Francesco Lanzi - Cadeirydd yr undeb
“Mae Francesco yn cefnogi strwythurau democrataidd yr Undeb.”
E-bostl: umcadeirydd@aber.ac.uk
Cyfrifoldebau holl Swyddogion Gwirfoddol
- Mynychu pob cyfarfod Undeb Aber a’r Brifysgol gan gynnwys cyfarfodydd y Senedd a Fforymau.
- Gweithredu mewn modd proffesiynol a phriodol bob amser.
- Sicrhau bod yr holl benderfyniadau a chamau gweithredu yn cael eu cymryd yn unol â chyfansoddiad Undeb Aber a pholisi cyfredol Undeb Aber.
- Bod yn barod i adrodd ar gynnydd y gwaith o dan eu cylch gorchwyl.
- Cyfarfod a chysylltu'n rheolaidd â Swyddogion Ymddiriedolwyr ac aelodau staff perthnasol.
- Mynychu y digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch perthnasol trwy gydol y flwyddyn.
- Mynychu’r holl hyfforddiant perthnasol i’w rôl.
Cyfrifoldebau Cadeirydd yr Undeb
- Gweithio gyda'r Llywydd a'r staff perthnasol i drefnu Cyfarfodydd y Senedd a Chyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol, gan sicrhau bod cyfarfodydd wedi'u trefnu a'u hysbysebu'n dda.
- Cadeirio'r Senedd a Chyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol yn effeithiol gyda dealltwriaeth gref o ofynion Cyfansoddiad Undeb Aber. Ymgynghori â'r staff a'r swyddogion perthnasol i sicrhau bod ymagwedd bwrpasol yn cael ei mabwysiadu wrth ddehongli Cyfansoddiad Undeb Aber.
- Sicrhau bod aelodau Undeb Aber yn deall gweithdrefnau Cyfarfodydd y Senedd a Chyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol yn dda.
- Sicrhau y cedwir at reolau a safonau ymddygiad Undeb Aber yng Nghyfarfodydd y Senedd a Chyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol, yn enwedig o ran polisïau craidd Undeb Aber.
Blaenoriaethau Presennol:
Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Francesco yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae e wedi’i wneud hyd yma…
Bod yn aelod effeithiol o’r Senedd. |
|
|
|
|
|
Os hoffech chi gymryd rhan neu ddysgu mwy, e-bostiwch ...