Swyddog Myfyrwyr Traws ac o Rywedd Anghydffurfiol

Marty Fennell? (Fe/Ei) - Swyddog Myfyrwyr Traws ac o Rywedd Anghydffurfiol

Mae Marty yn cefnogi holl ryddid i fyfyrwyr Traws ac o rywedd anghydffurfiol yn yr Undeb.

E-bost: sharemb46@aber.ac.uk

 

Cyfrifoldebau holl Swyddogion Gwirfoddol

  • Mynychu pob cyfarfod Undeb Aber a’r Brifysgol gan gynnwys cyfarfodydd y Senedd a Fforymau.
  • Gweithredu mewn modd proffesiynol a phriodol bob amser.
  • Sicrhau bod yr holl benderfyniadau a chamau gweithredu yn cael eu cymryd yn unol â chyfansoddiad Undeb Aber a pholisi cyfredol Undeb Aber.
  • Bod yn barod i adrodd ar gynnydd y gwaith o dan eu cylch gorchwyl.
  • Cyfarfod a chysylltu'n rheolaidd â Swyddogion Ymddiriedolwyr ac aelodau staff perthnasol.
  • Mynychu y digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch perthnasol trwy gydol y flwyddyn.
  • Mynychu’r holl hyfforddiant perthnasol i’w rôl.

 

Cyfrifoldebau y Swyddog Myfyrwyr Traws ac o Rywedd Anghydffurfiol.

  • Cynrychioli myfyrwyr sy’n huniaethu fel Traws ac o Rywedd Anghydffurfiol (sef y rheini sy’n Draws a hefyd yn anneuaidd neu’n Anghydffurfiol eu Rhywedd) ar faterion sy’n berthnasol iddynt.
  • Cydlynu ac arwain ymgyrchoedd dros faterion sy’n ymwneud ag anghenion myfyrwyr Traws ac o Rywedd Anghydffurfiol. · Bod yn ffynhonnell wybodaeth a man cyswllt i fyfyrwyr Traws ac o Rywedd Anghydffurfiol.
  • Rhoi cyngor i Undeb Aber ar y ffyrdd y gall wella ei waith yn ôl anghenion myfyrwyr Traws ac o Rywedd Anghydffurfiol.
  • Gweithio gyda myfyrwyr, y swyddogion llawn amser a swyddogion ar draws Cymru a’r DU i sicrhau bod anghenion myfyrwyr Traws ac o Rywedd Anghydffurfiol yn cael eu cynrychioli.

Blaenoriaethau Presennol:

Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Marty yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae e wedi’i wneud hyd yma.

Y Swyddog Myfyrwyr LHDTC+ a’r Swyddog Traws a Myfyrwyr o Rywedd Anghydffurfiol fydd yn gweithio ar y cyd ar y blaenoriaethau hyn.

Bod yn aelod effeithiol o’r Senedd.
Gwella toiledau ar y campws, dangos lle mae’r toiledau niwtral o ran rhywedd i’w cael ar y campws yn ogystal ag ymgyrchu dros barchu nwyddau misglwyf mewn toiledau gwrywaidd.
Gwneud Mis Hanes LDHTC+ a Mis y Balchder yn fwy amrywiol ac ymaelodi â Grŵp Rhyddid UCM
Sefydlu Fforwm LDHTC+ unwaith bob tymor i fyfyrwyr roi gwybod am rwystrau posib i’r Gymuned LDHTC+ yn y Brifysgol.
Cefnogi’r Undeb gyda gwaith polisi megis yr Wythnos SHAG ac Yma a Thraws.

 


Os hoffech chi gymryd rhan neu ddysgu mwy, e-bostiwch ...

 

 

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock 

Ais13@aber.ac.uk

LlaisUM@aber.ac.uk

Swyddog Myfyrwyr Traws ac o Rywedd Anghydffurfiol

Marty Fennell?

daf38@aber.ac.uk

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576