Tristan Wood (Fe/Hi) - Swyddog LHDTQ+
"Mae Tristan yn cefnogi myfyrwyr o’r grwp rhyddhau LDHTC+ yn yr Undeb."
Email: suvoice@aber.ac.uk
Cyfrifoldebau holl Swyddogion Gwirfoddol
- Mynychu pob cyfarfod Undeb Aber a’r Brifysgol gan gynnwys cyfarfodydd y Senedd a Fforymau.
- Gweithredu mewn modd proffesiynol a phriodol bob amser.
- Sicrhau bod yr holl benderfyniadau a chamau gweithredu yn cael eu cymryd yn unol â chyfansoddiad UMAber a pholisi cyfredol Undeb Aber.
- Bod yn barod i adrodd ar gynnydd y gwaith o dan eu cylch gorchwyl.
- Cyfarfod a chysylltu'n rheolaidd â Swyddogion Ymddiriedolwyr ac aelodau staff perthnasol.
- Mynychu y digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch perthnasol trwy gydol y flwyddyn.
- Mynychu’r holl hyfforddiant perthnasol i’w rôl.
Cyfrifoldebau’r Swyddog LDHTC+
|
• Cynrychioli myfyrwyr sy'n ystyried eu hunain fel LGBTQ+ ar faterion sy'n berthnasol iddynt.
• Cydlynu ac arwain ymgyrchoedd ar faterion yn ymwneud ag anghenion myfyrwyr LGBTQ+.
• Gweithredu fel ffynhonnell gwybodaeth a phwynt cyswllt ar gyfer myfyrwyr LGBTQ+.
• Cynghori Undeb Aber ar ffyrdd y gall wella ei waith yn unol ag anghenion myfyrwyr LGBTQ+.
|
Gweithio gyda myfyrwyr, swyddogion amser llawn a swyddogion ledled Cymru a’r DU i sicrhau bod anghenion myfyrwyr LGBTQ+ yn cael eu cynrychioli a hyrwyddo nodau’r Ymgyrch LGBTQ+
Blaenoriaethau Presennol
Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Tristan yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae e wedi’i wneud hyd yma.
Y Swyddog Myfyrwyr LHDTC+ a’r Swyddog Traws a Myfyrwyr o Rywedd Anghydffurfiol fydd yn gweithio ar y cyd ar y blaenoriaethau hyn.
Bod yn aelod effeithiol o’r Senedd. |
|
Gwella toiledau ar y campws, dangos lle mae’r toiledau niwtral o ran rhywedd i’w cael ar y campws yn ogystal ag ymgyrchu dros barchu nwyddau misglwyf mewn toiledau gwrywaidd. |
|
Gwneud Mis Hanes LDHTC+ a Mis y Balchder yn fwy amrywiol ac ymaelodi â Grŵp Rhyddid UCM |
|
Sefydlu Fforwm LDHTC+ unwaith bob tymor i fyfyrwyr roi gwybod am rwystrau posib i’r Gymuned LDHTC+ yn y Brifysgol. |
|
Cefnogi’r Undeb gyda gwaith polisi megis yr Wythnos SHAG ac Yma a Thraws. |
|
Os hoffech chi gymryd rhan neu ddysgu mwy, e-bostiwch ...