Swyddog Myfyrwyr Annibnnol

Kathleen Hinton Pritchard - Swyddog myfyrwyr annibnnol

"Mae kathleen yn cefnogi cynrychioli myfyrwyr annibynnol yn yr Undeb."

Mae Swydd Gyfethol yn golygu na cheir pleidleisio yn y Senedd, ond bod deiliad y swydd hon yn cyflawni pob cyfrifoldeb arall.

E-bost: khp6@aber.ac.uk

 

 

Cyfrifoldebau holl Swyddogion Gwirfoddol

  • Mynychu pob cyfarfod Undeb Aber a’r Brifysgol gan gynnwys cyfarfodydd y Senedd a Fforymau.
  • Gweithredu mewn modd proffesiynol a phriodol bob amser.
  • Sicrhau bod yr holl benderfyniadau a chamau gweithredu yn cael eu cymryd yn unol â chyfansoddiad Undeb Aber a pholisi cyfredol Undeb Aber.
  • Bod yn barod i adrodd ar gynnydd y gwaith o dan eu cylch gorchwyl.
  • Cyfarfod a chysylltu'n rheolaidd â Swyddogion Ymddiriedolwyr ac aelodau staff perthnasol.
  • Mynychu y digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch perthnasol trwy gydol y flwyddyn.
  • Mynychu’r holl hyfforddiant perthnasol i’w rôl.

 

Cyfrifoldebau y Swyddog Myfyrwyr Annibynnol

• Cynrychioli myfyrwyr sy'n nodi eu bod yn annibynnol (gan gynnwys y rhai sy'n gadael gofal, myfyrwyr sydd wedi dieithrio, ffoaduriaid, gofalwyr ifanc, a rhieni mewn addysg) ar faterion sy'n berthnasol iddynt.

• Cydlynu ac arwain ymgyrchoedd ar faterion yn ymwneud ag anghenion myfyrwyr annibynnol.

• Gweithredu fel ffynhonnell gwybodaeth a phwynt cyswllt i fyfyrwyr annibynnol.

• Cynghori Undeb Aber ar ffyrdd y gall wella ei waith yn unol ag anghenion myfyrwyr annibynnol.

 
• Gweithio gyda myfyrwyr, swyddogion amser llawn a swyddogion ledled Cymru a'r DU i sicrhau bod anghenion myfyrwyr annibynnol yn cael eu cynrychioli.

 


Blaenoriaethau Presennol:

Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Kathleen yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae e wedi’i wneud hyd yma…

Bod yn aelod effeithiol o’r Senedd.
Creu pamffledi gwybodaeth ar gyfer neuaddau preswyl myfyrwyr sy’n tynnu sylw at nwyddau angenrheidiol a allai fod o ddefnydd i fyfyrwyr, gydag opsiwn i roi’r cynnwys hwn ar y wefan.
Cydweithio gyda’r Swyddog Rhyngwladol i gefnogi myfyrwyr sy’n aros ar y campws yn ystod y gwyliau.
Darparu gwybodaeth glir a hygyrch am y swydd a chyfrifoldebau’r Swyddog Annibynnol.

Adnoddau ar gyfer Fyfyrwyr Annibynnol:

Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Addysg Pobl sy’n Gadael Gofal (NNECL) - mae hwn yn sefydliad sy’n cefnogi pobl ifainc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Ei brif nod yw rhoi cyfleoedd i’r rhai sy’n gadael gofal fel bod cyfle teg iddynt lwyddo yn eu bywyd fel oedolyn. Mae’r NNECL yn cynnig aelodaeth am ddim i fyfyrwyr prifysgol, a ddaw â manteision megis manteisio ar gynllun webinar y NNECL, cylchlythyrau bob mis, a digwyddiadau NNECL eraill. Tudalen we 

Gingerbread - sefydliad sy’n cefnogi rhieni sengl ac yn cynnig cymorth a gwybodaeth iddynt yw Gingerbread. Mae hefyd yn darparu rhwydwaith o gefnogaeth i rieni sengl, fel nad oes rhaid iddynt wynebu anawsterau ar eu pennau eu hun. Mae’n bwysig nodi bod Gingerbread hefyd yn cynnig cyngor ar amryw anawsterau y mae rhieni sengl yn eu hwynebu ee tai, anabledd, LDHTC+, astudio ayyb…. Mae’r wefan hon ar gael am ddim ac nid oes rhaid i rieni fod yn fyfyrwyr i fanteisio ar yr wybodaeth hon. Tudalen we

Gweithredu dros Ffoaduriaid sy’n Fyfyrwyr (Student Action for Refugees) - Mae gan y wefan hon gasgliad eang o wybodaeth a chyngor ar gael i fyfyrwyr sy’n ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae gan Student Action for Refugees wybodaeth a fydd o fudd gyda’ch cais prifysgol, cymorth cyfreithiol, cyfleoedd cyflog, cymorth i’r gymuned LDHTC+. Mae hefyd gan y wefan hon restr e-bostio i glywed y diweddaraf ar ddyddiau cau ar gyfer ysgoloriaethau a chyfleoedd eraill. Tudalen we

Comisiynydd Plant Cymru - Mae’r Comisiynydd Plant yn cynnig llawer o gyngor a gwybodaeth i ofalwyr ifainc ar ystod eang o faterion y gallent fod yn eu hwynebu. Mae â’r wefan hon gysylltiadau gyda sefydliadau eraill sy’n cefnogi gofalwyr ifainc megis Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Young Carers Alliance a Caring Together. Mae cynnwys y Comisiynydd Plant ar gael am ddim i bawb, yn fyfyriwr neu beidio. Mae’r wefan hon ar gyfer myfyrwyr prifysgol yn benodol a ganddi wybodaeth am fwrsariaethau a chymorth ariannol eraill y gall prifysgolion eu darparu. Tudalen we - (Saesneg/DU)  (Cymraeg/Cymru)


Os hoffech chi gymryd rhan neu ddysgu mwy, e-bostiwch ...

 

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock 

Ais13@aber.ac.uk

LlaisUM@aber.ac.uk

  Swyddog myfyrwyr annibnnol

Kathleen

umannibnnol@aber.ac.uk

 

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576