Mae’r Cyfarfod Mawr (Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol) yn ddigwyddiad rydym yn ei gynnal bob blwyddyn i sicrhau bod aelodau’n cael cyfle i ddweud eu dweud ynglyn â gweithgareddau, safbwyntiau gwleidyddol a mwy!
Mae pob myfyriwr cofrestredig yn aelod awtomatig o Undeb y Myfyrwyr a gall fynychu’r cyfarfod, yn ogystal â siarad a phleidleisio. Rhaid cael 100 o aelodau’n bresennol i’r cyfarfod fynd yn ei flaen.
Os cynhelir y cyfarfod wyneb-yn-wyneb byddwn yn gwirio eich bod yn aelod wrth i chi gyrraedd, gan ddefnyddio eich CerdynAber i ddilysu eich aelodaeth – felly cofiwch ddod â’ch cerdyn gyda chi fel prawf eich bod yn fyfyriwr!
Os cynhelir cyfarfod ar-lein, bydd tocynnau am ddim ar gael trwy ein gwefan.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau mynediad cyfartal i’n holl fyfyrwyr. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â hygyrchedd, neu os ydych chi angen unrhyw ddogfennau sy’n perthyn i’r cyfarfod mewn fformat penodol, yna rhowch wybod i ni!
Mae myfyrwyr yn cyflwyno ‘Syniadau’ ymlaen llaw. Syniad yw unrhyw beth a gyflwynir gan fyfyrwyr sy’n gofyn i UMAber wneud y canlynol:
- Dechrau gweithgaredd newydd
- Peidio neu newid gweithgaredd cyfredol
- Mabwysiadu neu newid safbwynt
- Diweddaru neu newid polisi cyfredol
…a llawer mwy! Gallai Syniad fod yn unrhyw beth, cyn belled â’i fod yn effeithio ar Fyfyrwyr Aberystwyth.
Yn ystod y cyfarfod, cewch ddewis siarad naill ai Saesneg neu Gymraeg!
Os cynhelir y cyfarfod wyneb-yn-wyneb, bydd cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn ystod y cyfarfod drwy wasanaeth galwad cynhadledd, felly cofiwch ddod â’ch ffôn gyda chi.
Bydd y gwasanaeth hwn yn defnyddio rhif 03 sydd ddim yn costio mwy na galwad ar y raddfa genedlaethol i unrhyw rif 01 neu 02 number ac mae’n cyfrif tuag at unrhyw funudau cynwysedig.
Mae mwy o wybodaeth am gyfarfodydd fel y rhain i’w gweld yn adran Llywio Aber o’r wefan.
Oddi yno gallwch ganfod mwy ynglyn â pha fyfyrwyr sy’n eich cynrychioli chi yng nghyfarfodydd y cyngor, rhannu Syniadau, darllen ein polisïau cyfredol a mwy.
Peidiwch ag anghofio bod ein drysau ni wastad ar agor ac mae croeso i chi anfon neges atom ni – felly peidiwch â bod ofn cysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os ydych chi angen cymorth!