gan ddibynnu ar eu hoedran, eu dull o astudio neu eu cenedligrwydd.
Mae gan UMAber swyddogion etholedig sy’n casglu adborth a threfnu digwyddiadau ac ymgyrchoedd ar ran myfyrwyr sy'n hunan-ddiffinio yn y grwpiau hyn:
- Rhyngwladol
- Aeddfed (wedi dechrau yn y Brifysgol ar ôl 21 oed)
- Ôl-raddedig
- Siaradwyr Cymraeg
- Annibynnol (mae hyn yn derm ymbarél sy’n cynnwys y rhai sy’n gadael gofal, myfyrwyr sydd wedi’u hymddieithrio, ffoaduriaid, gofalwyr ifainc a/neu rieni mewn addysg.)
Mae’r Swyddogion Gwirfoddol sy’n cael eu hethol i gynrychioli’r grwpiau hyn yn hunaniaethu yn bersonol o fewn y grwp maent yn eu cynrychioli. I ddysgu pwy sy’n eich cynrychioli chi, cliciwch yma.
Ymgyrchoedd eraill
Gan fod ein hymgyrchoedd yn cael eu cyflwyno a'u cynnal gan fyfyrwyr, mae amrywiaeth eang o syniadau! Gyda chymorth y swyddogion etholedig, mae myfyrwyr yn cynnal ymgyrchoedd ar y meysydd canlynol:
- Codi arian at elusennau (RAG - Codi a Rhoddi)
- Yr Amgylchedd a Chynaladwyedd
Cliciwch yma i ddarllen mwy am waith ein swyddogion a'u hymgyrchoedd.
Os oes gennych chi syniad am ymgyrch newydd, cysylltwch â ni neu rhannwch eich syniad